Nos Ystwyll (drama)
| Enghraifft o: | gwaith dramatig |
|---|---|
| Awdur | William Shakespeare |
| Iaith | Saesneg Modern Cynnar |
| Dyddiad cyhoeddi | 1623 |
| Dechrau/Sefydlu | 1601 |
| Genre | comedi trasig |
| Cymeriadau | Feste, Viola, Sebastian, Orsino, Olivia, Malvolio, Maria, Toby Belch, Andrew Aguecheek |
| Yn cynnwys | O Mistress Mine |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02_tkj |
| Quora | Twelfth-night-1601-play |

Comedi ramantus gan William Shakespeare yw Nos Ystwyll (Saesneg Twelfth Night, or What you Will) a chredir iddi gael ei chyfansoddi tua 1601–1602 fel adloniant Nos Ystwyll. Trosodd J. T. Jones y ddrama i'r Gymraeg ar gyfer cystadleuaeth trosi drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a daeth i'r brig ym mhrifwyl 1952.
Mae'r ddrama'n canolbwyntio ar yr efeilliaid Viola a Sebastian, sy'n cael eu gwahanu mewn llongddrylliad. Mae Viola (wedi'i chuddio fel gwychfab "eunych" o'r enw 'Cesario') yn syrthio mewn cariad â'r Dug Orsino, sydd yn ei dro mewn cariad â'r Iarlles Olivia. Ar ôl cwrdd â Viola, mae'r Iarlles Olivia yn syrthio mewn cariad â hi, gan feddwl ei bod hi'n ddyn.
Cafwyd y perfformiad cyhoeddus cyntaf ohoni [a ddogfennwyd] ar 2 Chwefror 1602, yn ystod Gŵyl y Canhwyllau, diwedd ffurfiol tymor y Nadolig yng nghalendr y flwyddyn. Ni chyhoeddwyd y ddrama nes iddi gael ei chynnwys yn y Ffolio Cyntaf 1623.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Enwau Saesneg
Shakespeare |
Trosiad J. T. Jones | Disgrifiad |
|---|---|---|
| Viola | Viola | merch ifanc o long-ddrylliad sy'n cuddio fel gwychfab [page] o'r enw Cesario. |
| Sebastian | Sebastian | efaill Viola |
| Duke Orsino | Orsino | Dug Illyria |
| Olivia | Olivia | duges gyfoethog |
| Malvolio | Malvolio | goruchwiliwr yn nhŷ Olivia |
| Maria | Maria | gwasanaethyddes Olivia |
| Sir Toby Belch | Syr Tobi Belsh | ewythr Olivia |
| Sir Andrew Aguecheek | Syr Andrw Aguecheek | cyfaill i Syr Tobi |
| Feste | Ffeste | gwasanaethyddwr Olivia a Gwawdiwr [jester] |
| Fabian | Ffabian | gwasanaethyddwr Olivia |
| Antonio | Antonio | capten llong; cyfaill Sebastian |
| Valentine a Curio | Valentein a Cwrio | swyddogion yn nhŷ'r Dug |
| A Sea Captain | - | cyfaill Viola. |
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Fe egyr y ddrama gyda'r llinellau enwog:
"Os porthir serch â miwsig, ewch ymlaen!
Moeswch ormodedd, a rhowch syrffed im,
Oni chlafycho'r chwant a marw o'm mewn."
Yn dilyn llongddrylliad ar arfordir Illyria, mae Viola wedi cyrraedd y lan gyda chymorth y capten. Mae hi wedi colli cysylltiad â'i brawd a'i hefaill, Sebastian, gan gredu ei fod wedi boddi. Gyda chymorth y Capten mae hi'n cuddio fel dyn ifanc o'r enw Cesario ac yn mynd i wasanaethu'r Dug Orsino, sef Dug Illyria. Mae Orsino wedi argyhoeddi'i hun ei fod mewn cariad ag Olivia sydd mewn galar, ac felly'n gwrthod derbyn unrhyw adloniant am saith mlynedd, na bod yng nghwmni dynion, na derbyn cynigion am gariad neu briodas gan unrhyw un, gan gynnwys Orsino. Yna mae Orsino'n defnyddio 'Cesario' fel cyfryngwr i gyffesu ei gariad angerddol at Olivia. Ond mae Olivia'n syrthio mewn cariad â 'Cesario', gan ei rhoi mewn gwrthdaro â'i dyletswydd honedig. Yn y cyfamser, mae Viola wedi syrthio mewn cariad ag Orsino, gan greu triongl cariad: mae Viola'n caru Orsino, mae Orsino'n caru Olivia, ac mae Olivia'n caru Viola wedi'i chuddio fel Cesario.
Yn yr is-blot comig, mae sawl cymeriad yn cynllwynio i sicrhau bod Olivia yn credu ei bod wedi syrthio mewn cariad gyda'i gorchuchwyliwr honfawr, Malvolio. Mae hyn yn cynnwys ewythr terfysglyd Olivia, Syr Toby Belch; darpar gariad arall, y sgweiar gwirion Syr Andrew Aguecheek; gweision Olivia, Maria a Fabian; a ffŵl doniol Olivia, Feste. Mae Syr Toby a Syr Andrew yn yfed ac yn mwynhau'r hwyl, gan amharu ar heddwch cartref Olivia tan yn hwyr yn y nos, gan annog Malvolio i'w ceryddu. Mae Syr Toby yn ateb, "'Wyt ti'n meddwl, am dy fod ti'n fucheddol, na cheir na theisen na chwrw byth mwy?"[1]

Mae Maria'n awgrymu dial ar Malvolio drwy ei argyhoeddi'n gyfrinachol bod Olivia mewn cariad ag ef. Mae hi'n ffugio llythyr cariad, gan efelychu llawysgrifen Olivia, ac yn ei blannu yn yr ardd. Mae'r llythyr yn gofyn i Malvolio wisgo hosanau melyn â gartiau croes—lliw a ffasiwn y mae Olivia yn eu casáu, i fod yn anghwrtais wrth weddill y gweision, ac i wenu'n gyson ym mhresenoldeb Olivia. Wedi'i wylio gan Syr Toby, Syr Andrew, a Fabian, mae Malvolio'n dod o hyd i'r llythyr, ac er synnu, mae'n falch iawn. Mae'n dechrau dilyn cyfarwyddiadau'r llythyr i ddangos ei deimladau at Olivia. Mae Olivia wedi'i syfrdanu gan y newidiadau ynddo a, chan gytuno ei fod yn ymddangos yn wallgof, mae'n ei adael i gael ei boenydio gan ei boenydwyr. Gan esgus bod Malvolio yn wallgof, mae'r poenydwyr yn ei gloi mewn siambr dywyll. Mae Feste, wedi'i guddio fel offeiriad, yn ymweld â Malvolio i wneud hwyl am ei wallgofrwydd honedig.
Yn y cyfamser, mae efaill Viola, Sebastian, wedi cael ei achub gan Antonio, capten môr a fu’n ymladd ag Orsino yn y gorffennol, ond sy’n mynd gyda Sebastian i Illyria, er gwaetha'r perygl, oherwydd ei edmygedd o Sebastian.
Gyda’u hoffder o jôcs ymarferol, mae Syr Toby a Fabian yn perswadio Syr Andrew i herio Cesario i ornest, gan wybod na all y naill na’r llall ymladd. Torrir ar draws eu gornest gychwynnol gan Antonio, sy’n credu mai Cesario yw Sebastian. Yna mae swyddogion Orsino'n arestio Antonio. Wedi’i galonogi gan hyn, mae Syr Andrew yn camgymryd Sebastian am Cesario ac yn ei daro, gan annog Sebastian i guro Syr Andrew. Mae Olivia yn dyst i’r ysgarmes ac yn ceryddu Syr Toby, Syr Andrew, a Fabian. Gan gam-gymryd Sebastian am ‘Cesario’, mae Olivia yn gofyn iddo ei phriodi, ac maent yn priodi’n gyfrinachol mewn eglwys. Pan fydd ‘Cesario’ a Sebastian yn ymddangos ym mhresenoldeb Olivia ac Orsino, mae mwy o ryfeddod a dryswch ynghylch eu tebygrwydd corfforol. Ar y pwynt hwn, mae Viola'n datgelu ei gwir adnabyddiaeth, ac yn cael ail-gyfarfod â’i brawd.

Wedi'r ail-gyfarfod a'r datgelu, mae'r holl ddryswch yn cael ei ddatrys. Mae Orsino a Viola'n priodi ac mae Antonio'n cael ei ryddhau. Mae Fabian yn cyfaddef y cynllwyn yn erbyn Malvolio, ac yn datgelu bod Syr Toby wedi priodi Maria. Mae Malvolio'n tyngu dial ar ei boenydio ac yn dianc, ond mae Orsino'n anfon Fabian i'w dawelu. Mae'r ddrama'n dod i ben gyda chân a genir gan Feste:
"Ond hen erbyn hyn yw'r ddaear fawr,
(Gyda hei-ho, a'r curlaw ar fy ngrudd);
Rhown derfyn, dro, ar ein chwarae'n awr:
(Ac ymrown i'ch plesio nos a dydd)."[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Credir bod y ddrama wedi'i dylanwadu'n helaeth gan y cynhyrchiad Eidalaidd Gl'ingannati (Y Rhai Twylledig) ym 1531.[2] Tybir bod enw'r prif actor gwrywaidd, Orsino, wedi'i awgrymu gan Virginio Orsini, Dug Bracciano, uchelwr Eidalaidd a ymwelodd â Llundain yng ngaeaf 1600–01.[3]
Mae "Nos Ystwyll" yn cyfeirio at y ddeuddegfed noson ar ôl Dydd Nadolig, a elwir hefyd yn Noswyl Gŵyl yr Ymddangosiad. Yn wreiddiol, roedd yn ŵyl Gatholig, ac yn cael ei hystyried weithiau fel achlysur am hwyl, fel dyddiau gŵyl Cristnogol eraill. Byddai gweision yn aml yn gwisgo fel eu meistri a dynion fel menywod. Byddai'r Piwritaniaid yn gwrthwynebu dathliadau Ystwyll yn aml, yn union fel y mae Malvolio yn gwrthwynebu'r hwyl a sbri yn y ddrama.[4]

Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Dadleua rhai ysgolheigion bod y ddrama wreiddiol yn Saesneg wedi'i chomisiynu i'w pherfformio fel rhan o ddathliadau Nos Ystwyll a gynhaliwyd gan y Frenhines Elisabeth I ym Mhalas Whitehall ar 6 Ionawr 1601 i nodi diwedd llysgenhadaeth y diplomydd Eidalaidd, Dug Orsino.[5] Mae eraill yn anghytuno, gan ddadlau y byddai "moesau anhyblyg llys y Frenhines Elisabeth" wedi'i gwneud hi'n "amhosibl" i Shakespeare enwi prif gymeriad mewn comedi ar gyfer yr union ddiplomydd oedd yn mynychu'r perfformiad, a'i bod hi'n fwy tebygol bod Shakespeare wedi defnyddio'r enw o'r ymweliad diplomyddol ym 1601, a berfformiwyd am y tro cyntaf y gaeaf canlynol.[6] Fe'i llwyfannwyd eto yn y Llys ar ddydd Llun y Pasg ym 1618 ac ar noson Gŵyl y Canhwyllau ym 1623.
Trosiad J. T. Jones
[golygu | golygu cod]
Llwyfannwyd y ddrama gan Chwaraewyr Garthewin ar y 13 a 14 Tachwedd 1953, blwyddyn wedi i'r ddrama ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth trosi drama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952. Morris Jones oedd yn cyfarwyddo; cast:[7]
- Viola - Eirian Evans
- Sebastian -
- Orsino -
- Olivia -
- Malvolio -
- Maria - Nora Jones
- Syr Tobi Belsh - Tom Jones
- Syr Andrw -
- Ffeste -
- Ffabian -
- Antonio -
- Valentin
- Cwrio
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Shakespeare, William. Nos Ystwyll. Cyfieithwyd gan J. T. Jones (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1970).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Jones, J. T. (1970). Nos Ystwyll. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.
- ↑ Caldecott, Henry Stratford (1896). "Our English Homer, or, The Bacon–Shakespeare Controversy: A Lecture". Johannesburg Times. Johannesburg. p. 9. OCLC 83492745.
- ↑ Halliday, F.E. (1964). A Shakespeare Companion 1564–1964 (First ed.). Harmondsworth: Penguin. pp. 71, 505. OCLC 69117982.
- ↑ van den Brink, Bret (2023). "What You Will: Double Predestination and the Plot of Twelfth Night" (PDF). Sinestesieonline. 40: 4.
- ↑ Hotson, Leslie (1954). The First Night of Twelfth Night (First ed.). New York: Macmillan. OCLC 353282.
- ↑ Mahood, M.M. (1968). Twelfth Night. Middlesex: Penguin.
- ↑ Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.