Neidio i'r cynnwys

Gïach bach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gïach Bach)
Gïach bach
Lymnocryptes minima

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Lymnocryptes[*]
Rhywogaeth: Lymnocryptes minimus
Enw deuenwol
Lymnocryptes minimus



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gïach bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gïachod bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lymnocryptes minimus; yr enw Saesneg arno yw Jack snipe. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. minimus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r gïach bach yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gïach Affrica Gallinago nigripennis
Gïach Is-Antarctig Coenocorypha aucklandica
Gïach Japan Gallinago hardwickii
Gïach Madagasgar Gallinago macrodactyla
Gïach Swinhoe Gallinago megala
Gïach brongoch Limnodromus griseus
Gïach cynffonfain Gallinago stenura
Gïach gylfinhir Limnodromus scolopaceus
Gïach mynydd y Gogledd Gallinago stricklandii
Gïach unig Gallinago solitaria
Pibydd Twamotw Prosobonia cancellata
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Adnabod[golygu | golygu cod]

Hawdd adnabod y gïach bach tra'n bwydo allan. Mae'n llai na gïach (tua 2/3 ei faint). Roedd y pig tua un hyd a hanner y pen (mae pig gïach cyffredin uwchben dwywaith hyd y pen). Hefyd bydd yn bownsio i fyny ac i lawr ar ei sodlau mewn modd digri. Yr olwg mwyaf arferol yw wrth godi'r aderyn o lan pwll bychan wrth i chi fod ar fin sathru arno. Mae hyn yn wahanol i'r gïach cyffredin sydd fel petai â llai o ffydd yn ei gudd-liw ac yn codi nifer fawr o fedrau i ffwrdd. Mi hedfanith y gïach bach yn eitha syth ac isel gan lanio nid yn rhy bell i ffwrdd - heb alw o gwbl. Mae'r giach yn codi gan alw yn swnllyd wrth igam-ogamu i'r entrychion a glanio yn bell iawn i ffwrdd.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Rhys Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 70
Safonwyd yr enw Gïach bach gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.