Féile an Phobail
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl gerddoriaeth, gŵyl ddiwylliannol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Genre | Irish folk music, cerddoriaeth roc, roc indie, canu gwerin, Ska |
Sylfaenydd | Siobhán O'Hanlon, Gerry Adams, Danny Morrison |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Belffast |
Gwefan | http://www.feilebelfast.com/ |
Mae Féile an Phobail (Gwyddeleg am "Gŵyl y Gymuned"), a adwaenir hefyd fel Gŵyl Gorllewin Belfast neu West Belfast Festival yn sefydliad celfyddydau cymunedol sy'n adnabyddus am ei August Festival (Festival). Mae'r sefydliad yn amlwg am ei waith hyrwyddo diwylliant Gwyddelig a rhyngwladol. Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ar ac o gwmpas Falls Road ynghannol yr hyn a alwir yn fwy diweddar fel Cwarter Gaeltacht, Belffast.[1][2]
Mae'r gair féil yn y Wyddeleg yn gytras gyda'r gair Cymraeg "gŵyl", ill dau o'r Lladin, vigilia.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr ŵyl yn 1988 fel ymateb uniongyrchol i'r Helyntion, ac yn benodol ar ôl digwyddiadau Mawrth 1988. Lladdodd yr SAS dri aelod dros dro o Fyddin Weriniaethol Iwerddon (yr IRA) [4] yn Gibraltar. Yn un o angladdau’r tri ym Mynwent Milltown, ymosododd parafilwr teyrngarol o Ulster ar yr angladd gyda grenadau a phistolau, gan ladd tri galarwr. Yn angladd un o'r galarwyr, lladdwyd dau filwyr plaen o Brydain pan gyrrasant i mewn i orymdaith angladdol. Daeth cymuned gorllewin Belfast o dan graffu dwys gan y cyfryngau ac fe'i disgrifiwyd gan y BBC fel "cymuned derfysgol".[1][5]
Gan weld y portread hwn o’i gymuned fel un negyddol, camarweiniol a niweidiol, casglodd Gerry Adams nifer fach o ffrindiau ac amrywiol grwpiau lleol i drefnu gŵyl gymunedol. Ei ddiben oedd dathlu ochr gadarnhaol y gymuned: ei chreadigrwydd, ei hegni, ei hangerdd dros y celfyddydau a chwaraeon. Roedd, ac mae, yr Ŵyl wedi'i hanelu at ddarparu digwyddiadau ac adloniant am bris y gallai mwyafrif y gymuned ei fforddio.[1][6]
Ym mis Awst 1988 agorodd yr ŵyl gyntaf gyda gorymdaith gymharol o fflotiau a bandiau a chlybiau Cymdeithas Athletau Gwyddelig yn cerdded yn regalia eu clwb i barti awyr agored ym Mharc Dunville. Trefnwyd partïon stryd ledled gorllewin y ddinas. Gwnaed casgliadau o ddrws i ddrws i ariannu teithiau dydd i lan y môr ar gyfer pensiynwyr a gwibdeithiau i bobl ifanc.[6][7]
Presennol
[golygu | golygu cod]Mae Féile an Phobail wedi ennill clod aruthrol ac wedi tyfu i fod yn un o wyliau cymunedol mwyaf Ewrop.[8] Mae gorymdaith y carnifal fel mater o drefn yn dod â dros 20,000 o gyfranogwyr ynghyd ar gyfer gorymdaith gerddorol liwgar gyda fflotiau wedi'u dylunio'n arbennig yn cynrychioli thema a ddewiswyd, dawnswyr a phlant mewn gwisgoedd a masgiau wyneb.[9]
Mae wedi tyfu o fod yn ŵyl un wythnos i fod yn rhaglen gydol y flwyddyn gyda llawer o ddigwyddiadau. Sefydlodd yr ŵyl gelfyddydau plant gyntaf erioed yng Ngogledd Iwerddon,[10] Gŵyl Gelfyddydau Plant Draíocht ("hud" yn y Wyddeleg), gyda gweithgareddau'n amrywio o chwaraeon i ddigwyddiadau amlddiwylliannol ac addysgol trwy Wyddeleg a Saesneg. Yn 2003, cymerodd 6,000 o blant a phobl ifanc ran mewn digwyddiadau Draíocht.[11]
Epil Ŵyliau
[golygu | golygu cod]Mae Gŵyl an Phobail yn cynnal nifer o wyliau trwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y gwyliau mae:
- Féile Lúnasa (August Féile) – prosiect hynaf. Ymhlith gwyliau cymunedol mwyaf Ewrop, yn rhedeg ym mis Awst
- Féile an Earraigh – Gŵyl gerddoriaeth draddodiadol Wyddelig y gwanwyn
- Draíocht – gŵyl flynyddol i blant yn dechrau ganol mis Hydref
- Stand up in the West – noson gomedi fisol yn y Western Bar, Belfast, ddim yn rhedeg bellach
- Laugh at the Bank – gŵyl gomedi gyntaf Belfast. Lansiwyd Mai 2009
Perfformwyr
[golygu | golygu cod]Mae Féile an Phobail wedi rhestru perfformwyr cenedlaethol a rhyngwladol i berfformio gyda cherddorion lleol, gan ddarparu ar gyfer pob chwaeth mewn dawnsio a cherddoriaeth: o gerddoriaeth draddodiadol Wyddelig i gerddoriaeth byd a phop. Mae actau nodedig yn cynnwys Altan, Brian Kennedy, Mary Black, All Stars Affro-Cuban, Côr Gospel Harlem, Westlife a Status Quo, Wolfe Tones, Chumbawamba, Girls Aloud, ac Atomic Kitten. Cafwyd hefyd comedïwyr megis Ardal O'Hanlon, PJ Gallagher, Sean Hughes, Alexei Sayle, Mark Steel, a Lenny Henry a siaradwyr gan gynnwys; y bardd, Seamus Heaney, Jeremy Corbyn, Robert Fisk, Ian Paisley, Jr. a chyn Arlywydd Iwerddon, Mary McAleese.
Yn ystod gŵyl 2022, beirniadwyd y trefnwyr gan Unoliaethwyr wedi i'r grŵp gwerin Gweriniaethol, y Wolfe Tones, arwain torf yn llafarganu 'oh, ah, up the 'RA" (gan gyfeirio ar yr IRA).[12]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Féile na Gealaí - gŵyl flynyddol uniaith Wyddeleg gyda cherddoriaeth gyfoes Wyddeleg a Gaeleg yr Alban.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol
- Twitter @FeileBelfast
- 20 Years On – rhaglen ddogfen ar BBC am Féile an Phobail
Cyfesurynnau: 54°35′31″N 5°57′44″W / 54.5919°N 5.9623°W
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 BBC Programme – Féile an Phobail Archifwyd 2 Ionawr 2009 yn y Peiriant Wayback – 20 Years On
- ↑ Féile an Phobail Archifwyd 10 Ionawr 2010 yn y Peiriant Wayback – Official website
- ↑ "Gŵyl". Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 31-05-2022. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "HUDOC - European Court of Human Rights". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 May 2012. Cyrchwyd 29 July 2011.
- ↑ "The Irish News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2016.
- ↑ 6.0 6.1 City Rocks During Festival Archifwyd 20 Chwefror 2006 yn y Peiriant Wayback – BBC NI
- ↑ "Feile Belfast History". Feile Belfast History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2017. Cyrchwyd 16 February 2020.
- ↑ Féile an Phobail: 20 Years On Archifwyd 2 Ionawr 2009 yn y Peiriant Wayback – BBC
- ↑ "Community Relations Organisation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 October 2007. Cyrchwyd 6 February 2009.
- ↑ Inquiry into Cultural Tourism and the Arts Archifwyd 18 Chwefror 2010 yn y Peiriant Wayback – Northern Ireland Assembly
- ↑ "News | An Phoblacht". www.anphoblacht.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2019. Cyrchwyd 30 March 2020.
- ↑ "Féile organisers say no public funding used for Wolfe Tones concert". Newyddion ITV Gogledd Iwerddon. 16 Awst 2022.