Girls Aloud

Oddi ar Wicipedia
Girls Aloud
Enghraifft o'r canlynolgrŵp merched, band, grŵp o bobl Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioPolydor Records, Fascination Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2002 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2002 Edit this on Wikidata
Genreelectropop, pop dawns, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCheryl, Nadine Coyle, Sarah Harding, Nicola Roberts, Kimberley Walsh Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.girlsaloud.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp pop merched o'r Deyrnas Unedig ydy Girls Aloud. Crewyd y grŵp gan sioe dalent ITV1 Popstars: The Rivals yn 2002. Aelodau'r grŵp yw Cheryl Cole, Nadine Coyle, Nicola Roberts, Sarah Harding a Kimberly Walsh. Maent wedi rhyddhau 20 sengl ac mae pob un wedi mynd i restr y deg uchaf yn y siartiau, gan gynnwys pedair cân a aeth i rif un. Maent hefyd wedi cael dwy albwm a aeth i rif un y siart albymau a chawsant eu henwebu am bedwar Gwobr BRIT gan ennill yng nghategori'r seng orau yn 2009 am "The Promise". Mae eu caneuon eraill yn cynnwys Sound of the Underground, Jump, Love Machine, Something Kinda Ooooh a Biology.

Ystyrir Girls Aloud yn un o'r ychydig artistiaid o raglenni teledu realiti yn y Deyrnas Unedig sydd wedi parhau i fod yn llwyddiannus, gan ennill ffortiwn o £25 miliwn erbyn mis Mai 2009.[1] Yn eu llyfr yn 2007, dywed "Guinness World Records" mai nhw ydy "Most Successful Reality TV Group". Girls Aloud hefyd sydd a'r record am y "Most Consecutive Top Ten Entries in the UK by a Female Group" yn y llyfr yn 2008, gyda phymtheg cân ar ôl y llall yn mynd yn syth i'r deg uchaf yn y siart, o "Sound of the Underground" yn 2002 tan "Walk This Way" yn 2007.

Ym mis Chwefror 2009, cyhoeddwyd fod Girls Aloud wedi arwyddo cytundeb recordio newydd gyda Fascination sy'n golygu y bydd y grŵp yn rhyddhau tair albwm arall, gyda'r albwm nesaf yn cael ei rhyddhau yn Hydref 2010. Bwriada Girls Aloud ryddhau "Out of Control" yn Ewrop hefyd yn y dyfodol agos, gyda hysbyseb deledu cysylltiedig yn yr Almaen hefyd.

Disgograffiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau stiwdio[golygu | golygu cod]

Albymau casgliadau o'u caneuon[golygu | golygu cod]

Albymau wedi'u hail-gymysgu[golygu | golygu cod]

Albymau byw[golygu | golygu cod]

  • 2008 – Girls A Live
  • 2009 - Out of Control live at The O2 Arena London

DVDs[golygu | golygu cod]

Blu-rays[golygu | golygu cod]

2009 - Out of control: Live from the 02

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Times - The 10 richest reality TV stars, 31 Mai 2009. Adalwyd ar 11 Hydref 2009
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.