Frances Elizabeth Morgan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Frances Hoggan)
Jump to navigation Jump to search
Frances Elizabeth Morgan
Frances Elizabeth Hoggan MD.jpg
Ganwyd 20 Rhagfyr 1843 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Chwefror 1927 Edit this on Wikidata (83 oed)
Brighton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Zurich Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Meddyg Edit this on Wikidata

Cymraes a'r ferch gyntaf drwy Ewrop i dderbyn gradd mewn meddygaeth oedd Frances Elizabeth Morgan (yna Frances Elizabeth Hoggan; 20 Rhagfyr 18435 Chwefror 1927). Pryderai'n fawr am addysg i ferched a sgwennodd bapur hynod o ddylanwadol o'r enw “Education for Girls in Wales”. Roedd Francis yn destun rhaglen gan Ffion Hague a ddarlledwyd ar S4C yng ngaeaf 2016.[1] Hi a'i gŵr oedd y gŵr a gwraig cyntaf i redeg practis meddygol ym Mhrydain.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Aberhonddu ar 20 Rhagfyr, 1843 ble roedd ei thad Richard Morgan yn gurad yn yr eglwys, cyn i'r teulu symud i'r Bont-faen ble derbyniodd Frances ei haddysg. Yn ei harddegau, cafodd blentyn, a magwyd y plentyn fel 'chwaer' iddi.[2]

Derbyniodd addysg bellach yn Windsor ac yna ym Mharis, Düsseldorf; yn 1870 derbyniodd ei chymwyster meddygol, ar ôl iddi gwbwlhau'r cwrs chwe-mlynedd mewn tair. Yn 1874 priododd feddyg arall, George Hoggan a bu'r ddau'n cadw meddygfa yn Llundain lle arbenigai mewn afiechydon plant a benywod: rhywbeth prin iawn yr adeg honno. Dyma'r practis cyntaf i'w redeg gan ŵr a gwraig drwy Brydain. Darlithiai ar yr un pryd yn y North London Collegiate School.

Teithio[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd ei chred dros newidiadau cymdeithasol, roedd yn rhydd ac yn llafar ei barn. Teithiodd drwy'r Unol Daleithiau America yn darlithio gan geisio tynnu sylw at hiliaeth y wlad; roedd yn siaradwr gwadd yn Universal Race Congress yn Llundain yn 1911, lle cyflwynodd bapur o'r enw “American Negro Women During the First Fifty Years of Freedom” (cyhoeddwyd yn 1913).

Treuliodd ei blynyddoedd olaf yn Brighton, ble y bu farw mewn cartref ar 5 Chwefror 1927. Claddwyd hi yn Woking, Surrey ar 9 Chwefror, gyda'i gŵr.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]