Evan William Evans (cyhoeddwr)
Evan William Evans | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1860 Dolgellau |
Bu farw | 28 Hydref 1925 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | golygydd, cyhoeddwr |
Roedd Evan William Evans (7 Hydref 1860 - 28 Hydref 1925) yn gyhoeddwr a golygydd papurau newydd Cymraeg ac yn awdur.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Evans yn Nolgellau, yn fab i David Evans, a Jane (née Roberts) ei wraig.
Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Dolgellau, ceisiwyd rhwystro ei ddyfarnu iddo gan y Parch Evan Lewis, rheithor Dolgellau oni bai ei fod yn mynychu'r Eglwys wladol. Gwrthodwyd yr amod a bygythiwyd dod ag achos yn erbyn yr eglwys a'r ysgol pe na bai Evan yn cael derbyn ei le. Ildiodd yr ysgol a chafodd Evan ei ysgoloriaeth.[2]
Ym 1884 priododd Ellen Rees, Stryd y Bont Dolgellau, merch Owen Rees llyfrwerthwr[3]; ni fu iddynt blant. Bu Ellen farw ym 1886. Ym 1888 priododd ei ail wraig, Annie Margaret unig ferch Joseph Roberts, Dolgellau[4]. Bu iddynt tri mab.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r ysgol prentisiwyd Evans i David Humphreys Jones, cyhoeddwr y Goleuad a'r Temlydd Cymreig, yn Upper Smithfield Street Dolgellau. Wedi darfod ei brentisiaeth aeth i weithio fel argraffydd yng Ngwasg yr Herald Caernarfon. Dychwelodd i Ddolgellau ym 1884 gan brynu gwasg y Goleuad gan ei hen feistr.[5]
Parhaodd Evans i gyhoeddi’r Goleuad o 1884 hyd 1914. Ym 1914 sefydlodd papur wythnosol newydd Y Cymro gan weithredu fel golygydd, argraffwr a chyhoeddwr y papur. Parhaodd wasg Evans i gyhoeddi’r Cymro hyd 1931 pan brynwyd yr hawl i'r enw gan Woodall, Minshall, Thomas a'r Cwmni, Croesoswallt.
Ymysg y papurau a chylchgronau eraill a gyhoeddwyd gan wasg Evans oedd The Merionethshire News, 1888 (The Merioneth News and Herald wedyn); Y Lladmerydd, 1885; Cymru Fydd, 1888; Y Gymraes, 1896 ; Y Llan , Yr Haul, a'r Ddolen.
Ym 1917 cafodd y busnes ei droi yn gwmni cyfyngedig E.W.Evans LTD, gyda Evan W Evans yn rheolwr gyfarwyddwr.
Yn ogystal â chyhoeddi papurau a chylchgronau bu cwmni Evans hefyd yn gyhoeddi llyfrau gan gynnwys:
- Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Ephesiaid. Parch. D. Charles Davies, M.A. Dwy Gyfrol
- Tro yn yr Eidal, O. M. Edwards,
- Tro yn Llydaw, O. M. Edwards
- Rhagluniaeth Duw mewn Anian ac mewn Hanesyddiaeth Parch. John Hughes, M.A., Liverpool
- Elfennau Methodistiaeth. Parch. Robert J Roberts, Dolgellau
- Diliau'r Diwygiad J. Rees Jones (Ioan Rhys)
Gwasanaeth cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Bu Evans yn chware rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Dolgellau a'r cylch. Bu'n aelod o Gyngor Dinesig y dref ac yn aelod o fwrdd yr ysgol anenwadol. Bu'n ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhydd Dolgellau ac yn gadeirydd pwyllgor reoli'r Llyfrgell Rydd. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Feirionnydd.
Hanes Methodistiaeth
[golygu | golygu cod]Roedd gan Evans diddordeb mawr yn hanes Methodistiaeth Galfinaidd. Comisiynodd nifer o awduron i ysgrifennu llyfrau ar y pwnc er mwyn iddo gael eu cyhoeddi. Llyfrau megis:
- Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd[6] Griffith Ellis 1885
- Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd mewn 3 cyfrol; Cyf I 1889 & Cyf II 1891, Robert Owen; Cyf III 1928 Hugh Ellis
- Hanes Methodistiaeth Rhan Ddeheuol Sir Aberteifi John Evans (Abermeurig) 1904
- Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin James Morris 1911
- Hanes Methodistiaeth Sir Fflint Griffith Owen. 1914
- Hanes Methodistiaeth yn Nosbarth Treffynnon, 1750-1910 Ll. Arthur Owen
Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau am hanes yr enwad bu Evans hefyd yn casglu llawysgrifau a deunydd hanesyddol am y pwnc. Trosglwyddwyd ei gasgliad i'r Llyfrgell Genedlaethol lle maent yn cael eu cadw o dan yr enw Frondirion MSS[7]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref Frondirion, Dolgellau yn 65 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Islaw'r dref.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "EVANS, EVAN WILLIAM (1860 - 1925), cyhoeddwr a golygydd". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 3 Ionawr 2018.
- ↑ "MR DAVID EVANS CAE EINION DOLGELLAU - Y Goleuad". John Davies. 1902-10-24. Cyrchwyd 2018-01-03.
- ↑ "Family Notices - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1884-10-24. Cyrchwyd 2018-01-03.
- ↑ "Evans, Evan William, (7 Dec. 1860–28 Oct. 1925), JP Merionethshire. WHO'S WHO & WHO WAS WHO". Cyrchwyd 3 Ionawr 2018.
- ↑ Ifano Jones - A History of Printing and Printers in Wales to 1810, successive and related printers to 1923, also, A History of Printing and Printers in Monmouthshire to 1923 Tud 163 (trawsysgrifiad ar lein o'r darnau yn ymwneud â Dolgellau gan CH Jones) adalwyd 3 Ionawr 2018
- ↑ Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd ar Wicidestun
- ↑ "Frondirion Manuscripts, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2023-02-10.
- ↑ Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd. Arysgrifau Beddau Capel Islaw'r dref (MC) Dolgellau