Evan William Evans (cyhoeddwr)

Oddi ar Wicipedia
Evan William Evans
Ganwyd7 Hydref 1860 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 1925 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Dolgellau Edit this on Wikidata
Galwedigaethgolygydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata

Roedd Evan William Evans (7 Hydref 1860 - 28 Hydref 1925) yn gyhoeddwr a golygydd papurau newydd Cymraeg ac yn awdur.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Evans yn Nolgellau, yn fab i David Evans, a Jane (née Roberts) ei wraig.

Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Dolgellau, ceisiwyd rhwystro ei ddyfarnu iddo gan y Parch Evan Lewis, rheithor Dolgellau oni bai ei fod yn mynychu'r Eglwys wladol. Gwrthodwyd yr amod a bygythiwyd dod ag achos yn erbyn yr eglwys a'r ysgol pe na bai Evan yn cael derbyn ei le. Ildiodd yr ysgol a chafodd Evan ei ysgoloriaeth.[2]

Ym 1884 priododd Ellen Rees, Stryd y Bont Dolgellau, merch Owen Rees llyfrwerthwr[3]; ni fu iddynt blant. Bu Ellen farw ym 1886. Ym 1888 priododd ei ail wraig, Annie Margaret unig ferch Joseph Roberts, Dolgellau[4]. Bu iddynt tri mab.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r ysgol prentisiwyd Evans i David Humphreys Jones, cyhoeddwr y Goleuad a'r Temlydd Cymreig, yn Upper Smithfield Street Dolgellau. Wedi darfod ei brentisiaeth aeth i weithio fel argraffydd yng Ngwasg yr Herald Caernarfon. Dychwelodd i Ddolgellau ym 1884 gan brynu gwasg y Goleuad gan ei hen feistr.[5]

Parhaodd Evans i gyhoeddi’r Goleuad o 1884 hyd 1914. Ym 1914 sefydlodd papur wythnosol newydd Y Cymro gan weithredu fel golygydd, argraffwr a chyhoeddwr y papur. Parhaodd wasg Evans i gyhoeddi’r Cymro hyd 1931 pan brynwyd yr hawl i'r enw gan Woodall, Minshall, Thomas a'r Cwmni, Croesoswallt.

Ymysg y papurau a chylchgronau eraill a gyhoeddwyd gan wasg Evans oedd The Merionethshire News, 1888 (The Merioneth News and Herald wedyn); Y Lladmerydd, 1885; Cymru Fydd, 1888; Y Gymraes, 1896 ; Y Llan , Yr Haul, a'r Ddolen.

Ym 1917 cafodd y busnes ei droi yn gwmni cyfyngedig E.W.Evans LTD, gyda Evan W Evans yn rheolwr gyfarwyddwr.

Yn ogystal â chyhoeddi papurau a chylchgronau bu cwmni Evans hefyd yn gyhoeddi llyfrau gan gynnwys:

  • Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Ephesiaid. Parch. D. Charles Davies, M.A. Dwy Gyfrol
  • Tro yn yr Eidal, O. M. Edwards,
  • Tro yn Llydaw, O. M. Edwards
  • Rhagluniaeth Duw mewn Anian ac mewn Hanesyddiaeth Parch. John Hughes, M.A., Liverpool
  • Elfennau Methodistiaeth. Parch. Robert J Roberts, Dolgellau
  • Diliau'r Diwygiad J. Rees Jones (Ioan Rhys)

Gwasanaeth cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Bu Evans yn chware rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Dolgellau a'r cylch. Bu'n aelod o Gyngor Dinesig y dref ac yn aelod o fwrdd yr ysgol anenwadol. Bu'n ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhydd Dolgellau ac yn gadeirydd pwyllgor reoli'r Llyfrgell Rydd. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Feirionnydd.

Hanes Methodistiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd gan Evans diddordeb mawr yn hanes Methodistiaeth Galfinaidd. Comisiynodd nifer o awduron i ysgrifennu llyfrau ar y pwnc er mwyn iddo gael eu cyhoeddi. Llyfrau megis:

  • Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd[6] Griffith Ellis 1885
  • Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd mewn 3 cyfrol; Cyf I 1889 & Cyf II 1891, Robert Owen; Cyf III 1928 Hugh Ellis
  • Hanes Methodistiaeth Rhan Ddeheuol Sir Aberteifi John Evans (Abermeurig) 1904
  • Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin James Morris 1911
  • Hanes Methodistiaeth Sir Fflint Griffith Owen. 1914
  • Hanes Methodistiaeth yn Nosbarth Treffynnon, 1750-1910 Ll. Arthur Owen 

Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau am hanes yr enwad bu Evans hefyd yn casglu llawysgrifau a deunydd hanesyddol am y pwnc. Trosglwyddwyd ei gasgliad i'r Llyfrgell Genedlaethol lle maent yn cael eu cadw o dan yr enw Frondirion MSS[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref Frondirion, Dolgellau yn 65 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Islaw'r dref.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "EVANS, EVAN WILLIAM (1860 - 1925), cyhoeddwr a golygydd". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 3 Ionawr 2018.
  2. "MR DAVID EVANS CAE EINION DOLGELLAU - Y Goleuad". John Davies. 1902-10-24. Cyrchwyd 2018-01-03.
  3. "Family Notices - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1884-10-24. Cyrchwyd 2018-01-03.
  4. "Evans, Evan William, (7 Dec. 1860–28 Oct. 1925), JP Merionethshire. WHO'S WHO & WHO WAS WHO". Cyrchwyd 3 Ionawr 2018.
  5. Ifano Jones - A History of Printing and Printers in Wales to 1810, successive and related printers to 1923, also, A History of Printing and Printers in Monmouthshire to 1923 Tud 163 (trawsysgrifiad ar lein o'r darnau yn ymwneud â Dolgellau gan CH Jones) adalwyd 3 Ionawr 2018
  6. Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd ar Wicidestun
  7. "Frondirion Manuscripts, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2023-02-10.
  8. Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd. Arysgrifau Beddau Capel Islaw'r dref (MC) Dolgellau