Erin Roberts
Gwedd
| Erin Roberts | |
|---|---|
| Ganwyd | 1975 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd |
| Cyflogwr | |
Cyflwynwraig tywydd o Gymru yw Erin Roberts (ganwyd 1975),[1] sy'n cyflwyno ar raglen Newyddion ar S4C.
Daw Roberts yn wreiddiol o Bontllyfni, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen cyn astudio ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu gynt yn athrawes daearyddiaeth yn Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Gyfun Rhydfelen.[2] Cafodd y swydd o fod yn gyflwynwraig tywydd wedi ymddeoliad Jenny Ogwen, gan ymddangos ar yr awyr am y tro cyntaf ar 9 Awst 2004.[1][3]
Mae hefyd yn chwaer i un o brif angorau'r rhaglen Newyddion, Nest Williams.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Erin joins S4C weather team (4 Awst 2004).
- ↑ Tywydd. S4C.
- ↑ Rhagolwg braf i Erin. Newyddion BBC Cymru (5 Awst 2004).