Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Oddi ar Wicipedia
Eliseus Williams
FfugenwAnti shyrlie Edit this on Wikidata
Ganwyd2 Mai 1867 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, athro Edit this on Wikidata

Bardd oedd Eliseus Williams, enw barddol Eifion Wyn (2 Mai 186713 Hydref 1926), a aned ym Mhorthmadog yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).

Hanes[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eifion Wyn yn y Garth, Porthmadog. Brodorion o Chwilog oedd ei rieni.

Er na chafodd lawer o fanteision addysg ei hun llwyddodd i fod yn athro a gwasanaethodd ym Mhorthmadog ac wedyn ym Mhentrefoelas. Yn ogystal roedd yn glerc ar hyd ei oes i Gwmni Llechi Gogledd Cymru.

Dioddefai byliau tost o afiechyd ar hyd ei oes. Cafodd ei gladdu yn ymyl ei rieni a'i chwaer ym mynwent Chwilog.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Roedd yn fardd cynhyrchiol a phoblogaidd. Un o'i gyfeillion oedd y bardd dall J.R. Tryfanwy, o Rostryfan. Cafodd ei farddoniaeth ddylanwad mawr yn ei gyfnod ac fe'i ystyrid gan lawer yn un o feirdd gorau'r oes. Gwelir ei waith ar ei orau yn y cyfrolau Telynegion Maes a Môr (1906) a Caniadau'r Allt (1927). Roedd yn emynydd yn ogystal ac erys rhai o'i emynau'n boblogaidd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Eifion Wyn yn Chwilog

Gwaith Eifion Wyn[golygu | golygu cod]

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Peredur Wyn Williams, Cofiant Eifion Wyn (1980). Cofiant iddo gan ei fab.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: