Eglwys Gadeiriol Casnewydd
![]() | |
Math |
cadeirlan Anglicanaidd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Casnewydd, Gwynllyw ![]() |
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Stow Hill ![]() |
Sir |
Casnewydd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.583°N 2.99858°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
pensaernïaeth Gothig ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i |
Gwynllyw ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth |
Esgobaeth Mynwy ![]() |
Eglwys gadeiriol Anglicanaidd a chanolfan Esgobaeth Mynwy yw Eglwys Gadeiriol Casnewydd. Fe'i leolir yn Stow Hill, Casnewydd. Eglwys plwyf y dref ydoedd ynghynt, a phrif eglwys cantref Gwynllŵg cyn hynny. Fe'i gysegrir i Sant Gwynllyw, brenin a sant o'r 6g a roes ei enw i'r cantref.
Yn ôl y chwedl sefydlodd Gwynllyw (tad Sant Cadog) ei eglwys ar ôl i angel ymddangos iddo mewn breuddwyd a'i orchmynu i droi at Gristnogaeth a chodi eglwys yn y fan lle deuai o hyd i ychen gwyn â smotyn du ar ei dalcen.[1] Sefydlwyd yr eglwys presennol gan y Sacsoniaid, ac yn yr 11g fe roddwyd i Abaty Caerloyw gan William Rufus, brenin Lloegr.[2] Roedd yr eglwys Sacsonaidd ar safle Capel Galilea presennol (neu Capel y Santes Fair), sy'n dyddio o'r 13g. Adeilad Normanaidd yw corff yr eglwys, yn dyddio i tua'r 1140au.[2] Ceir bwa Romanésg addurnedig rhwng corff yr eglwys a Chapel Galilea; mae'r cerflunwaith ar bennau'r colofnau wedi denu llawer o sylw gan ysgolheigion.[3] Mae'r bedyddfaen hefyd yn cynnwys darn o gerflunwaith Normanaidd sy'n dyddio o bosibl i tua 1120–1130. Fe'i gynllunir mewn arddull a adwaenir fel ysgol swydd Henffordd, sef asiad rhwng y traddodiad cerfio Eingl-Sacsonaidd a Cheltaidd a'r arddull Romanésg cyfandirol.[4] Dinistrwyd yr eglwys gan fyddin Owain Glyn Dŵr ym 1402. Mae'n debyg i'r tŵr gael ei adeiladau gan Siasbar Tudur, arglwydd Casnewydd o 1485 i 1495.[2]
Penodwyd Eglwys Sant Gwynllyw yn gadeirlan dros dro pan crëwyd Esgobaeth Mynwy ym 1921, ar ôl datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, a daeth y statws hyn yn barhaol ym 1949. Er mwyn adlewyrchu'r dyrchafiad mewn statws dymchwelwyd y gangell Fictoraidd ac adeiladwyd un newydd i gynlluniau A. D. R. Caroe, rhwng 1961 a 1964.[5] Ym 1951 fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd I.[6]
Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Wade-Evans, A. W. (cyfieithiad, 1944). The Life of Saint Gwynllyw. Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae. Adalwyd ar 2 Ionawr 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Newman 2000, t. 423
- ↑ Lord 2003, t. 67
- ↑ Lord 2003, tt. 67–8
- ↑ Newman 2000, tt. 422–3
- ↑ (Saesneg) St Woolos' Cathedral, Stow Hill. British Listed Buildings. Adalwyd ar 2 Ionawr 2014.