Egerton Phillimore

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Egerton Phillimore
Egerton Phillimore.jpg
Ganwyd 20 Rhagfyr 1856 Edit this on Wikidata
Belgravia Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata (80 oed)
Corris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth golygydd Edit this on Wikidata

Roedd Egerton Grenville Bagot Phillimore (20 Rhagfyr 18565 Mehefin 1937) yn Sais oedd yn ymddiddori yn hynafiaethau, llenyddiaeth, iaith a hanes Cymru.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Phillimore yn 21 Chester Square, Belgravia, Llundain, ar 20 Rhagfyr 1856, yn unig fab i John George Phillimore QC a Rosalind Margaret, (née Knight-Bruce). Yn amddifad wedi marwolaeth ei fam ym 1871, cymerwyd ef i ofal ei ewythr Syr Robert Joseph Phillimore. Aeth i Ysgol Westminster yn Llundain. Enillodd gradd BA o Eglwys Crist, Rhydychen ym 1879 ac MA ym 1883. Galwyd ef i'r bar yn y Deml Ganol ym 1877.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra yn Rhydychen, cyfarfu Phillimore â John Rhŷs, Whitley Stokes ac eraill a ysgogodd ei ddiddordeb yn niwylliant Cymru. Dysgodd yr iaith a chasglodd lyfrau a llawysgrifau Cymraeg. Datblygodd Phillimore ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg gan gynhyrchu erthyglau ar gyfer Bye-gones, Archaeologia Cambrensis a'r Cymmrodor, y cyfeirir atynt yn eang fel rhai sy'n darparu arweiniad ar ystyron geiriau ac enwau. Bu'n olygydd y Cymmrodor o 1889 i 1891. [2] O 1903 roedd yn byw yng Nghorris. Ysgrifennodd erthygl ar eiriau Cymraeg anniwair ar gyfer cyfnodolyn Almaeneg, Kryptadia, a gyhoeddwyd ym 1884. Mae papurau Phillimore, gan gynnwys rhywfaint o farddoniaeth o'i gyfansoddiad ei hun ynghyd â chyfieithiadau o weithiau yn y Gymraeg, Lladin, Ffrangeg, Almaeneg a Groeg, yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. [3]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Phillimore yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd i Susan Elsie Roscow ym 1880 bu iddynt un mab a thair merch. Bu farw Susan Roscow ym 1893, ac wedi hynny priododd Phillimore â Marion Owen ym 1897.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Who's Who in wales 1933, Llundain; A G Reynolds & Co tud.179
  2. [1889-1891 Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion 1937, tud 13]
  3. Charles, B. G., (1953). PHILLIMORE, EGERTON GRENVILLE BAGOT (1856 - 1937), ysgolhaig. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 29 Gor 2019