Effaith cobra
Math | canlyniadau anfwriadol, cymhelliad gwrthnysig |
---|
Mae'r effaith cobra yn digwydd pan fydd ymgais i ddatrys problem yn gwaethygu'r broblem,[1] math o ganlyniad anfwriadol. Defnyddir y term i ddangos achosion ysgogiad anghywir yn yr economi ac mewn gwleidyddiaeth.[2]
Tarddodd y term effaith cobra o hanesyn, a osodwyd ar adeg rheolaeth Prydain ar India. Roedd llywodraeth Prydain yn poeni am nifer y nadroedd cobra gwenwynig yn Delhi.[3] Felly cynigiodd y llywodraeth gwobr bownti gyfer pob cobra a laddwyd. I ddechrau, roedd hon yn strategaeth lwyddiannus wrth i nifer fawr o nadroedd gael eu lladd am y wobr. Yn y pen draw, fodd bynnag, dechreuodd pobl fentrus magu'r nadroedd am yr incwm. Pan ddaeth y llywodraeth yn ymwybodol o hyn, rhoddwyd y gorau i'r rhaglen wobrwyo, yn achosi i'r bridwyr cobra ryddhau'r nadroedd di-werth. O ganlyniad, cynyddodd y boblogaeth cobra gwyllt ymhellach.[2][4]
Effeithiau mewn hanes
[golygu | golygu cod]- Llygod mawr yn Fietnam: Roedd digwyddiad tebyg yn Hanoi, Fietnam, o dan reolaeth Ffrainc. Ym 1902, creodd y llywodraeth raglen a dalodd wobr bownti am bob llygoden fawr a laddwyd.[3] I gasglu'r wobr, byddai angen i bobl ddarparu cynffon llygoden fawr wedi'i thorri o'r corff. Fodd bynnag, dechreuodd swyddogion sylwi ar lygod mawr yn Hanoi heb gynffonau. Byddai'r dalwyr llygod mawr o Fietnam yn dal llygod mawr, yn torri eu cynffonau, ac yna'n eu rhyddhau yn ôl i'r carthffosydd er mwyn iddynt allu magu mwy o lygod mawr, a thrwy hynny gynyddu incwm y dalwyr llygod mawr.[5]
- Yr Ymgyrch Pedwar Pla Tsieineaidd: Ym 1958, lansiodd Mao Zedong yr Ymgyrch Pedwar Pla yn Tsieina i gael gwared ar fosgitos, cnofilod, pryfed, ac adar y to, a oedd yn gyfrifol am drosglwyddo afiechydon. Fe wnaeth y polisi cael gwared a'r adar y to, ond roedd hefyd yn gyfrannwr at y Newyn Tsieineaidd Mawr; arweiniodd absenoldeb adar y to at bla pryfed a cholled fawr o gnydau.
- Credydau carbon ar gyfer HFC-23: Dechreuodd Panel Rhynglywodraethol y CU ar Newid Hinsawdd gynllun yn 2005 i gwtogi ar nwyon tŷ gwydr. Byddai cwmnïau sy'n cael gwared â nwyon llygrol yn cael eu gwobrwyo â chredydau carbon, a allai yn y pen draw gael eu cyfnewid am arian. Gosododd y rhaglen y prisiau yn ôl pa mor ddifrifol oedd y difrod y gallai’r llygrydd ei wneud i’r amgylchedd, ac un o’r gwobrau uchaf oedd am ddinistrio HFC-23, isgynnyrch oerydd cyffredin. O ganlyniad, dechreuodd cwmnïau gynhyrchu mwy o'r oerydd hwn er mwyn dinistrio mwy o'r nwy isgynnyrch gwastraff, a chasglu miliynau o ddoleri mewn credydau.[6] Yn 2013 roddodd yr Undeb Ewropeaidd y gorau ar gredydau am ddinistrio HFC-23.[7]
- Cael gwared â moch yn Georgia, UD: Roedd mwyafrif strategaethau rheoli'r mochyn gwyllt wedi arwain at ehangu'r boblogaeth yn ystod y degawdau diwethaf. Roedd moch gwyllt wedi byw yn Fort Benning yn Georgia, UD, ers canol y 1900au. Dechreuodd Fort Benning gynnig gwobr bownti ar foch ym mis Mehefin 2007 i leihau’r boblogaeth ac yn y pen draw cael gwared â'r moch gwyllt o’r gaer. Fodd bynnag, tyfodd poblogaeth y moch, o bosibl oherwydd bwyd a aeth ati i ddenu moch.[8]
- Tariffiau dur yn yr UD: Yn 2002 gosododd George W Bush tariffiau ar ddur a mewnforiwyd i'r UD er mwyn hybu'r diwydiant dur Americanaidd. Er gwnaeth y diwydiant dur Americanaidd elwa ychydig o'r tariffiau hyn, roedd costau a nifer o swyddi a gollwyd oherwydd cynnydd ym mhrisiau dur yn y wlad llawer gwaeth nag unrhyw fudd.[9]
- Targedau aros ysbytai: Efallai mai'r effaith cobra i'w weld yn nhargedau aros adrannau damwain ac argyfwng yn ysbytai ym Mhrydain. Mae siawns fod y targed a osodwyd gan y llywodraeth, y bydd pawb yn cael eu trin o fewn pedwar awr, yn achosi mwy o straen ar ysbytai: oherwydd bydd cleifion sydd â chwynion mân, megis sigiad bys, yn disgwyl cael ei weld o fewn pedwar awr, yn achosi i gleifion sydd â chwynion mwy difrifol, megis trawiad ar y galon, i aros yn hirach.[10]
- Effaith Streisand: Mae'r effaith Streisand yn achos o'r effaith Cobra, lle mae ymgyrch i guddio rhyw ddarn o wybodaeth yn achosi iddo gael mwy o sylw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brickman, Leslie H. (2002-11-01). Preparing the 21st Century Church. t. 326. ISBN 978-1-59160-167-8.
- ↑ 2.0 2.1 Siebert, Horst (2001). Der Kobra-Effekt. Wie man Irrwege der Wirtschaftspolitik vermeidet (yn Almaeneg). Munich: Deutsche Verlags-Anstalt. ISBN 3-421-05562-9.
- ↑ 3.0 3.1 Dubner, Stephen J. (11 October 2012). "The Cobra Effect: A New Freakonomics Radio Podcast". Freakonomics, LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-13. Cyrchwyd 24 February 2015.
- ↑ Schwarz, Christian A. (1996). NCD Implementation Guide. Carol Stream Church Smart Resources. t. 126. Cited in Brickman, p. 326.
- ↑ Vann, Michael G. (2003). "Of Rats, Rice, and Race: The Great Hanoi Rat Massacre, an Episode in French Colonial History". French Colonial History 4: 191–203. doi:10.1353/fch.2003.0027.
- ↑ "The Cobra effect in Freakonomics". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-01.
- ↑ "Commission adopts ban on the use of industrial gas credits". Climate Action - European Commission (yn Saesneg). European Commission. 23 November 2016. Cyrchwyd 3 November 2019.
- ↑ "Effectiveness of a bounty program for reducing wild pig densities". Wildlife society.
- ↑ Francois, Dr. Joseph; Baughman, Laura M. (2003). "The Unintended Consequences of U.S. Steel Import Tariffs:A Quantification of the Impact During 2002". Study prepared for the CITAC Foundation, Trade Partnership Worldwide. http://www.tradepartnership.com/pdf_files/2002jobstudy.pdf.
- ↑ editor, Denis Campbell Health policy (2019-01-07). "NHS considers scrapping four-hour A&E waiting time targets". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-12-12.CS1 maint: extra text: authors list (link)