Edward Preston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Peiriannydd sifil oedd Edward Preston (18251892), a bu'n beiriannydd yn y gwaith o adeiladu lein Rheilffordd Caer a Chaergybi ac roedd yn brydleswr Rheilffordd Nantlle o 1856 nes ei gwerthu i Thomas Savin ym 1862.

Roedd yn fab i'r Parch. George Preston, is-brifathro Ysgol Westminster, a hanai'n wreiddiol o Swydd Norfolk, a chafodd ei ddwyn i fyny o fewn tafliad carreg i Abaty Westminster. Pan farwodd y tad ym 1841, fe'i gladdwyd yn Abaty Westminster, lle mae cofeb iddo. Gadawodd blasty bychan ac ystad o 100 acer yn Erith, Swydd Caint, a oedd erbyn yr 1840au'n dir datblygu i'w deulu.

Daeth Edward Preston i ardal Caernarfon tua 1855/6. Honnai ei fod wedi gweithio gynt fel un o'r peirianwyr ar reilffyrdd yn Iwerddon ac wedyn ar Reilffordd Caer a Chaergybi pan gafodd ei hadeiladu tua 1848-50, ond methodd yr hanesydd J.I.C. Boyd â darganfod unrhyw brawf o hyn.[1] Pan geir cyfeiriad ato tu allan i gyd-destun rheilffyrdd, fe'i ddisgrifir yn "Esq.", sydd yn awgrymu ei fod yn perthyn i'r dosbarth tirfeddianwyr, dynion busnes llewyrchus a gŵyr â phroffesiwn. Priododd yn Llundain fis Ebrill 1853. Dyn ifanc 30 oed oedd o pan gyrhaeddodd Gaernarfon, gyda'i wraig Ellen Maria Bates McLoughlin, (a oedd wedi ei geni yn Iwerddon ym 1835), a ganwyd eu merch gyntaf, Mary, ym 1855. Roedd ef a'i deulu ifanc yn byw yn y Tower, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug ym Mai 1854. Erbyn Gorffennaf 1855 roeddynt yn byw yn Glyn House, Conwy. Symudodd, mae'n debyg, i Glan Helen, Lôn Parc, Caernarfon yn fuan wedyn wrth iddo ymgymryd â phrydles Rheilffordd Nantlle. Fe ddisgrifiodd ei hun fel peirianydd sifil, a bu'n gweithio fel yr is-gontractor i wireddu cynllunio prif beirianwyr Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a godwyd tua 1861-3.

Roedd yn weddol hael at achosion eglwysig, gan gyfrannu at gronfa i helpu Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon a sefydlu eglwys ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn nhref Caernarfon, ymysg rhai eraill.[2]

Ym 1856, fel y dywedwyd eisoes, fe gymerodd brydles ar Reilfordd Nantlle am 10 mlynedd, gan sefydlu amserlen i deithwyr ym mis Awst y flwyddyn honno. Ceir nifer o awgrymiadau niwlog cyn hynny fod pobl yn cael teithio ar y rheilffordd ond am y tro cyntaf roedd y trenau hyn yn cael eu hysbysebu (er bod eu rhedeg hwy'n mynd yn groes i'r Ddeddf a awdurdododd adeiladu'r lein ym 1825). Rhoddodd Preston flaenoriaeth i gludo teithwyr fodd bynnag, gan gyfyngu nifer y trenau nwyddau i un bob ffordd bob dydd. Roedd rhaid iddo dalu rhwng £2300 a £2500 y flwyddyn i gwmni y rheilffordd am ei brydles, ac fe wnaeth £600 o elw'r flwyddyn ar gyfartaledd.[3]

Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond tri, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon. Mae'n amlwg iddo ddatblygu bwriad tymor hir i weld Rheilffordd Nantlle yn cael ei thraflyncu gan lein arall, sef Rheilffordd Sir Gaernarfon, a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno mor fuan â Chwefror 1858 - sy'n gofyn y cwestiwn ai rhedeg Rheilffordd Nantlle oedd ei wir nôd, yntau gael gafael ar reilffordd y gellid ei droi'n fwy proffidiol iddo trwy newid ei natur.[4]

Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Ddeddf Rheilffordd Sir Gaernarfon gael ei phasio ym 1862 a gwerthodd holl gyfranddalaidau cwmni Rheilffordd Nantlle i Thomas Savin, peiriannydd a phrif gontractor y rheilffordd newydd, ym 1863. Mae'n glir mai dyn busnes yn ogystal â pheirianydd cyflog oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef Alexander Marshall, a pharhaodd i weithredu fel peiriannydd sifil.[5]

Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf gan fod merch iddo wedi ei geni ym Mrwsel, Gwlad Belg ym 1866. Ganwyd merch arall iddo fo a'i wraig yn y Cawcasus ym 1871.

Cyn 1870, ac efallai mor gynnar â 1865 pan gychwynwyd ar brosiect i gysylltu'r Môr Du a Tblisi (Georgia) cafodd ei benodi'n beiriannydd preswyl Rheilffordd y Cawcasus yn Rwsia gan y contractwyr, G.B. Crawley a'r cwmni, wrth adeiladu rheilffordd trwy'r mynyddoedd am 168 milltir o Boti i Dbilisi. Roedd ganddo gynorthwywr o'r enw William Gill, a ddaeth yn beiriannydd rheilffyrdd nodedig yn ne America. Daeth y gwaith ar lein Poti-Tbilisi i ben fis Mawrth 1873 gyda'r trên cyntaf yn cyrraedd Tbilisi Hydref 1872[6] , ond ni wyddys pryd symudodd Preston yn ei flaen.[7] Bu'n ôl yng Nghymru am ychydig o amser ym mis Chwefror 1870, pan oedd yn aelod o gomisiwn gan Lywodraeth Rwsia dan arweiniad y Cownt Statkowski a ddaeth i Borthmadog i weld injans stêm Charles Easton Spooner wrth eu gwaith, a'r injan Little Wonder yn arbennig, a hynny fis Chwefror 1870.[8] Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, Benjamin Piercy, wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddylanwadodd hwnnw ar Preston iddo yntau chwilio am waith tramor. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yn y Cyfrifiad ar gyfer 1871. Mae hyn hefyd yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain ym 1871. Erbyn 1881 roedd y teulu'n byw mewn tŷ sylweddol yn Chelsea, Llundain.

Yng nghanol y 1880au fe ymddeolodd, gan rentu plasty ac ystâd fechan yn Swydd Henffordd, sef Easton Court, Little Hereford. Yn ystod hydref 1891 aeth gyda'i wraig ar ymweliad ag Algiers, ac mi fu farw yn ystod gwanwyn 1892 yn Llundain ar ôl dychwelyd o'r wlad honno.

Mae ei ddull o ddelio gyda defnyddwyr Rheilffordd Nantlle wedi ei ddangos i fod yn ddyn busnes digymrodedd a phenderfynol, ac mae dyddiadur Mary Ellen Jephson, un o'i ferched, a edrychodd ar ôl Easton Court iddo, yn ei ddarlunio fel dyn caled a fynnai ei ffordd. Roedd Mary Ellen yn wraig i swyddog gyda llongau P&O, ond casaodd Easton Court gan ei fod yn damp ac unig, a'r gweision yn hy wrthi. Symudodd oddi yno wedi i'w thad farw.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, (Oakwood, 1981), t.29
  2. Llawer o'r ddau baragraff uchod wedi ei gywain o golofnau cyhoeddiadau'r North Wales Chronicle, a Chyfrifiad 1861 am Gaernarfon.
  3. J.I.C. Boyd, op. cit., t.35.
  4. J.I.C. Boyd,op. cit., t.37.
  5. JIC Boyd, op. cit., Cyf 1, passim
  6. Japan Railway and Transport Review, 24, July 2000, t.42.
  7. Gwefan Grace's Guide to British Industrial History, [1], cyrchwyd 9.11.2018
  8. J.I.C. Boyd, The Festiniog Railway, Cyf.1 (Oakwood, 1975), tt.105,109
  9. Gwefan Herefordshire Past, [2], adalwyd 10.9.2018