Charles Easton Spooner

Oddi ar Wicipedia
Charles Easton Spooner
Bedyddiwyd1818 Edit this on Wikidata
Bu farw1889 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd rheilffyrdd Edit this on Wikidata
PlantGeorge Percival Spooner, Charles Edwin Spooner Edit this on Wikidata

Mab James Spooner oedd Charles Easton Spooner (18181889). Ganwyd y mab ym Maentwrog ym 1818[1]. Cymerodd drosodd Reilffordd Ffestiniog gan ei dad ym 1856. Cyflwynodd o locomotifau stêm ym 1863 gan ofyn i Charles Holland i gynllunio'r 6 locomotif cyntaf, adeiladwyd gan George England, gan gynnwys Little Wonder, y Locomotif Fairlie dwbl cyntaf. Trefnwyd profion locomotifau ar Reilffordd Ffestiniog ym 1870, a daeth peirianwyr o bobman, gan gynnwys Rwsia ac yr Unol Daleithiau. Cynlluniodd gilffyrdd trosglwyddo rhwng y rheilffyrdd Ffestiniog a Chambrian ym Minffordd.[2][3].

Dechreuodd gwasanaethau i deithwyr ym 1864[1]

Bu farw ym Mhorthmadog ar 18 Tachwedd 1889[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Gwefan archiveswales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-05-22.
  2. Tudalen Charles Easton Spooner, Festipedia
  3. Tudalen 'Some industrial influences on the evolution of landscape in Snowdonia North Wales' gan Noel Walley