Benjamin Piercy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Benjamin Piercy
Benjamin Piercy.jpg
Ganwyd 16 Mawrth 1827 Edit this on Wikidata
Trefeglwys Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Mawrth 1888 Edit this on Wikidata (61 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaeth peiriannydd, peiriannydd sifil Edit this on Wikidata

Roedd Benjamin Piercy (16 Mawrth 182724 Mawrth 1888) yn beiriannydd sifil. Roedd yn gyfrifol am ddatblygu rheilffyrdd yng Nghymru, yr Eidal, Ffrainc ac India, ac mae hefyd yn adnabyddus fel datblygwr syniadau a busnesau amaethyddol ac fel entrepreneur.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyfforddwyd Benjamin yn swyddfa'i dad, sef Robert Benjamin,  syrfëwr tir yn siroedd Trefaldwyn, Dinbych a Fflint a phartner busnes Brunel. Ar ôl derbyn ei radd mewn Peirianneg Sifil ym 1847, daeth Benjamin yn brif gynorthwywr i Charles Mickleburgh, syrfëwr ac asiant tir yn Sir Drefaldwyn.[2] Yn 1851 gofynnodd Henry Robertson am ei gymorth i baratoi cynlluniau ar gyfer rheilffordd newydd o'r Amwythig i Gaer, ac yn ddiweddarach ar gyfer rheilffordd o Groesoswallt i'r Drenewydd. Cafodd lwyddiant mawr yn ennill cymeradwyaeth seneddol ar gyfer y linell hon, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan wrthwynebydd eraill. Ac ers hynny bu a'i fus ym mriwes bron pob prosiect rheilffordd a fu yng Nghymru. Ystyrir ffosydd Talerddig ffos yn weithiau perianyddol o bwys yn ogystal a phontydd dros yr Hafren, y Mawddach a'r Traeth Bychan afonydd a gorsafoedd arbennig iawn yng Nghroesoswallt a'r Trallwng.

Yn 1855, priododd Sarah Davies, a symudodd i Wrecsam. Cawsant dri mab a chwe merch. Ar 8 Ionawr 1861 cafodd ei ethol yn Gadeirydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil[3]

Gweithgarwch mewn gwledydd tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1863, gyda Savin enillodd y contract ar gyfer y gwaith o adeiladu rheilffordd y Vendée - o Tours i'r Sables d'olonne.[4]

India[golygu | golygu cod y dudalen]

Piercy oedd Prif Beiriannydd y gwaith o ddatblygu Rheilffordd Assam yn India, gan ei ymestyn i Burma.

Prosiectau eraill a bywyd preifat[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1881 fe brynodd Neuadd Marchwiail ar gyfer y teulu ac yno y bu'n byw, gan ddatblygu strwythur rheilffyrdd Gogledd Cymru ymhellach er mwyn manteisio ar y mwynau newydd a gloddiwyd o'r tir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Archived copy". Archifwyd o y gwreiddiol ar 2014-02-02. Cyrchwyd 2013-01-06.CS1 maint: Archived copy as title (link) liceo brotzu
  2. Marghine e turismo culturale: le opportunità dell'area di Badde Salighes di Antonella Corda
  3. Institution of Civil Engineers (Great Britain), Minutes of Proceedings of the Institution of Civil Engineers, The Institution, 1861
  4. Bulletin des lois de France, Imprimerie Royale, 1863, pag. 192