Edward James Reed

Oddi ar Wicipedia
Edward James Reed
Ganwyd20 Medi 1830 Edit this on Wikidata
Sheerness Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1906 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd, gwleidydd, pensaer morol Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Roedd Syr Edward James Reed KCB, FRS (20 Medi 183030 Tachwedd 1906) yn bensaer llynges, yn awdur, perchennog rheilffyrdd a gwleidydd Rhyddfrydol a oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1874 i 1906.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edward James Reed yn Sheerness, Swydd Caint yn fab i John Reed, swyddog dociau ag Elizabeth (né Arney) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Fathemateg ac Adeiledd Llynges, Portsmouth [2]. Priododd Rosetta Barnaby ym 1851.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1852 dechreuodd ei yrfa ym maes cynllunio morwrol yn nociau Sheerness, ond fe ymddiswyddodd wedi anghydfod gyda'r rheolwr; wedyn fu'n gweithio ym maes newyddiaduraeth gan gynnwys gweithio fel golygydd y Mechanic's Magazine. Ym 1860 cafodd ei benodi yn ysgrifennydd cyntaf The Royal Institute of Naval Architects, sefydliad ar gyfer pobl a oedd yn ymwneud â dylunio, adeiladu, atgyweirio a gweithredu llongau, cychod a strwythurau morol.

Ym 1863 cafodd ei benodi yn brif adeiladydd llongau'r llynges, yn ystod ei gyfnod yn y swydd gwelwyd y trawsnewid terfynol o adeiladu llongau ryfel o bren i rai o haearn. Ymysg y llongau rhyfel nodedig a adeiladwyd o dan ei gyfarwyddyd oedd:

  • HMS Bellerophon ym 1865
  • HMS Monarch ym 1868
  • HMS Devastation ym 1871

Ymddiswyddodd ym 1870 ar ôl i'r llynges comisiynu'r llong HMS Captain heb ymgynghori ag ef na'i adran ond barhaodd i gynllunio llongau ryfel i nifer o wledydd eraill gan gynnwys Brasil, yr Almaen, Chile a Japan.[3]

Yn ogystal â'i ddiddordeb masnachol yn y busnes llongau yr oedd hefyd yn un o brif gyfranddalwyr yng nghwmnïau'r rheilffyrdd yn Florida, UDA [4]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Fe safodd Reed ei etholiad seneddol cyntaf, heb lwyddiant, mewn isetholiad yn Hull ym 1873. Yn etholiad cyffredinol 1874 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Penfro.

Yn yr Etholiad Cyffredinol 1880 safodd yn llwyddiannus yn etholaeth Caerdydd. Ym 1886 fe'i penodwyd yn Arglwydd y Trysorlys (sef un o chwipiaid y llywodraeth) yn nhrydedd weinidogaeth Gladstone. Yn dilyn ei benodiad cyhoeddodd y Western Mail erthygl yn awgrymu bod Reed wedi cael swydd cyflogedig barhaol gan Gladstone fel rhyw fath o lwgrwobr; erlynwyd y papur yn llwyddiannus mewn achos enllib gan Reed[5]

Collodd Reed ei sedd seneddol ym 1895, ond fe lwyddodd i'w adennill ym 1900. Ym 1905 cyhoeddodd ei fwriad i ymddeol o'r senedd yn yr etholiad nesaf (a gynhaliwyd ym 1906).

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cafodd Reed ei benodi'n Gydymaith Urdd y Baddon (CB) ym 1868, gan gael ei ddyrchafu'n Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ym 1880. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1876. Derbyniodd hefyd nifer o anrhydeddau gan wledydd eraill megis Rwsia, Awstria Twrci ac eraill

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Reed o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Y Strand, Llundain ym mis Tachwedd 1906. Fe'i claddwyd ym Mynwent Putney Vale ar 4 Rhagfyr.[6]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Shipbuilding in Iron and Steel (1868)
  • Our Ironclad Ships, their Qualities, Performance and Cost (1869)
  • Japan: its History, Traditions, and Religions Two volumes. London, J. Murray (1880)
  • Treatise on the stability of ships (1884)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cardiff Times, 17 Ebrill 1909, Tribute to Sir E J Reed [1] adalwyd 14 mawrth 2015
  2. Cardiff Times, 16 Gorffennaf 1892 The Welsh Members [2] adalwyd 14 mawrth 2015
  3. Cambrian 7 Rhagfyr 1906 Sir Edward Reed [3] adalwyd 16 Mawrth 2015
  4. Turner, Gregg. (2003) A Short History of Florida Railroads, 51–53. Charleston, South Carolina: Arcadia Publishing. ISBN 0-7385-2421-2
  5. Weekly Mail 4 Rhagfyr 1886 The Action for Libel by Sir E J Reed Mp against the Western Mail [4] adalwyd 16 Mawrth 2015
  6. Graces Guide to British Industrial History Sir Edward James Reed [5] adalwyd 16 Mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Meyrick
Aelod Seneddol Penfro
18741880
Olynydd:
Henry George Allen
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Crichton-Stuart
Aelod Seneddol Caerdydd
18801895
Olynydd:
James Mackenzie Maclean
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Mackenzie Maclean
Aelod Seneddol Caerdydd
19001906
Olynydd:
Ivor Churchill Guest