James Mackenzie Maclean

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Gwir Anrhydeddus James Mackenzie Maclean AS
James Mackenzie Maclean

James Mackenzie Maclean AS


Aelod Seneddol Oldham
Cyfnod yn y swydd
1885 – 1892

Aelod Seneddol Caerdydd
Cyfnod yn y swydd
1895 – 1900
Rhagflaenydd Syr Edward James Reed
Olynydd Syr Edward James Reed

Geni 13 Awst, 1835
Caeredin
Marw 22 Ebrill,1906
Bournemouth
Plaid wleidyddol Unoliaethwr
Priod Anna Maria Whitehead

Mrs. Sara Kennedy (né Hale)

Galwedigaeth Newyddiadurwr

Roedd James Mackenzie Maclean (13 Awst 183522 Ebrill 1906) yn newyddiadurwr, yn wleidydd Ceidwadol ac Unoliaethol ac yn Aelod Seneddol Caerdydd

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd James Mackenzie Maclean yn Liberton un o faestrefi Caeredin yn fab i Alexander Maclean a Mary (né Baigrie) ei wraig. Roedd Alexandrer McClean yn berchen ar ystâd fawr yn Jamaica[1]

Cafodd ei addysgu am gyfnod yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt ond ymadawodd ar ôl flwyddyn heb dderbyn gradd.

Priododd ei wraig gyntaf, Anna Maria Whitehead, merch Phillip Whitehead ym 1865, bu hi farw ym 1897; priododd ei ail wraig Mrs. Sara Kennedy (né Hale) ym 1900, roedd hi'n actores.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ymadael a'r brifysgol ym 1854 aeth Maclean i weithio fel athro mewn ysgol ramadeg yn Newcastle upon Tyne ond ymadawodd a'r ysgol ar ôl ychydig o fisoedd gan gael ei benodi yn ohebydd ar bapur wythnosol y Newcastle Chronicle, gan gael ei benodi yn olygydd y papur ym 1855. Ym 1858 symudodd i bapur dyddiol y Manchester Guardian fel prif awdur ei cholofnau arweiniol. Ym 1859 aeth allan i'r India i fyw ar ôl derbyn swydd olygydd The Bombay Gazette ond ymddiswyddodd ym mhen blwyddyn gan sefydlu ei bapur ei hun The Bombay Saturday Review. Ym 1863 fe brynodd ei hen bapur, y Bombay Gazette. Gwerthodd ei bapurau newyddion yn yr India ym 1879 gan ddychwelyd i fyw yng ngwledydd Prydain. Rhwng 1882 a 1899 roedd yn un o gyd berchenogion newyddiadur Caerdydd y Western Mail.[1]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra yn yr India fe fu Maclean yn aelod o Gyngor Tref Bombay gan wasanaethu am gyfnod fel ei Gadeirydd.

Ym 1880 safodd yn aflwyddiannus ar ran yr Unoliaethwyr yn etholaeth Bwrdeistref Elgin. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Oldham yn etholiad 1885 cyn cael ei drechu gan ymgeisydd Rhyddfrydol ym 1892. Dychwelodd i Dŷ'r Cyffredin fel aelod Ceidwadol Caerdydd ym 1895, ond wedi anghydfod rhyngddo a'i blaid ar bolisïau ymerodrol ni chafodd ei wahodd i amddiffyn y sedd ar eu rhan yn etholiad 1900.[3]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw o strôc yn Bournemouth ym 1906 yn 71 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion ym mynwent Old Chiswick, Llundain

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Guide to Bombay - 1879
  • Recollections of Westminster and India -1901
  • Free trade with India: India's place in an imperial federation - 1904

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Weekly Mail 28 Ebrill 1906 Mr J M Maclean dead[1] adalwyd 13 mawrth 2015
  2. Weekly Mail 28 Gorffennaf 1900 Marriage of Mr J M Mclean MP [2] adalwyd 13 mawrth 2015
  3. Cardiff Times 28 Ebrill 1906 The death of Mr J M Maclean [3] adalwyd 13 mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Edward James Reed
Aelod Seneddol Caerdydd
18951900
Olynydd:
Syr Edward James Reed