Eduardo Galeano

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eduardo Galeano
Eduardo Galeano (2858983926).jpg
Ganwyd Eduardo Germán María Hughes Galeano Edit this on Wikidata
3 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata (74 oed)
Achos: canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Man preswyl Montevideo Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd, awdur Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Open Veins of Latin America, Memoria del fuego Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Stig Dagerman, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, Gwobr Manuel Vázquez Montalbán ar gyfer Newyddiaduraeth Chwaraeon, Gwobr Diwylliant Rydd Lannan Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr, awdur a nofelydd Wrwgwáiaidd oedd Eduardo Hughes Galeano (3 Medi 1940 - 13 Ebrill 2015). Ei waith mwyaf adnabyddiedig yw Memoria del fuego (Atgofion Tân, 1986) a Las venas abiertas de América Latina (Gwythiennau Agored America Ladin, 1971) sydd wedi eu cyfieithu i dros ugain o ieithoedd eraill ac sy'n trosi ffiniau genres; drwy gyfuno ffuglen, newyddiaduraeth, dadansoddi gwleidyddol, a hanes.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Galeano yn Montevideo, Wrwgwái (Uruguay) i deulu dosbarth canol Catholig o dras Ewropeaidd. Fel cynifer o fechgyn ifanc America Ladin, breuddwydiodd am fod yn chwaraewr pêl-droed ac fe adlewyrchid hyn yn rhai o'i waith, fel El Fútbol A Sol Y Sombra (Pêl-droed Mewn Haul a Chysgod). Yn ei arddegau, fel weithiodd mewn sawl swydd — gweithiwr ffatri, casglwr biliau, peintiwr arwyddion, negesydd, teipiwr, a gweithiwr banc. Yn 14 mlwydd oed, gwerthodd Galeano ei gartŵn gwleidyddol cyntaf i wythnosolyn y Blaid Sosialaidd, El Sol. Priododd am y tro cyntaf yn 1959.

Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn y 1960au cynnar fel golygydd Marcha, cofnodolyn wythnosol dylanwadol gyda chyfranwyr megis Mario Vargas Llosa, Mario Benedetti, Manuel Maldonado Denis a Roberto Fernández Retamar. Am ddwy flynedd fe weithiodd fel golygydd y papur dyddiol Época a gweithiodd fel prif olygydd University Press. Yn 1962, yn dilyn ysgariad, fe briododd Graciela Berro.

Yn 1973, bu coup milwrol Wrwgwái; carcharwyd Galeano ac yna gorfodwyd ef i ffoi o'r wlad. Fe waharddwyd ei lyfr Las venas abiertas de América Latina gan y llywodraeth milwrol asgell-dde, ond nid yn Wrwgwái yn unig, ond hefyd yn Chile ac yn Yr Ariannin. Yn 1976 fe briododd am y trydydd tro gyda Helena Villagra, ond yn ystod yr un flwyddyn, cipiodd Videl rym yn Yr Ariannin yn dilyn coup gwaedlyd ac fe ychwanegwyd enw Galeano at restr y rhai a'u condemniwyd gan sgwadiau lladd. Bu rhaid iddo ffoi unwaith eto, y tro hwn i Sbaen, ble ysgrifenodd Memoria del fuego.

Dychwelodd i fyw yn Montevideo yn 1985, ble mae'n dal i fyw hyd heddiw. Yn 2007, cafodd lawdriniaeth llwyddiannus i drin canser yr ysgyfaint.

Chavez ac Obama[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar Ebrill 17, 2009, yn ystod sesiwn agoriadol pumed Uwchgynhadledd yr Amerig, yn Port of Spain, Trinidad a Tobago, fe gyflwynodd Arlywydd Feneswela, Hugo Chavez gopi o Las venas abiertas de América Latina i Arlwydd UDA, Barack Obama, a oedd ar ei daith ddiplomatidd cyntaf i'r rhanbarth. Fe arweiniodd hyn at fersiwn Saeseng y nofel (Open Veins Of Latin America) gyrraedd #2, a'r ferswin Sbaeneg gyrraedd #11 ar restr gwerthiant gorau Amazon.com.

Bu farw 13 Ebrill, 2015 yn 74 oed o ganser yr ysgyfaint.