Port of Spain
Jump to navigation
Jump to search
Port of Spain | |
---|---|
Lleoliad o fewn Trinidad | |
Gwlad | Trinidad a Thobago |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Corfforaeth Dinas Port of Spain |
Maer | Keron Valentine |
Daearyddiaeth | |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 49,031 (Cyfrifiad Ionawr 2000) |
Dwysedd Poblogaeth | 3,650 /km2 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | AST (UTC−4) |
Gwefan | http://www.cityofportofspain.org.tt/ |
Port of Spain yw prifddinas Trinidad a Thobago. Saif ar Gwlff Paria ar arfordir gorllewinol ynys Trinidad. Roedd y boblogaeth yn 2000 yn 49.000, gyda 300,000 yn yr ardal ddinesig.
Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwyr ar safle tref frodorol Cumucarapo. Symudodd y llywodraethwr Sbaenig olaf, Don Jose Maria Chacon, y brifddinas o St. Joseph i Port of Spain ar ddiwedd y 18g, a pharhaodd yn brifddinas pan ddaeth yr ynys yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn 1797.
O 1958 hyd 1962 roedd Port of Spain yn brifddinas Ffederasiwn India'r Gorllewin. Yn y 1960au, cyrhaeddodd y boblogaeth 100,000, ond ers hynny mae wedi gostwng wrth i bobl symud allan i'r maesdrefi.