Dyfed Elis-Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
Dyfed Elis-Gruffydd
Ganwyd23 Gorffennaf 1943 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, darlithydd, gwyddonydd y Ddaear Edit this on Wikidata

Daearegwr, darlithydd ac awdur o Gymro oedd Dyfed Elis-Gruffydd (23 Gorffennaf 194316 Hydref 2023)[1][2][3].

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Aeth ymlaen i Ngholeg Prifysgol Llundain, gan astudio Daeareg a Geomorffoleg. Testun traethawd ei ddoethuriaeth oedd hanes rhewlifol Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n ddarlithydd yn Adran Ddaeareg a Daearyddiaeth Polytechnig Dinas Llundain ac yn ei dro bu'n Bennaeth Adran Cyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn Olygydd a Chyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.[4] Am chwe mlynedd bu'n aelod o bwyllgor gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Bu'n gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd ac roedd yn arwain teithiau cerdded, annerch cymdeithasau Cymraeg a rhodio tirweddau rhewlifol a folcanig gogledd-orllewin Ewrop. Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i raglenni Radio Cymru. Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar y pwnc ac roedd ymhlith yr ymgynghorwyr golygyddol ynghyd â'r cyfranwyr a'r cyfieithwyr a gyfrannodd at baratoi Gwyddoniadur Cymru. [5]

Yn yr 1980au cynnar daeth yn olygydd cyntaf llawn amser gyda Gwasg Gomer. Treuliodd gyfnod yn bennaeth adran gyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bu hefyd yn bennaeth Amgueddfa Wlân Cymru.[2]

Yn 2022 cyhoeddodd y geiriadur daearegol cyntaf yn y Gymraeg.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn byw ym mhentref Llechryd ger Aberteifi. Roedd yn briod â Siân. Bu farw ei wraig gyntaf Robina, mewn damwain ffordd.

Bu farw yn 80 mlwydd oed yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.[3]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "GOMER PRESS LIMITED filing history - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-20.
  2. 2.0 2.1 "Y daearegwr Dr Dyfed Elis-Gruffydd wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2023-10-19. Cyrchwyd 2023-10-20.
  3. 3.0 3.1 "Click here to view the tribute page for Dyfed ELIS-GRUFFYDD". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-22.
  4. "Dyfed Elis-Gruffydd: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2023-10-20.
  5. "Cyhoeddi'r geiriadur daearegol cyntaf yn yr iaith Gymraeg". Golwg360. 2022-01-14. Cyrchwyd 2023-10-20.