Bwlch Drws Ardudwy
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Drws Ardudwy)
| Math | bwlch |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.83148°N 3.995661°W |
![]() | |

Bwlch yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Bwlch Drws Ardudwy. Arferai'r bwlch, sydd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, fod o bwysigrwydd mawr yn y Canol Oesoedd fel cyswllt rhwng Ardudwy ar yr ochr orllewinol i'r Rhinogau a'r ardaloedd i'r dwyrain.
Gellir cyrraedd y bwlch o Gwm Nantcol, gan ddechrau ger ffermdy Maesygarnedd, man geni John Jones, Maesygarnedd. Llifa Afon Cwmnantcol o waelod ochr orllewinol Bwlch Drws Ardudwy i ymuno yn Afon Artro ger Pentre Gwynfryn.
