Doris Day

Oddi ar Wicipedia
Doris Day
GanwydDoris Mary Anne Kappelhoff Edit this on Wikidata
3 Ebrill 1922 Edit this on Wikidata
Cincinnati Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mai 2019 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Carmel Valley Edit this on Wikidata
Man preswylCincinnati Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records, Philips Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, actor teledu, artist recordio, actor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amQué Será, Será Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth bop, draddodiadol, big band, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadFrederick Wilhelm Kappelhoff Edit this on Wikidata
MamAlma Sophia Welz Edit this on Wikidata
PriodGeorge William Weidler, Martin Melcher, Barry Comden, Al Jorden Edit this on Wikidata
PlantTerry Melcher Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Henrietta, Gwobr Henrietta, Gwobr Henrietta, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Gwobr Grammy, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dorisday.com Edit this on Wikidata
llofnod

Actores, cantores ac ymgyrchydd hawliau anifeiliaid oedd Doris Day (ganwyd Doris Mary Ann Kappelhoff, 3 Ebrill 192213 Mai 2019).[1]. Cychwynodd ei gyrfa fel canwr 'big band' yn 1949 a cynyddodd ei phoblogrwydd gyda'i recordiad llwyddiannus cyntaf "Sentimental Journey" (1945). Ar ôl gadael band Les Brown & his Band of Renown i ddechrau gyrfa unigol, recordiodd mwy na 650 cân rhwng 1947 a 1967, gan ei gwneud yn un o gantorion mwyaf poblogaidd a chanmoledig yr 20g.

Cychwynnodd gyrfa ffilm Day yn ail hanner y cyfnod Ffilm Hollywood Clasurol gyda'r ffilm Romance on the High Seas (1948), a thrwy lwyddiant y ffilm cychwynnodd ei gyrfa ugain mlynedd fel actores mewn ffilmiau nodwedd. Serennodd mewn sawl ffilm lwyddiannus yn cynnwys sioeau cerdd, comediau a dramau. Chwaraeodd y prif ran yn Calamity Jane (1953) a serennodd yn ffilm Alfred Hitchcock The Man Who Knew Too Much (1956) gyda James Stewart. Ei ffilmiau mwyaf llwyddiannus oedd y rhai lle'r oedd yn cyd-serennu gyda Rock Hudson a James Garner, megis Pillow Talk (1959) a Move Over, Darling (1963), yn eu trefn. Cyd-serennodd gyda sawl gŵr blaenllaw fel Clark Gable, Cary Grant, David Niven, a Rod Taylor. Ar ôl ei ffilm olaf yn 1968, aeth ymlaen i serennu ar y gomedi sefyllfa The Doris Day Show (CBS, 1968–1973).

Roedd Day fel arfer yn un o'r cantorion deg uchaf rhwng 1951 a 1966. Fel actores, daeth yn un o'r sêr benywaidd mwyaf yn yr 1960au cynnar, gan gyrraedd rhif chwech mewn rhestr o berfformwyr yn y ffilmiau mwyaf llwyddiannus yn ariannol erbyn 2012.[2][3][4] Yn 2011, ryddhaodd ei 29ain albwm stiwdio gyda deunydd newydd, My Heart a ddaeth yn albwm 10 uchaf yn y DU. Ymhlith ei gwobrau, derbyniodd Wobr Cyflawniad Oes y Grammy a Gwobr Chwedl gan Society of Singers. Yn 1960, fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Academi ar gyfer Actores Orau,[5] ac yn 1989 derbyniodd y Wobr Cecil B. DeMille am gyflawniad oes mewn ffilmiau nodwedd. Yn 2004, derbyniodd Fedal Rhyddid Arlywyddol gan yr Arlywydd George W. Bush wedi ei ddilyn yn 2011 gan Wobr Cyflawniad Gyrfa y Los Angeles Film Critics Assocation. Roedd yn un o sêr olaf oedd wedi goroesi ers Oes Aur Hollywood.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Doris Mary Ann Kappelhoff ar 3 Ebrill 1922, yn Cincinnati, Ohio,[6] yn ferch i Alma Sophia (née Welz; 1895–1976), gwraig tŷ, a William Joseph Kappelhoff (1892–1967), athro cerdd ac arweinydd côr.[7][8] Roedd ei theidiau a neiniau i gyd yn fewnfudwyr Almaenig.[9] Am y rhan fwyaf o'i bywyd, mae'n debyg y fod Day yn credu ei bod wedi ei geni yn 1924 a felly yn cyfrifo ei oed o hynny; ond ni ddysgodd y dyddiad cywir nes ei phen-blwydd yn 95 oed pan ddarganfuwyd ei thystysgrif geni gan yr Associated Press, gan ddangos mai blwyddyn ei geni oedd 1922.[6]

Roedd yr ieuengaf o dri plentyn, roedd ganddi ddau frawd hŷn: Richard (a bu farw cyn ei genedigaeth) a Paul, dwy neu dair mlynedd yn hŷn.[10] Oherwydd anffyddlondeb honedig ei thad, gwahanwyd ei rhieni.[4][11] Dangosodd ddiddordeb cynnar mewn dawnsio, ac yng nghanol y 1930au ffurfiodd ddeuawd dawns gyda Jerry Doherty a berfformiodd yn lleol yn Cincinnati.[12] Cafodd ddamwain car ar 14 Hydref 1937 gan niweidio ei choes dde ac amharodd hyn ei dyfodol fel dawnswraig broffesiynol.[13][14]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Wedi ymddeol o fyd ffilmiau, roedd Day yn byw yn Carmel-by-the-Sea, Califfornia. Roedd ganddi nifer o anifeiliaid anwes ac yn mabwysiadu anifeiliaid crwydr.[15]

Roedd Day yn cefnogi'r Blaid Weriniaethol drwy gydol ei hoes.[16]. Roedd ei hunig fab Terry Melcher yn gynhyrchydd recordiau a chyfansoddwr a gafodd lwyddiant yn yr 1960au gyda "Hey Little Cobra" o dan yr enw The Rip Chords - bu farw o melanoma yn Tachwedd 2004.[17] Roedd Day yn cyd-berchen ar westy yn Carmel-by-the-Sea, y Cypress Inn, gyda'i mab.[18] Cafodd Terry fab o'r enw Ryan gyda'i ail wraig Jacqueline Carlin.[19] Mae Ryan yn werthwr tai sy'n byw a gweithio yn Carmel.[20]

Priodasau[golygu | golygu cod]

Priododd bedair gwaith. Roedd ei priodas cyntaf gyda'r cerddor Al Jorden, rhwng Mawrth 1941 a Chwefror 1943. Cafodd y cwpl un mab, Terrence Paul Jorden (adnabyddwyd yn ddiweddarach fel Terry Melcher) (1942-2004), a dyma unig blentyn Day. Roedd ei hail briodas i'r cerddor George Weidler, rhwng 30 Mawrth 1946 a 31 Mai 1949.

Ar ddiwrnod ei phen-blwydd 3 Ebrill, yn 1951, priododd Martin Melcher a bu'r ddau gyda'i gilydd hyd farwolaeth Melcher yn Ebrill 1968. Mabwysiadodd Melcher ei mab o'r briodas gyntaf. Cynhyrchodd Martin Melcher nifer o ffilmiau Day.

Roedd priodas olaf Day gyda Barry Comden (rhwng 14 Ebrill 1976 a 2 Ebrill 1981). Roedd Comden (1935–2009) yn maître d'hôtel yn un o hoff fwytai Day.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Day ar 13 Mai 2019 ar ôl dal niwmonia. Cyhoeddwyd ei marwolaeth gan ei helusen, y Doris Day Animal Foundation.[21][22][23]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

  • Romance on the High Seas (1948)
  • Young Man with a Horn (1949)
  • Tea for Two (1950)
  • Lullaby of Broadway (1951)
  • On Moonlight Bay (1951)
  • Starlift (1951)
  • April in Paris (1952)
  • By the Light of the Silvery Moon (1953)
  • Calamity Jane (1953)
  • Young at Heart (1954)
  • Love Me or Leave Me (1955)
  • The Man Who Knew Too Much (1956)
  • The Pajama Game (1957)
  • Teacher’s Pet (1958)
  • Pillow Talk (1959)
  • Please Don’t Eat the Daisies (1960)
  • Lover Come Back (1961)
  • That Touch of Mink (1962)
  • The Thrill of It All (1963)
  • Move Over, Darling (1963)

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

  • You're My Thrill (1949)
  • Day By Day (1956)
  • Day by Night (1957)
  • Cuttin' Capers (1959)
  • What Every Girl Should Know (1960)
  • Show Time (1960)
  • Bright and Shiny (1961)
  • You'll Never Walk Alone (1962)
  • The Doris Day Christmas Album (1964)
  • Latin for Lovers (1965)
  • Doris Day's Sentimental Journey (1965)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Doris Day: Her Own Story (1975)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Actress Doris Day dies aged 97 , BBC News, 13 Mai 2019.
  2. "Top Ten Money Making Stars". Quigley Publishing Company. QP Media, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 14, 2013. Cyrchwyd December 19, 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Doris Day". Biography in Context. Detroit, MI: Gale. 2013. Cyrchwyd January 15, 2016.
  4. 4.0 4.1 Hotchner, A.E. (1976). Doris Day: Her Own Story. New York: William Morrow and Company, Inc. ISBN 978-0-688-02968-5.
  5. Doris Day awards and nominations, Dorisday.com
  6. 6.0 6.1 Elber, Lynn (April 2, 2017). "Birthday surprise for ageless Doris Day: She's actually 95". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 4, 2017. Cyrchwyd April 2, 2017. A copy of Day's birth certificate, obtained by The Associated Press from Ohio's Office of Vital Statistics, settles the issue: Doris Mary Kappelhoff, her pre-fame name, was born on April 3, 1922, making her 96. Her parents were Alma and William Kappelhoff of Cincinnati. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Kaufman 2008, t. 4.
  8. "Ancestry.com". Born 1922: age on April 10, 1940, in Hamilton County, Ohio, 91–346 (enumeration district), 2552 Warsaw Avenue, was 18 years old as per 1940 United States Census records; name transcribed incorrectly as "Daris Kappelhoff", included with mother Alma and brother Paul, all with same surname[dolen marw]. (registration required; initial 14-day free pass)
  9. Doris Day profile. Wargs. http://www.wargs.com/other/day.html. Adalwyd April 5, 2014.
  10. Hotchner 1975, t. 18.
  11. Amory, Cleveland (August 3, 1986). "Doris Day talks about Rock Hudson, Ronald Reagan and her own story". The Pittsburgh Press. Cyrchwyd August 10, 2013.
  12. Parish, James Robert; Pitts, Michael R. (January 1, 2003). Hollywood songsters. 1. Allyson to Funicello. Routledge. t. 235. ISBN 978-0-415-94332-1. Cyrchwyd August 8, 2013.
  13. "Trenton Friends Regret Injury to Girl Dancer". Hamilton Daily News Journal. October 18, 1937. t. 7. Cyrchwyd April 3, 2017. Free to read
  14. Browne, Ray Broadus; Browne, Pat (2001). The Guide to United States Popular Culture. Popular Press. tt. 220–221. ISBN 978-0-87972-821-2. Cyrchwyd August 8, 2013.
  15. "Doris Day: A Hollywood Legend Reflects On Life". NPR. January 2, 2012. Cyrchwyd December 12, 2012.
  16. Kaufman 2008, t. 437.
  17. Cartwright, Garth (November 23, 2004). "Terry Melcher". The Guardian. Cyrchwyd 30 Awst 2018.
  18. Anderson, Marilyn; Lanning, Dennis L. (Medi 11 2011). "The Cypress Inn: Doris Day's Pet-Friendly Getaway in Carmel-by-the-Sea". Agenda mag. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2012. Check date values in: |date= (help)
  19. Kaufman, David (May 2008). "Doris Day's Vanishing Act". Vanity Fair. Condé Nast. Cyrchwyd 13 Mai 2019.
  20. "About Ryan Melcher Properties". Ryan Melcher Properties. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-17. Cyrchwyd 13 Mai 2019.
  21. "Doris Day, Hollywood's Favorite Girl Next Door, Dies at 97". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 2019-05-13.
  22. Lee, Benjamin (May 13, 2019). "Doris Day, celebrated actor and singer, dies at 97". The Guardian. Cyrchwyd 2019-05-13.
  23. "Legendary actress and singer Doris Day dead at 97". AP NEWS. The Associated Press. 13 Mai 2019. Cyrchwyd 13 Mai 2019.