Rock Hudson
Jump to navigation
Jump to search
Rock Hudson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
17 Tachwedd 1925 ![]() Winnetka ![]() |
Bu farw |
2 Hydref 1985 ![]() Achos: canser yr ysgyfaint, AIDS related disease ![]() Marina del Rey ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor, HIV activist ![]() |
Arddull |
Y Gorllewin Gwyllt ![]() |
Taldra |
193 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol |
California Republican Party ![]() |
Priod |
Phyllis Gates ![]() |
Gwobr/au |
Seren ar Rhodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Roedd Rock Hudson (17 Tachwedd 1925 – 2 Hydref 1985) yn actor ffilm a theledu Americanaidd a chawsai ei adnabod fel y prif ran rhamantaidd yn ystod y 1960au a'r 1970au. Cafodd Hudson ei bleidleisio'n Seren y Flwyddyn, Hoff Brif Actor a nifer o deitlau tebyg gan amryw o gylchgronau ffilmiau ac yn ddi-os ef oedd un o'r actorion mwyaf adnabyddus a phoblogaidd ei gyfnod. Cwblhaodd yn agos at 70 o ffilmiau ac ymddangosodd ar nifer o gynhyrchiadau teledu mewn gyrfa a ymestynnodd dros bedwar degawd. Hudson hefyd oedd un o brif enwogion cyntaf Hollywood i farw o afiechyd a oedd yn gysylltiedig ag AIDS.