Dom Deryn (ffansîn)

Oddi ar Wicipedia

Cylchgrawn dros-dro/hunan-argraffiedig oedd Dom Deryn a gyhoeddwyd gan aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd yn ddisgyblion ysgol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, yn 1985-86.

Cyhoeddwyd 3 rhifyn. Y golygydd oedd Siôn Jobbins.

Roedd gan y ffansîn arddull wleidyddol a phryfoclyd er mwyn hyrwyddo achosion Cymdeithas yr Iaith dros hawliau i'r iaith Gymraeg. Byddai'r ffansîn hefyd yn cynnwys erthyglau am y Sîn Roc Gymraeg.

Fel ffansîns eraill y cyfnod, cynhyrchwyd y cylchgrawn gan ddefnyddio teipiadur a llawysgrifen gan gludo'r testun ar ddalen bapur a'i ffotogopio. Cynhyrchwyd oddeutu 200 copi o'r ffansîn y rhifyn gan eu gwerthu yn yr ysgol. Gwerthwyd y ffansîn o fewn yr ysgol a digwyddiadau a gigs y Gymdeithas. Aeth yr elw o'r ffansîn i Gymdeithas yr Iaith.

Roedd Dom Deryn yn rhan o don o ffansîns tebyg a gynhyrchwyd yn yr 1980au hwyr megis 'LlMYCh' (gan Gymdeithas yr Iaith, Clwyd) a 'Ms Gwenith' (Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru).

Dylanwad y Sîn Roc Gymraeg Danddearol[golygu | golygu cod]

Teg dweud i ddyfodiad cyhoeddiadau fel Dom Deryn ddod yn sgîl ffansîns pop Cymraeg a gyhyrchwyd gan gefnogwyr a grwpiau 'tan-ddearol' yr 1980au hwyr megis Rhys Mwyn (o'r Anhrefn) a David R. Edwards (Datblygu). Roedd natur rhad, hawdd-eu-cynhyrchu ac amrwd y ffansîns pop yn dangos nad oedd raid wrth offer drud er mwyn lledaenu neges am gerddoriaeth eu wleidyddiaeth.

Gellir gweld fod y ffansîns gwleidyddol a cherddorol yn rhannu'r un cylch er bod anghytuno rhyngddynt.

Sîn Gymraeg Caerdydd[golygu | golygu cod]

Roedd dyfodiad Dom Deryn gan ddisgyblion Glantaf yn rhan o don o ymwybyddiaeth iaith a diwylliant gyfoes Gymraeg a ddaeth i'r ysgol gyda blynyddoedd y 6ed dosbarth gyntaf yng nghannol yr 1980au. Gellir priodoli hyn hefyd i gyngherddau pop a roc Cymraeg a gynhaliwyd yn yr ysgol, ffurfio'r grŵp pync gwallgo, W Thant, yna Edrych am Jiwlia a grwpiau eraill, ac agor Clwb Ifor Bach yn y ddinas. Cyhoeddwyd Dom Deryn gyda chefnogaeth ac anogaeth Steffan Webb, athro yn yr ysgol a chefnogwr brwd o'r Gymdeithas. Cafwyd hefyd gefnogaeth brwd gan ddisgyblion megis y chwiorydd Stephens; Lowri, Heledd a Brengain (chwiorydd hŷn y DJ, Huw Stephens) a merched Meic Stephens y llenor a, gyda'i wraig, Ruth, ill dau ymysg aelodau cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.