Dietrich Bonhoeffer
| Dietrich Bonhoeffer | |
|---|---|
| Ganwyd | 4 Chwefror 1906 Wrocław |
| Bu farw | 9 Ebrill 1945 Flossenbürg concentration camp |
| Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, gwrthryfelwr milwrol, bardd, gweinidog bugeiliol |
| Cyflogwr | |
| Prif ddylanwad | Reinhold Niebuhr |
| Tad | Karl Bonhoeffer |
| Mam | Paula Bonhoeffer |
| Partner | Maria von Wedemeyer |
| Llinach | Bonhoeffer family |
| Gwobr/au | Gwobr Dewrder Sifiliaid |
| llofnod | |
Diwinydd Lutheraidd ac awdur Almaenig oedd Dietrich Bonhoeffer (4 Chwefror 1906 - 9 Ebrill 1945).
Ganed Bonhoeffer yn ninas Breslau (Wroclaw yng Ngwlad Pwyl heddiw). Astudiodd ym Merlin (1924-1927) ac Efrog Newydd (1930). Datblygodd y syniad fod rhaid i'r eglwys fod yn sanctorum communio, cymuned o'r saint. Bu'n weinidog yn Llundain yn 1933 a 1934. Wedi dychwelyd i'r Almaen, datblygodd i fod yn wrthwynebydd i Natsïaeth, a bu ganddo ran yn y cynllun gan swyddogion y fyddin ac eraill i ladd Adolf Hitler. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn Ebrill 1943, wedi i'r awdurdodau ddarganfod ei fod yn darparu arian i alluogi Iddewon i ddianc i'r Swistir. Wedi'r ymdrech aflwyddiannus i ladd Hitler ar 20 Gorffennaf 1944, darganfuwyd ei gysylltiadau a'r cynllun, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Dienyddiwyd ef yng ngwersyll carchar Flossenbürg.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Harri Williams, Bonhoeffer, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)