Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Lleidr penffordd

Oddi ar Wicipedia
Peintiad gan William Powell Frith o Ladron Pen-ffordd
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
BBC Bitesize
Twf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd lladron pen-ffordd yn droseddwyr a oedd yn dwyn oddi ar deithwyr. Roedd y math hwn o leidr fel arfer yn teithio ac yn lladrata ar gefn ceffyl.[1] Roedd troseddwyr o'r fath yn gweithredu ym Mhrydain Fawr o oes Elisabeth hyd at ddechrau'r 19eg ganrif, ac roeddent ar eu hanterth yn ystod y 18fed ganrif. Mewn llawer o wledydd eraill, fe wnaethant barhau am ychydig ddegawdau yn hwy, tan ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif. Dywedwyd bod gwragedd priffyrdd, fel Katherine Ferrers, yn bodoli hefyd, yn aml yn gwisgo fel dynion, yn enwedig mewn ffuglen.

Un o’r rhesymau pam roedd lladrata ar y ffordd yn un o’r troseddau roedd pobl yn ei ofni fwyaf oedd oherwydd bod defnyddio trais, bygwth defnyddio trais neu hyd yn oed llofruddiaeth yn gyffredin pan gyflawnwyd y drosedd hon.

Rhannwyd lladrata ar y ffordd yn ddwy fath o drosedd, sef lladron pen-ffordd a lladron ar droed (footpads yn Saesneg). Roedd yr olaf o'r rhain rywbeth yn debyg i'r rhai sy'n mygio heddiw, a chredai pobl mai'r rhain yn hytrach na lladron pen-ffordd oedd yn fwy tebygol o ddefnyddio trais. Roedd lladron pen-ffordd yn lladrata ar gefn ceffyl ac roedd llawer o chwedloniaeth yn gysylltiedig â hwy. Roedd pobl yn credu mai gwŷr bonheddig yn gwisgo masg ar gefn ceffyl gyda phistol oedd lladron pen-ffordd, ac wrth ddwyn byddent yn cael sgwrs gwrtais gyda’r dioddefwr ac yn dychwelyd rhywfaint o’r arian ar ôl ei ddwyn. Credwyd hefyd eu bod yn defnyddio geiriau fel Eich arian neu eich bywyd!, neu Stand and deliver!

Yn aml iawn byddai lladron pen-ffordd yn aros y tu allan i ddinasoedd mawr fel Llundain am y goets wrth iddi ddod allan o’r ddinas a theithio ar draws Hampstead Heath. Roedd y goets yn ddull cyffredin o deithio i bobl gyfoethog yn y cyfnod hwn gan nad oedd trenau wedi dod yn gyffredin fel ffordd o deithio. Byddai lladron pen-ffordd fel arfer yn gweithio fel unigolion tra bod y lladron ar droed yn dueddol i fod yn rhan o gangiau.

Y ddeunawfed ganrif[golygu | golygu cod]

Lleidr pen-ffordd efo pistol

Byddai’r Goets Fawr yn cludo post a theithwyr, a gan fod cyflwr yr hewlydd mor wael roedd y goets yn medru troi’n darged rhwydd i’r lladron hyn. Gan nad oedd banciau’n gyffredin yr adeg honno byddai llawer o bobl gyfoethog yn cludo eu harian a’u heiddo gwerthfawr - er enghraifft, gemwaith - wrth iddynt deithio. Roedd diffyg giard ar y goets yn golygu ei bod yn darged rhwydd i ladron pen-ffordd. Gyda thwf y trefi diwydiannol yn ystod y 18fed ganrif roedd llawer o dor-cyfraith yn y mannau hynny, ac nid oedd awdurdodau yn bodoli i'w plismona. Gyda hynny dechreuodd lladron pen-ffordd dargedu'r ardaloedd hynny i gyflawni eu troseddau. Trodd llawer o gyn-filwyr, yn enwedig ar ôl y Rhyfeloedd Napoleanaidd, at ladrata pen-ffordd fel ffordd o fyw, yn enwedig gan ei bod hi’n rhad ac yn hawdd prynu ceffyl a phistol. Roedd y porthmyn hefyd yn darged i’r lladron pen-ffordd wrth iddynt yrru eu hanifeiliaid ar hyd yr heolydd a’r llwybrau mynyddig o’r ardaloedd gwledig i farchnadoedd fel Smithfield yn Llundain. Dyma un o’r rhesymau pam sefydlwyd Banc yr Eidion Du, Banc y Ddafad Ddu a Banc Aberystwyth a Thregaron at ddefnydd y porthmyn.[2][3][4]

Dick Turpin[golygu | golygu cod]

Rhai o ladron pen-ffordd enwocaf Lloegr yn y 18fed ganrif oedd Dick Turpin a Jack Sheppard. Cigydd oedd Dick Turpin a gychwynnodd ei yrfa fel lleidr yn dwyn arian a bwrglera tai pobl. Yna trodd yn lleidr pen-ffordd, ac roedd ef a’i giang yn cuddio mewn ogof yn Fforest Epping, a oedd hefyd yn bencadlys iddynt. Wedi iddo saethu ei gyd-leidr penffordd, sef Tom King, penderfynodd ffoi i Gaerefrog a newid ei enw er mwyn osgoi cael ei ddal gan yr awdurdodau. Ond yn 1730 arestiwyd ef am ddwyn ceffyl a chrogwyd ef yng Nghaerefrog.  

Lladron Pen-ffordd yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Ogof Twm Sion Cati

Roedd Lladron Pen-ffordd yn gweithredu yng Nghymru fel ym mhob gwlad arall yn Ewrop, gyda Lladron Pen-ffordd enwog fel Twm Sion Cati yn hawlio lle pwysig yn ein hanes.

Mae tystiolaeth ymysg papurau llysoedd barn Cymru o’r math o eiriau bygythiol fyddai’n cael eu defnyddio, er enghraifft, yng nghofnod Llys y Sesiwn Fawr yn 1755 dywedodd un lleidr pen-ffordd yn Gymraeg: Sefwch God damo chi. Efe ceisiwch eich arian chwi. Yn yr achos hwwn gwrthododd y ddau deithiwr roi eu harian, a ffodd y lladron, ond cawsant eu dal a’u trawsgludo am saith mlynedd.

Dim ond mewn un achos yng Nghymru rhwng 1730 a 1830 mae tystiolaeth bod lleidr pen-ffordd wedi ymddwyn fel gŵr bonheddig. Ym 1741 lladratwyd eiddo Jane Harry gan ddau ŵr oedd wedi cuddio eu hwynebau. Dygodd y ddau leidr £17-19-0 (£17.80) oddi arni cyn dychwelyd chwe cheiniog (2 1/2c) iddi er mwyn iddi allu rhoi llwncdestun i iechyd y ddau leidr. Er gwaethaf eu hymddygiad bonheddig, crogwyd un ond dihangodd y llall cyn iddo gael ei arestio.

Roedd lladrata ffordd yn arwain at drais yn aml, yn enwedig os oedd yr arwydd lleiaf o wrthod ufuddhau i orchmynion y lleidr. Defnyddiwyd trais yn aml - er enghraifft, roedd Sarah Thelwall ar ei ffordd i ddawns gyda’i chyfaill Samuel Smith pan ymosodwyd arnynt ar y stryd yn Wrecsam yn 1825 gan nifer o ddynion a ladratodd ei chlogyn. Flwyddyn yn ddiweddarach yn yr un dref roedd Henry Bankes yn gwneud dŵr yn erbyn mur pan darwyd ef i’r llawr a dygwyd pum swllt (25c) oddi arno.

Roedd lladrata ffordd a arweiniai at ladd yn cael llawer o sylw gan y wasg ac mewn baledi’r cyfnod. Cyhoeddwyd baledi am Lewis Owen, a saethodd ddyn ar ôl iddo wrthwynebu ei ymdrechion i ddwyn ei arian ym 1822, ac hefyd am John Connor am ddwyn a cheisio lladd dau oruchwyliwr y tlodion yn yr un flwyddyn. Soniwyd hefyd am Thomas Thomas, a laddodd gariwr o Silian yng Ngheredigion ym 1845, ac am John Roberts, a laddodd Jesse Roberts, athro ysgol, cyn dwyn ei oriawr ym 1853. Ond yr achos a gafodd fwyaf o sylw oedd achos llofruddiaeth ym mhentref Dafen. Yn 1887 newidiodd clerc gwaith tun Dafen siec am £590 yn y banc lleol er mwyn talu cyflogau’r gweithwyr. Ar ei ffordd o’r banc ymosododd David Rees arno gan ddefnyddio darn o haearn, ac fe’i lladdwyd er mwyn dwyn yr arian. Achosodd y llofruddiaeth gryn ddrwgdeimlad. Cafwyd adroddiadau maith yn y wasg am y llofruddiaeth, yr achos llys ac am ddienyddiad David Rees yn 1888.

Roedd llenyddiaeth a gyhoeddwyd yn y 19eg ganrif yn parhau i hyrwyddo’r syniad rhamantaidd am ladron pen-ffordd fel Dick Turpin. Roedd y realiti yn wahanol iawn i’r ddelwedd hon.

Twm Sion Cati[golygu | golygu cod]

Roedd Thomas Jones, sef ei enw iawn, yn lleidr pen-ffordd o’r 16eg a 17eg ganrif. Roedd yn llochesu yn y mynyddoedd mewn ogof uwchben Tregaron, Sir Ceredigion ac mae chwedloniaeth yn ei bortreadu fel math o ffigwr rhadlon a oedd yn dwyn eiddo’r cyfoethog a'i roi i’r tlodion.[5] Roedd Thomas Jones, Porth-y-Ffynnon, Tregaron, yn dirfeddiannwr, yn fardd, yn hynafiaethydd ac achyddwr, ond adnabyddir ef yn bennaf fel lleidr pen-ffordd enwocaf Cymru yn ystod y 17eg ganrif.[6][7]

Diwedd lladrata pen-ffordd[golygu | golygu cod]

Llwyddwyd i leihau nifer y lladron pen-ffordd drwy gael gwarchodwyr i deithio ar y goets, a gwellodd cynllun coetsis fel eu bod yn medru teithio yn fwy cyflym, ac erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd arwynebedd yr heolydd wedi gwella, gan gynyddu cyflymder teithio coetsis. Ar ôl 1763 roedd Patrol Ceffylau'r Brodyr Fielding yn fwy gwyliadwrus o ladron pen-ffordd, a gyda thwf y trefi roedd llai o ardaloedd a hewlydd diarffordd lle byddai lladron pen-ffordd yn medru llochesu a chuddio. Ar ben hynny roedd Ynadon Heddwch yn gwrthod rhoi trwyddedau i dafarndai oedd yn rhoi llety a lloches i ladron pen-ffordd.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rid, Samuel. "Martin Markall, Beadle of Bridewell," in The Elizabethan Underworld, A. V. Judges, ed. pp. 415–416. George Routledge, 1930. Online quotation. See also Spraggs, Gillian: Outlaws and Highwaymen: the Cult of the Robber in England from the Middle Ages to the Nineteenth Century, pp. 107, 169, 190–191. Pimlico, 2001
  2. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 63. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  3. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 63.
  4. "Twf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  5. "Ewyllys Twm Siôn Cati". Llyfrgell Gendlaethol Cymru. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
  6. "Ach Eisteddfodol". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-07-08. Cyrchwyd 2020-04-08.
  7. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 492. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  8. "Llofruddion a lladron Pen-ffordd: Y genre trosedd a chosb yng Nghymru'r 19eg Ganrif". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-12-09. Cyrchwyd 2020-03-27.