Twm Siôn Cati

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Twm Sion Cati)
Twm Siôn Cati
FfugenwTwm Shon Catti Edit this on Wikidata
Ganwyd1530, 10 Awst 1532 Edit this on Wikidata
Tregaron Edit this on Wikidata
Bu farw1608 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, achrestrydd Edit this on Wikidata

Hynafiaethydd, arwyddfardd a herwr o Dregaron, Ceredigion, oedd Twm Siôn Cati (1 Awst 1532 neu 1530 - 1609). Ei enw iawn oedd Thomas Jones. Tyfodd gylch o chwedlau a thraddodiadau amdano fel y "Robin Hood" Cymreig; credir erbyn hyn mai apocryffaidd ydynt a bod enw Thomas Jones wedi cael ei ddrysu gyda threiglad amser ag enwau lladron pen ffordd yng Ngheredigion.[1]

Dywedir ei fod yn fab i Cati Jones a Siôn ap Dafydd ap Madog ap Hywel Moetheu o Borth-y-ffynnon ger Tregaron a'i fod "yn dirfeddiannwr parchus, yn hynafieithydd a bardd a ddaeth yn ynad heddwch ac yn Faer tref Aberhonddu."[2]

Ffuglen[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd nofel Saesneg amdano gan Thomas Jeffery Llewelyn Prichard yn 1828 Adventures and Vagaries of Twm Shôn Catti. Mae T. Llew Jones wedi cyhoeddi tair nofel Gymraeg amdano sef Y Ffordd Beryglus, Ymysg Lladron a Dial o'r Diwedd.

Hen bennill[golygu | golygu cod]

Dengys y pennill hwn cymaint o ofn oedd gan y trigolion lleol ohono:

Mae llefain mawr a gweiddi
Yn Ystrad-ffin eleni,
A'r cerrig nadd yn toddi'n blwm
Gan ofon Twm Siôn Cati.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.104
  3. T. H. Parry-Williams (gol.), Hen Benillion (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1940), tud. 159.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.