Deddf Cydnabod Rhywedd 2004

Oddi ar Wicipedia
Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Deddf Senedd y Deyrnas Unedig yw Deddf Cydnabod Rhywedd 2004,[1] sy'n caniatáu i bobl sydd â dysfforia rhywedd newid eu rhywedd cyfreithiol. Daeth i rym ar 4 Ebrill 2005.

Gweithrediad y ddeddf[golygu | golygu cod]

Mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn galluogi pobl i ymgeisio am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd (TCRh). Tystysgrif Cydnabod Rhywedd yw'r ddogfen a roddwyd sy'n dangos bob person wedi cyflawni'r meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth gyfreithiol yn y rhywedd caffaeledig. Mae'r ddeddf yn rhoi i bobl sydd â dysfforia rhywedd gydnabyddiaeth gyfreithiol fel aelod y rhyw priodol i'w hunaniaeth o ran rhywedd trwy TCRh. Gall pobl y cofrestrwyd eu genedigaeth yn y Deyrnas Unedig neu dramor â'r awdurdodau Prydeinig gael tystysgrif geni sy'n dangos eu rhyw cyfreithiol a gydnabyddir.[2] Ystyrir pobl y roddir TCRh iddynt, o ddyddiad ei roi, yn eu "rhywedd caffaeledig" yn llygaid y gyfraith yn y rhan fwyaf o sefyllfeydd. Dau brif eithriad i gydnabyddiaeth gyfreithiol pobl draws yw yr erys y disgyniad o arglwyddiaeth yn ddigyfnewid[3] (yn bwysig i etifeddiaeth gyntaf-anedig yn unig) a hawl cydwybod ar gyfer clerigwyr Eglwys Lloegr (y maent yn gorfod priodi unrhyw ddau berson cymwys fel arfer dan y gyfraith)

Cyn y rhoddir Tystysgrif Cydnabod Rhywedd gall cyflogwyr eithrio pobl drawsryweddol fel "gofyniad galwedigaethol gwirioneddol", a chaniateir i sefydliadau eithrio pobl drawsryweddol o wasanaethu un-rhyw neu wahan-rhyw fel "modd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon". Mae TCRh yn newid rhyw cyfreithiol rhywun "i bob pwrpas" ac ystyrid eithriad yn wahaniaethu ar sail rhyw fel y diffinnir gan Adran 14 y Ddeddf.

Nod Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 oedd diogelu preifatrwydd pobl drawsryweddol trwy ddiffinio gwybodaeth sy'n ymwneud â'r broses o gydnabod rhywedd yn wybodaeth gwarchodedig. Gall unrhyw un sy'n caffael y gwybodaeth hwnnw yn swyddogol fod yn torri'r gyfraith os ydynt yn ei ddatgelu heb ganiatâd y gwrthrych. Fodd bynnag, yn y saith mlynedd gyntaf o weithredu'r Ddeddf, roedd tystysgrifau geni a gymerid o'r Gofrestr Cydnabod Rhywedd yn wahaniaethadwy yn syth o dystysgrifau geni genedigol, gan taw dim ond naw colofn o wybodaeth oedd, gan adael yr eitem "Llofnod, disgrifiad a phreswylfa'r hysbysydd" sy'n dangos ar dystysgrifau geni allan. Hefyd, disodlid y gyfeireb "Ardystiwyd i fod yn gopi cywir o gofnod mewn Cofrestr Genedigaethau yn y Dosbarth a grybwyllwyd uchod", sy'n ymddangos ar dystysgrifau geni, â'r gyfeireb "Ardystiwyd i fod yn gopi cywir o gofnod a gedwir gan y Cofrestrydd Cyffredinol". Cywirwyd y materion gan Rheoliadau Cofrestr Cydnabod Rhywedd (Diwygio) 2011.

Mae Panel Cydnabod Rhywedd, tribiwnlys sy'n cynnwys arbenigwyr meddygol a chyfreithiol, yn ystyried tystiolaeth a gyflwynir iddo er mwyn asesu a fodlonir y meini prawf ar gyfer rhoi Tystysgrif Cydnabod Rhywedd.[4] Mae'n rhaid i'r dystiolaeth ddangos diagnosis iechyd meddwl o ddysfforia rhywedd a ddogfennwyd. Os yw'r person mewn priodas a gydnabyddir yn gyfreithiol, mae angen caniatâd ei briod er mwyn i dystysgrif gael ei roi, ac wedyn gellid rhoi tystysgrif priodas newydd;[5] os nad yw'r priod yn caniatáu, rhoddir Tystysgrif Cydnabod Rhywedd Dros Dro i'r person,[6] y gellir ei ddefnyddio fel sail dros ddiddymu'r priodas am gyfnod cyfyngedig, ond nid oes ganddo statws fel arall.[5]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Dyddiodd y cynsail blaenorol yn ôl i 1970, pan gafodd Arthur Cameron Corbett, 3ydd Barwn Rowallan ddiddymu ei briodas ar sail bod ei wraig, April Ashley, yn wryw yn gyfreithiol gan ei bod yn drawsryweddol. Derbyniwyd y ddadl hon gan y barnwr, ac roedd y prawf cyfreithiol ar gyfer rhyw yn y DU ers hynny yn seiliedig ar y dyfarniad yn Corbett v Corbett.

Dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop ar 11 Gorffennaf 2002, yn Goodwin & I v Teyrnas Unedig [2002] 2 FCR 577, fod anallu person traws i newid y rhyw ar ei dystysgrif geni yn torri ei hawliau dynol o dan Erthygl 8 ac Erthygl 12 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn dilyn y dyfarniad hwn, bu'n rhaid i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth newydd i gydymffurfio.

Proses Ddeddfwriaethol[golygu | golygu cod]

Cyflwynodd y bil i Dŷ'r Arglwyddi ar ddiwedd 2003. Fe'i basiwyd gan Dŷ'r Arglwyddi ar 10 Chwefror 2004, gyda 155 o bleidleisiau o blaid a 57 yn erbyn. Pasiodd Tŷ'r Cyffredin y bil ar 25 Mai. Cafodd Gydsyniad Brenhinol ar 1 Gorffennaf.

Wynebodd y bil feirniadaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan gynnwys gwelliant dinistriol gan Arglwydd Tebbit (a ddisgrifiodd lawdriniaeth ailbennu rhyw yn "anffurfio"), a chan Barwnes O'Cathain, a gyflwynodd welliant i ganiatáu i grwpiau crefyddol allgau pobl drawsryweddol. Fodd bynnag, trechwyd y gwelliant o drwch blewyn ar ôl gwrthwynebiad Peter Selby, Esgob Caerwrangon, a Michael Scott-Joynt, Esgob Caerwynt.

Rhannwyd cefnogaeth i'r bil yn Nhŷ'r Cyffredin yn fras yn ôl plaid. Ar yr ail a'r trydydd darlleniad (h.y. o flaen ac ar ôl gwelliannau), roedd pob pleidlais o aelodau'r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a Phlaid Genedlaethol yr Alban o blaid y bil; pob pleidlais o aelodau Plaid Unoliaethol Ulster a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd yn erbyn.[7][8] Rhannwyd ASau'r Blaid Geidwadol ar y fater, ac ni roddodd arweinyddiaeth y blaid chwip ar ei ASau i gymryd safiad penodol ar y bil, yn lle hynny, caniataodd bleidlais rydd.[9] Pleidleisiodd 25 o ASau Ceidwadol o blaid a 22 yn erbyn y bil ar ei ail ddarlleniad, a phleidleisiodd 20 o blaid a 39 yn erbyn y bil ar ei drydydd darlleniad. Llai na hanner o'r 166 o ASau'r Blaid Geidwadol a gymerodd ran yn y naill bleidlais neu'r llall.[9] Ymhlith y rheini a bleidleisiodd yn erbyn y bil oedd Ann Widdecombe (a'i wrthwynebodd ar seiliau crefyddol), Dominic Grieve, Peter Lilley ac Andrew Robathan. Ymhlith y ASau Ceidwadol a gefnogodd y bil oedd Kenneth Clarke, llefarydd ar Faterion Cyfansoddiadol Tim Boswell, a Llywydd dyfodol John Bercow.[10]

Diweddariadau[golygu | golygu cod]

Yn 2016, cyhoeddodd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau yn Nhŷ'r Cyffredin adolygiad o'r bôn i'r brig o'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, gan nodi ei diffygion a chan wneud argymhellion ar gyfer ei hadolygu. Ar yr un pryd, nododd ddiffygion tebyg yn Neddf Cydraddoldeb 2010 gan ei bod yn effeithio ar nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.[11]

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei hadolygiad o'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd â'r bwriad i'w diwygio "fel ei bod yn unol ag arfer gorau".[12] Cydnebydd Rhagair y Gweinidog i'r adolygiad fod Deddf 2004 yn "hen ffasiwn" ac yn gosod gofynion "mewnwthiol a beichus" ar y person sy'n gwneud y cais ar gyfer newid rhywedd. Mae'r Llywodraeth yn argymell cadw'r gofynion presennol i ymgeiswyr ddatgan eu bod yn "deall goblygiadau eu cais llawn ac yn bwriadu byw yn eu rhywedd caffaeledig am weddill eu hoes" ond yn cynnig dileu'r gofyniad i "ddarparu tystiolaeth feddygol ac i fod wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig am ddwy flynedd cyn ymgeisio."[13]

Yn 2017, ystyriodd Gweinidog Cydraddoldebau y DU Justine Greening diwygiadau i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i dad-feddygoli'r broses, ag egwyddor hunan-ddiffinio. Cadarnhaodd un o olynyddion Greening, Penny Mordaunt, y byddai'r ymgynghoriad ar y Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn dod o'r man cychwyn bod "menywod trawsryweddol yn fenywod".

Mewn adroddiad ym mis Mehefin 2020, dosbarthodd y Comisiwn Ewropeaidd weithdrefnau cyfreithiol y 28 aelod-wladwriaeth ar gyfer cydnabod rhywedd i mewn i bum categori yn seiliedig ar rwystrau i fynediad. Rhoddodd hyn Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn yr ail gategori o'r gwaelod â "gofynion meddygol mewnwthiol" sy'n llusgo ar ôl safonau hawliau dynol rhyngwladol.[14]

Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a ddangosodd gefnogaeth eang i bob agwedd o ddiwygio, gan gynnwys 64% o blaid dileu'r gofyniad ar gyfer diagnosis o ddysfforia rhywedd a 80% o blaid dileu'r gofyniad ar gyfer adroddiad meddygol.[15] Fodd bynnag, penderfynodd Llywodraeth y DU beidio â newid y cyfraith bresennol, a ddisgrifiwyd fel "cyfle wedi'i golli" gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.[16]

Pryderon ynghylch priodasau a phartneriaethau sifil[golygu | golygu cod]

Codwyd pryderon am y ddeddf gan gefnogwyr hawliau trawsryweddol, yn enwedig ynghylch priodasau a phartneriaethau sifil.[17][18] Oherwydd y cyfyngid priodas yng nghyfraith y DU i gyplau o'r rhyw arall ar y pryd a diffyg argaeledd partneriaethau sifil i gyplau o'r un rhyw, gofynnodd y ddeddf i bobl mewn priodas ysgaru neu ddirymu eu priodas er mwyn iddynt gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd. Dilëwyd y gofyniad hwn ym mis Rhagfyr 2014, naw mis ar ôl i Ddeddf Priodas (Cyplau o'r un Rhyw) 2013 ganiatáu priodasau o'r un rhyw.[19] Yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, mae angen cydsyniad ysgrifenedig gan y cymar ar gais o'r fath gan berson priod – y "feto priodasol" fel y'i gelwir. Ystyriodd rhai seneddwyr, megis Evan Harris, y gofyniad gwreiddiol yn annynol ac yn ddinistriol i'r teulu.[20] Dywedodd Hugh Bayley AS yn y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin, "Ni allaf feddwl am unrhyw amgylchiad arall y mae'r wladwriaeth yn dweud wrth gwpl sy'n briod ac sy'n dymuno aros yn briod bod rhaid iddynt gael ysgariad".[21][22] Er gwaethaf y gwrthwynebiad hwn, penderfynodd y Llywodraeth gadw'r gofyniad hwn yn y Bil. Dywedodd yr Is-ysgrifennydd Seneddol dros Faterion Cyfansoddiadol, David Lammy, gan siarad ar ran y Llywodraeth, "barn gadarn y Llywodraeth yw na allwn ganiatáu categori bach o briodasau o'r un rhyw".[23] Awgrymwyd yn y dadlau nad yw'r nifer o bobl drawsryweddol sydd wedi cael triniaeth ailbennu rhywedd ac sydd wrthi'n byw mewn priodas yn fwy na 200.[24]

Er bod Deddf Partneriaeth Sifil 2004 yn caniatáu creu partneriaethau sifil rhwng gyplau o'r un rhyw, cyn 2013, nid oedd cwpl priod a gynhwysai bartner trawsryweddol yn gallu ail-gofrestru eu statws newydd yn syml. Roedd rhaid iddynt ddiddymu eu priodas, cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'r rhywedd newydd ac wedyn cofrestru ar gyfer partneriaeth sifil. Roedd hyn fel unrhyw ysgariad gyda'r gwaith papur a'r costau cysylltiol. Unwaith y datganwyd y dirymiad yn derfynol a rhoi'r TCRh, gall y cwpl wneud trefniadau â'r cofrestrydd lleol i gael seremoni'r bartneriaeth sifil. Gorffennwyd y priodas a dod â threfniant hollol newydd i fodolaeth, na ddilynodd ym mhob amgylchiad (megis ewyllysiau) yn ddi-dor o reidrwydd. Roedd hyn hefyd yn wir am bartneriaethau sifil a gynhwysai bartner trawsryweddol: roedd rhaid diddymu'r bartneriaeth sifil bresennol ac wedyn gallai'r cwpl ymrwymo i briodas. Ar gyfer cwpl mewn priodas neu bartneriaeth sifil y mae'r ddau yn drawsryweddol, gallent gael eu ceisiadau cydnabod rhywedd wedi'u hystyried ar yr un pryd; fodd bynnag, roedd angen iddynt diddymu eu priodas/partneriaeth sifil bresennol ac wedyn ail-gofrestru eu priodas/partneriaeth sifil gyda'u rhyweddau newydd.

Dywedodd Tamara Wilding o'r garfan bwyso Cymdeithas Beaumont, "nid yw'n deg y byddai'n rhaid i bobl yn y sefyllfa hon ddirymu eu priodas ac wedyn ymrwymo i bartneriaeth sifil. Mae angen tacluso'r gyfraith. Byddai'n hawdd rhoi gwelliant yn y gyfraith bartneriaeth sifil i ganiatáu i bobl sydd wedi mynd trwy ailbennu rhywedd, ac sy'n dymuno i hynny gael ei gydnabod, i gael statws eu perthynas wedi'i pharhau."[25]

Nododd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr heriau i bobl drawsryweddol briod a'u partneriaid a gyflwynwyd gan Atodlen 2 o'r ddeddf ac mewn argymhelliad yn 2008 i'r Llywodraeth argymellasant: "Bod y Llywodraeth yn diwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i ganiatáu newid priodas i bartneriaeth sifil yn awtomatig pan yw un aelod y cwpl yn cael tystysgrif cydnabod rhywedd."[26]

Ôl-2013[golygu | golygu cod]

Cywirwyd y pryderon hyn rywfaint gan basio Deddf Priodas (Cyplau o'r un Rhyw) 2013, gan bod priodas erbyn hyn ar gael i cyplau o'r rhyw arall ac o'r un rhyw fel ei gilydd. O dan y gyfraith bresennol, pan yw cwpl priod yn cynnwys person trawsryweddol sy'n ymgeisio am dystysgrif cydnabod rhywedd, gall y priodas barhau os yw cymar y person trawsryweddol yn cydsynio i'r priodas barhau. Mae hyn wedi cael ei ddisgrifio, a'i wrthwynebu, gan ymgyrchwyr trawsryweddol fel "feto priodasol" ar eu trawsnewid cyfreithiol.[27] Yn 2019, cynhwysodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddileu'r "feto priodasol" fel rhan o'i maniffesto.[28] Cyflwynodd Barwnes Barker fil aelod preifat i ddiwygio'r gyfraith yn 2019, ond ni symudodd o'r ail ddarlleniad.[29][30]

Bil Diwygio yn yr Alban[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 2022, cyflwynwyd y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban) yn ffurfiol i Senedd yr Alban.[31] Pes deddfid, byddai'r bil wedi diwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a newid y broses ymgeisio ar gyfer TCRh. O dan y newidiadau, ni fyddai'n rhaid i ymgeiswyr brofi eu bod wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig am ddwy flynedd mwyach, ac ni fyddai'n rhaid iddynt gael diagnosis o ddysfforia rhywedd. Yn lle hynny, gofynnid iddynt wneud datganiad statudol y bwriadant aros yn barhaol yn eu rhywedd caffaeledig. Ar ben hynny, trafodid ceisiadau gan Gofrestrydd Cyffredinol yr Alban yn lle Panel Cydnabod Rhywedd y DU gyfan.[32] Mae Llywodraeth y DU wedi diystyru gweithredu newidiadau tebyg yng Nghymru a Lloegr.[33] Pasiodd y bil gan bleidlais o 86–39 yn Senedd yr Alban ar gyfnod tri ym mis Rhagfyr 2022. Ar 17 Ionawr 2023, defnyddiodd Llywodraeth y DU Adran 35 Deddf yr Alban 1998 i rwystro'r bil rhag cael ei gynnig ar gyfer Cydsyniad Brenhinol, y tro cyntaf mae Adran 35 wedi cael ei defnyddio.[34] Ar 12 Ebrill 2023, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth yr Alban, Shirley-Anne Somerville, y bwriad i lansio cais am adolygiad barnwrol am ddefnydd Llywodraeth y DU o Adran 35 yn erbyn y bil.[35][36]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Awdurdodir dyfynnu'r ddeddf gan y teitl byr hwn yn Saesneg (Gender Recognition Act 2004) gan adran 29 o'r deddf.
  2. HM Courts and Tribunals Service. "The General Guide for all Users Gender Recognition Act 2004" (PDF). assets.publishing.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Ionawr 2019.
  3. Gender Recognition Act 2004, Section 16, legislation.gov.uk, adalwyd 2 Mehefin 2021
  4. Example of a Gender Recognition Certificate Archifwyd 6 January 2009[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  5. 5.0 5.1 Greene, Hannah; Phillips, Nicole (29 Mai 2018). "The legal process for gender recognition". FamilyLaw (yn Saesneg). LexisNexis. Cyrchwyd 31 Mai 2018.
  6. Example of an Interim Gender Recognition Certificate Archifwyd 6 January 2009[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  7. "Gender Recognition Bill: House of Commons Second Reading". The Public Whip. My Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2011. Cyrchwyd 2 Chwefror 2010.
  8. "Gender Recognition Bill". The Public Whip. My Society. 30 Ebrill 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2011. Cyrchwyd 3 Chwefror 2010.
  9. 9.0 9.1 Cowley, Philip; Mark Stuart (19 Tachwedd 2004). "Mapping Conservative Divisions Under Michael Howard" (PDF). Revolts.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 6 Mehefin 2011. Cyrchwyd 3 Chwefror 2010.
  10. "Gender Recognition Bill: House of Commons Second Reading". Press For Change. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2009. Cyrchwyd 2 Chwefror 2010.
  11. Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau (2016). Transgender Equality: First Report of Session 2015–2016. Tŷ'r Cyffredin.
  12. "Review of the Gender Recognition Act 2004 (9 Nov 2017)". Scottish Government (Riaghaltas na h-Alba). Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.
  13. "Ministerial Foreword to the Review of the Gender Recognition Act 2004 (4 Tachwedd 2017)". Scottish Government (Riaghaltas na h-Alba) (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.
  14. "Legal gender recognition in the EU: the journeys of trans people towards full equality". European Commission – European Commission (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-09.
  15. "Analysis of the responses to the Gender Recognition Act (2004) consultation". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-09.
  16. "EHRC statement on Gender Recognition Act". Politics Home (yn Saesneg). 2020-09-22. Cyrchwyd 2020-10-09.
  17. Burns, Christine. "Till Political Convenience Do Us Part". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-08. Cyrchwyd 2023-07-18.
  18. Tatchell, Peter (2013-07-19). "Why our new same-sex marriage is not yet equal marriage". New Statesman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-15.
  19. Mason, Rowena (26 Mehefin 2014). "Civil partnerships can be converted to marriages from December". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Tachwedd 2020.
  20. Evan Harris (9 Mawrth 2004). "Gender Recognition Bill [Lords]". United Kingdom: House of Commons Standing Committee A. col. 60. Adalwyd 26 Chwefror 2021.
  21. Hugh Bayley (23 Chwefror 2004). "Gender Recognition Bill (2nd reading)". House of Commons. col. 60.
  22. Andrew Selous (23 Chwefror 2004). "Gender Recognition Bill (2nd reading)". United Kingdom: House of Commons. col. 64.
  23. David Lammy (9 Mawrth 2004). United Kingdom: House of Commons Standing Committee A. col. 69.
  24. Mark Oaten (23 Chwefror 2004). "Gender Recognition Bill (2nd reading)". United Kingdom: House of Commons. col. 69.
  25. "Transgender husband annuls marriage and enters into civil partnership". Evening Standard (yn Saesneg). 2008-05-01. Cyrchwyd 2020-06-15.
  26. Submission on the United Kingdom's sixth periodic report under the International Covenant on Civil and Political Rights. Equality and Human Rights Commission. Archifwyd 2 October 2008[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  27. Belcher, Helen (2014-04-04). "We won't have truly equal marriage until we get rid of the spousal veto". New Statesman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-15.
  28. Rea, Ailbhe (2019-09-14). "Liberal Democrats decide to remove the controversial trans 'spousal veto'". New Statesman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-15.
  29. Barker, Liz (2020-02-25). "It's time to abolish the 'spousal veto' over gender recognition for married trans people". Politics Home (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-15.
  30. "Gender Recognition Act 2004 (Amendment) Bill [HL]". Senedd y DU. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2023.
  31. "Gender Recognition Reform (Scotland) Bill". www.parliament.scot (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-05.
  32. "Gender recognition reform bill tabled at Holyrood". BBC News (yn Saesneg). 2022-03-03. Cyrchwyd 2022-03-05.
  33. "UK government drops gender self-identification plan for trans people". The Guardian (yn Saesneg). 2020-09-22. Cyrchwyd 2022-03-05.
  34. Walker, Peter (17 Ionawr 2023). "UK government formally blocks Scotland's gender recognition law". The Guardian. Cyrchwyd 17 Ionawr 2023.
  35. "Block on Scottish gender reforms to be challenged in court 12 April 2023". bbc.co.uk (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 12 Ebrill 2023.
  36. "BGender reform bill: Scottish and UK governments to enter legal battle". News.sky.com. Sky News. Cyrchwyd 12 Ebrill 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]