Deddf Priodas (Cyplau o'r un rhyw) 2013

Oddi ar Wicipedia

Deddf Seneddol a gyfreithlonodd priodas gyfunryw yn y Deyrnas Unedig ydy Deddf Priodas (Cyplau o'r un rhyw 2013.[1]

Crynodeb o'r Ddeddf[golygu | golygu cod]

Provision(s) Effect Status
Adran 1
  • Yn gwneud priodas rhwng cyplau o'r un rhyw yn gyfreithlon.
  • Yn cadw Deddf Canon Eglwys Lloegr sy'n datgan fod priodas rhwng cyplau o ryw gwahanol yn unig.
  • Yn datgan nad yw dyletswydd arfer gwlad clerigwyr i weinyddu priodasau yn ymestyn i gynnal priodasau cyfunryw.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 2
  • Yn darparu amddifyniadau ar gyfer unigolion a sefydliadau crefyddol sy'n dewis peidio "optio i mewn" i weinyddu priodasau cyfunryw rhag unrhyw atebolrwydd yn cynnwys gan addasu Deddf Cydraddoldeb 2010.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 3
  • Yn diwygio Deddf Priodas 1949 er mwyn diweddaru'r rhestr o briodasau y gellir eu gweinyddu heb yr angen i "optio i mewn":
    • priodasau crefyddol ar gyfer cyplau o ryw gwahanol mewn adeiladau cofrestredig yn unig;
    • priodasau sifil ar gyfer pob cwpwl mewn swyddfa gofrestru;
    • priodasau sifil ar gyfer pob cwpwl mewn lleoliadau awdurdodedig e.e. mewn gwesty;
    • priodasau crefyddol ar gyfer cyplau o ryw gwahanol gan y Crynwyr neu'r grefydd Iddewig;
    • priodasau crefyddol ar gyfer cyplau o ryw gwahanol, lle mae un ohonynt yn methu gadael y cartref neu'n gaeth;
    • priodasau sifil ar gyfer pob cwpwl, lle mae un ohonynt yn methu gadael eu cartref neu'n gaeth;
    • priodasau ar gyfer cyplau o ryw gwahanol mewn eglwys neu gapel Eglwys Lloegr neu Eglwys Cymru.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 4 ac Atodlen 1.
  • Yn gosod y gyfundrefn lle gall sefydliadau crefyddol (ac eithrio Eglwys Lloegr, Eglwys Cymru, y Crynwyr a'r grefydd Iddewig) "optio i mewn" er mwyn gweinyddu priodasau cyfunryw mewn adeiladau crefyddol.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 5
  • Yn gosod y gyfundrefn lle gall y Crynwyr a'r grefydd Iddewig "optio i mewn" i weinyddu priodasau cyfunryw.
  • Yn gosod y gyfundrefn lle gall sefydliadau crefyddol (ac eithrio Eglwys Lloegr ac Eglwys Cymru) weinyddu priodasau cyfunryw lle mae un neu ddau o'r cwpwl o'r un rhyw yn methu gadael eu cartref neu'n gaeth.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 6
  • Yn gosod y gyfundrefn lle mae priodasau cyfunryw yn medru cael eu gweinyddu mewn capeli'r llynges, y fyddin a'r awyrlu (ac eithrio priodasau yn unol ag Eglwys Lloegr neu Eglwys Cymru).
Yn gwbl weithredol (ers 3 Mehefin 2014).
Adran 7
  • Yn diwygio Deddf Priodas (Trwydded y Cofrestrydd Cyffredinol) 1970 fel bod y Cofrestrydd Cyffredinol yn medru caniatáu seremoni priodasol crefyddol ar gyfer cyplau o'r un rhyw os yw'r awdurdod llywodraethol perthnasol wedi caniatau i briodasau cyplau o'r un rhyw. Caniateir i'r Cofrestrydd ganiatau priodasau lle mae un o'r cwpwl yn ddifrifol wael, yn annhebygol o wella ac yn methu cael ei symud.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 8
  • Yn gosod y gyfundrefn lle gall Eglwys Cymru "optio i mewn" i weinyddu priodasau ar gyfer cyplau o'r un rhyw. Byddai'n rhaid i'r Arglwydd Ganghellor fod yn hapus fod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn gytun i newid y gyfraith yng Nghymru er mwyn caniatáu priodasau cyplau o'r un rhyw yn unol a defodau'r Eglwys yng Nghymru. Rhaid iddo wneud gorchymyn yn caniatau i'r Eglwys yng Nghymru i berfformio priodasau o'r un rhyw.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 9
  • Yn gosod y gyfundrefn lle mae cyplau mewn partneriaethau sifil yn gallu trosi eu partneriaeth sifil yn briodas.
Yn gwbl weithredol (ers 10 Rhagfyr 2014).
Adran 10 ac Atodlen 2
  • Yn nodi fod priodasau cyplau o'r un rhyw a gynhaliwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn cael eu cydnabod yng Nghymru a Lloegr.
  • Yn nodi fod priodasau cyplau o'r un rhyw yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cydnabod fel partneriaethau sifil yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014).
Adran 11 ac Atodlenni 3 a 4
  • Yn nodi, fel rheol gyfredinol, fod gan briodas yr un effaith o ran cyplau o'r un rhyw ag sydd ganddo ar gyfer cyplau o ryw gwahanol o dan gyfreithiau Lloegr.
  • Yn gosod sut y dylid dehongli cyfreithiau Lloegr er mwyn sicrhau fod priodasau cyplau o'r un rhyw yn cael eu trin yn yr un modd a phriodasau cyplau o ryw gwahanol.
  • Yn gosod eithriadau penodol i'r rheol gyffredinol.

Mae Adran 11 ac Atodlen 3 yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth 2014). Mae Atodlen 4 bron yn gwbl weithredol (ers 13 Mawrth a 10 Rhagfyr 2014) gydag un eithriad.

Adran 12 ac Atodlen 5
  • I ddiwygio Deddf Cydnabod Rhyw 2004 er mwyn galluogi priodasau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru a Lloegr neu du allan i'r Deyrnas Unedig i barhau pan fo un neu ddau o gwpwl yn newid eu rhyw ac mae'r ddau berson eisiau aros yn briod. Mae hefyd yn diwygio'r Ddeddf er mwyn galluogi patneriaeth sifil i barhau pan fo'r ddau berson yn newid eu rhyw ar yr un pryd ac yn dymuno cadw eu partneriaeth sifil.
Yn gwbl weithredol (ers 10 Rhagfyr 2014).
Adran 13 ac Atodlen 6
  • Yn diddymu Deddf Priodasau Tramor 1892 yn Lloegr, Cymru a'r Alban.
  • Yn caniatáu creu deddfwriaeth eilradd yn galluogi priodasau i ddigwydd mewn swyddfeydd consyliaid dramor.
  • Yn caniatáu creu deddfwriaeth eilradd sy'n galluogi tystysgrifau dim rhwystr i briodi i gael eu cyflwyno lle mae unigolyn o'r Deyrnas Unedig yn dymuno priodi dramor yn unol a chyfreithiau lleol y wlad neu'r diriogaeth honno.
  • Yn caniatáu creu deddfwriaeth eilradd sy'n galluogi aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu dramor, a sifiliaid sydd gyda hwy, i briodi ym mhresenoldeb caplan neu swyddog awdurdodedig arall.
Yn gwbl weithredol (ers 3 Mehefin 2014).
Adran 14
  • Yn ei wneud yn ofynnol i'r llywodraeth drefnu adolygiad o a ddylid gwneud deddwfriaeth eilradd a fyddai'n caniatáu i fudiadau sy'n seilieidg ar gred (e.e. dyneiddwyr) i weinyddu priodasau ac i adrodd yn ol ar ganlyniad adroddiad a gynhyrchwyd ac a gyhoeddwyd cyn 1 Ionawr 2015.
Yn gwbl weithredol (ers 31 Hydref 2013).
Adran 15
  • Yn ei wneud yn ofynnol i'r llywodraeth adolygu gweinyddiad a dyfodol Deddf Partneriaeth Sifil 2004 yng Nghymru a Lloegr, ac i adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad gael ei gynhyrchu a'i gyhoeddi.
Yn gwbl weithredol (ers 17 Gorffennaf 2013).
Adran 16
  • Yn ei wneud yn ofynnol i'r llywodraeth drefnu adolygiad o rai materion yn ymwneud â chynlluniau pensiwn galwedigaethol, ac i'r adroddiad ar ganlyniadau'r adolygiad i gael ei gynhyrchu a'i gyhoeddi cyn 1 Gorffennaf 2014. Yn dilyn yr adolygiad, gall y llywodraeth wneud deddfwriaeth eilradd gyda'r nod o waredu neu leihau gwahaniaethau perthnasol i fudd-daliadau goroeswyr.
Yn gwbl weithredol (ers 17 Gorffennaf 2013).
Adran 17 ac Atodlen 7
  • Yn gwneud amrywiaeth o ddarpariaethau trosiannol ac ol-ddilynnol.
  • Yn caniatáu'r ddeddfwriaeth eilradd sydd ei angen er mwyn sicrhau y trawsnewidiad effeithiol o briodas sydd ar gael ar gyfer cyplau o ryw gwahanol yn unig i fod yn briodas sydd ar gael ar gyfer pob cwpwl.
  • Yn ymdrin a'r trefniadau trosiannol yng nghyd-destun "lleoliadau awdurdodedig", e.e. lleoliadau (megis gwestai) sydd wedi'u cymeradwyo gan awdurdodau lleol fel lleoliadau ar gyfer priodasau sifil, a phartneriaethau sifil, ac unrhyw leoliad sydd yn y broses o wneud cais i gael eu cymeradwyo, neu wedi'i cymeradwyo eisoes fel lleoliad ar gyfer priodasau ar gyfer cyplau o ryw gwahanol i gael eu cymeradwyo'n awtomatig ar gyfer priodasau cyplau o'r un rhyw. Bydd unrhyw geisiau yn y dyfodol i gael lleoliad wedi'i gymeradwyo yr un peth ar gyfer priodas sifil cyplau o ryw gwahanol a chyplau o'r un rhyw.
  • Yn gwneud diwygiadau i nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth o ganlyniad i gyflwyno priodas cyfunryw, yn benodol Deddf Priodas 1949, Deddf Priodas (Trwydded y Cofrestrydd Cyffredinol) 1970, Deddf Achosion Priodasol 1973, Deddf Trefn Gyhoeddus 1986, Deddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol a Budd-daliadau 1992, Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993, Deddf Partneriaethau Sifil 2004, Deddf Emryoleg a Ffrwythloni Dynol 2008, a Deddf Gydraddoldeb 2010.
Yn gwbl weithredol (ers 17 Gorffennaf 2013) gydag ambell eithriad.
Adran 18
  • Yn gosod y gwahanol weithdrefnau lle gellir defnyddio deddfwriaeth eilradd gyda'r gwahanol bwerau er mwyn cynnwys y ddeddfwriaeth eilradd yn y ddeddf.
Yn gwbl weithredol (ers 31 Hydref 2013).
Adran 19
  • Yn diffinio'r amryw ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf.
Yn gwbl weithredol (ers 31 Hydref 2013).
Adran 20
  • Yn gosod graddau tiriogaethol y Ddeddf: Lloegr a Chymru, gyda rhai elfennau'n berthnasol i'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn gwbl weithredol (ers 31 Hydref 2013).
Adran 21
  • Yn gosod teitl byr y Ddeddf: Deddf Priodas (Cyplau o'r un rhyw) 2013.
  • Yn cyflawni adrannau 15, 16 ac 21 ar y dyddiad ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf (17 Gorffennaf 2013) gyda'r gweddill pan fydd yr Arglwydd Ganghellor neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu.
Yn gwbl weithredol (ers 17 Gorffennaf 2013).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Marriage (Same Sex Couples) Bill. Ty'r Cyffredin (25 Ionawr 2013).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]