David Owen (telynor)
David Owen | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ionawr 1712 ![]() Ynyscynhaearn ![]() |
Bu farw | Awst 1741 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyfansoddwr ![]() |
Roedd David Owen (1710–1739 neu efallai 1720–1749)[1] neu Dafydd y Garreg Wen, y telynor enwog, yn byw ar fferm Y Garreg Wen ym mhlwyf Ynyscynhaearn ger Morfa Bychan, Porthmadog yn y 18g.
Cyfansoddodd Dafydd yr alawon "Dafydd y Garreg Wen", "Codiad yr Ehedydd" a "Rosalin Castle". Defnyddir "Codiad yr Ehedydd" bellach yn ymdeithgan gyflym gan y Gwarchodlu Cymreig. Bu farw'n 29 oed, a gofalodd Elis Owen, Cefnymeysydd, fod carreg fedd teilwng yn cael ei ei godi, a gweithiodd yr englyn canlynol ar y garreg:
- 'Swynai'r fron, gwnai'r llon y llu - a'i ganiad
- Oedd ogoniant Cymru,
- Dyma lle cadd ei gladdu
- Heb ail o'i fath, Jubal fu.'
Bedd[golygu | golygu cod]
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, yr Academi Gymreig; Gwasg Prifsygol Cymru; argraffwyd 2008