David Hilbert
| David Hilbert | |
|---|---|
| Ganwyd | 23 Ionawr 1862 Znamensk, Kaliningrad |
| Bu farw | 14 Chwefror 1943 Göttingen |
| Man preswyl | Yr Almaen |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd |
| Addysg | doethuriaeth |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | mathemategydd, academydd, athronydd, ffisegydd, rhesymegwr, philosopher of mathematics |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Geometry and the Imagination, Hilbert's basis theorem |
| Prif ddylanwad | Immanuel Kant |
| Tad | Otto Hilbert |
| Priod | Käthe Hilbert |
| Plant | Franz Hilbert |
| Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Poncelet, Medal Cothenius, Gwobr Bolyai, Lobachevsky Prize, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth |
Mathemategydd o'r Almaen oedd David Hilbert (Almaeneg: [ˈdaːvɪt ˈhɪlbɐt]; 23 Ionawr 1862 – 14 Chwefror 1943). Caiff ei gyfri'n fyd-eang fel un o fathemategwyr mwyaf dylanwadol y 19g a chychwyn yr 20g. Datganfu nifer fawr o syniadau gan gynnwys 'y theori sefydlog' (invariant theori), 'gwirionedd geometreg Hilbert' a 'gofod Hilberg' (Hilbert spaces).[1]
Mabwysiadodd ac amddiffynnodd theoriau Georg Cantor a rhifau trawsfeidraidd. Cyflwynodd yn 1900 gasgliad o broblemau a dderbyniwyd bron fel agenda fathemategol gweddill y ganrif, ac sy'n brawf o'i arweinyddiaeth di-ildio yn y maes hwn.
Cyfranodd ef a'i fyfyrwyr yn eang ac yn sylweddol iawn, gan ddatblygu offer newydd a phwysig o fewn mathemateg ffiseg modern. Ef oedd y cyntaf i wahaniaethu rhwng mathemateg a metamathemateg.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "David Hilbert". Encyclopædia Britannica. 2007. Cyrchwyd 2007-09-08.
- ↑ Zach, Richard (2003-07-31). "Hilbert's Program". Stanford Encyclopedia of Philosophy. Cyrchwyd 2009-03-23. Italic or bold markup not allowed in:
|work=(help)