David Bevan Jones (Dewi Elfed)

Oddi ar Wicipedia
David Bevan Jones
Ganwyd1807 Edit this on Wikidata
Llandysul Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1863 Edit this on Wikidata
Logan, Utah Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd David Bevan Jones (Dewi Elfed) (1807) –18 Gorffennaf, 1863) yn fardd, emynydd ac yn weinidog Cymreig yn gyntaf gyda'r Bedyddwyr ac yna gyda'r Mormoniaid.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dewi Elfed yn Gellifaharen, Llandysul, Ceredigion yn blentyn i John a Hannah Jones. Does dim cofnod o union ddyddiad ei eni ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Dewi Sant, Llandysul ar 30 Gorffennaf 1807 [2] mewn cyfnod pan oedd tuedd i fedyddio plentyn o fewn dyddiau i'w geni.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Er ei fod wedi ei fedyddio yn Eglwys Loegr ymunodd Dewi Elfed a'i deulu ag enwad y Bedyddwyr yng Nghapel Pen-y-bont Llanfihangel-ar-arth gan dderbyn bedydd oedolyn tua 1822. Ym 1833, fodd bynnag, digwyddodd rhaniad yng nghynulleidfa Pen-y-bont a arweiniodd at sefydlu achos ar wahân yn Ebeneser, Llandysul. Mae'n ymddangos bod teulu Dewi Elfed ymhlith y rhai a symudodd i Ebeneser. Fel aelod o gapel Ebeneser ddechreuodd bregethu. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog ar gapeli Crugmaen a'r Cwrtnewydd ar 18 Mehefin, 1841.[3] Ym 1846 derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapel Jerwsalem, Rhymni.[4]

Wedi dwy flynedd yn y Rhymni symudodd Dewi Elfed i fugeilio Capel Gwawr, Aberaman. Roedd Capel Gwawr yn un o'r nifer o gapeli a agorwyd gan Thomas Price (Calfaria, Aberdâr) wrth i gynulleidfaoedd y Bedyddwyr tyfu'n aruthrol gyda dyfodiad mewnfudwyr i Gwm Dâr yn sgil twf y fasnach glo. Erbyn cyrraedd Aberaman roedd Dewi Elfed wedi dod o dan ddylanwad Mormoniaeth. Ar 27 Ebrill 1851 cafodd Dewi ei fedyddio yn aelod o'r Mormoniaid yn Afon Cynon a cheisiodd troi Capel y Wawr yn gapel Mormonaidd. Aeth y Bedyddwyr i gyfraith i gael yr adeilad yn ôl. Ym mis Tachwedd 1851, arweiniodd Price orymdaith o Fedyddwyr i Aberaman i adennill yr adeilad. Ar ôl iddynt gyrraedd Gwawr, daeth yn amlwg bod Dewi Elfed wedi cloi ei hun y tu mewn i'r capel, ynghyd ag un o'i gefnogwyr. Dywedodd swyddog llys nad oedd ganddo'r awdurdod i gael mynediad trwy orfodi'r drws. Ond fe lwyddodd Price i gael mynediad i'r adeilad ynghyd ag un o'i diaconiaid. Bu Price yn ymlid Dewi Elfed o amgylch feinciau ac orielau'r capel mewn modd “gwyllt a chyffroes” hyd ei ddal a'i droi allan o'r capel.[5]

Wedi ei droi allan o'r capel ac enwad y Bedyddwyr dechreuodd Dewi Elfed gweithio fel cenhadwr i'r Mormoniaid ym Morgannwg a Gwent a fei a benodwyd yn drysorydd cenhadaeth y sect. 1853 penodwyd Dewi Elfed yn llywydd Cynhadledd Mormoniaid Llanelli, cynhadledd Llanelli oedd y bedwaredd fwyaf yng Nghymru ar y pryd [6] Penodwyd Aneurin Jones, ei fab, yn ysgrifennydd cynhadledd Llanelli. Ym 1854, wedi i'r Capten Dan Jones, Mormon amlygaf Cymru, symud pencadlys y sect o Ferthyr i Abertawe penodwyd Dewi Emlyn yn llywydd cynhadledd Abertawe.[7] Yn Abertawe sefydlodd eisteddfod Formonaidd, lle'r oedd testunau'r holl gystadlaethau yn ymwneud â llwyddiant gwaith y sect ym Morgannwg. Daeth ei lywyddiaeth i ben ym mis Gorffennaf, 1855 pan gafodd ei gyhuddo'n gyhoeddus a’i ysgymuno am gamymddwyn ariannol.[6] Cyn pen blwyddyn cafodd ei adfer yn aelod o Eglwys y Mormoniaid; er na ddaliodd swydd ffurfiol eto yn ei lywodraeth na'i weinyddiaeth, ond parhaodd i bregethu ac i genhadu ym Morgannwg.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Yn ôl llyfryn John Davies Llenorion a Llenyddiaeth Ceredigion cyhoeddwyd tair gwaith gan Dewi Elfed:

  • Eos Dyssul (1838)
  • Can Newydd yn dangos Niweidiau Meddwdod ynghyd a'r budd a'r Lles sydd o lwyrymwrthod a hwynt
  • Serch Gerdd a gyfansoddwyd ar daer Dymuniad y sawl y perthynai iddynt ac un neillduawl y Claf o gariad

Dim ond yr olaf sydd dal ar gael.[6] Cafodd nifer o gerddi ac emynau Dewi Emlyn eu cyhoeddi yn Yr Haul a Seren Gomer yn ystod ei gyfnod fel Bedyddiwr ac wedyn yn Udgorn Seion wedi iddo droi at y Mormoniaid.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae cyfrifiad 1851 yn dweud bod Dewi yn briod a gwraig o'r enw Ann a bod ganddynt bump o blant tair merch a ddau fab.[8] Ym 1860 ymfudodd Dewi ei wraig a'i fab a merch ieuengaf i'r America.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o'r diciâu yn Logan, Cache County, Utah Territory yn 54 mlwydd.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Davies, D. L., (1997). JONES, DAVID BEVAN (‘Dewi Elfed’ 1807 - 1863), gweinidog (B ac Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf — Mormoniaid). Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 23 Ion 2020
  2. Bedydd David Jones ar wefan Family Search Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf adalwyd 23 Ionawr 2020
  3. Seren Gomer Cyf. XXIV - Rhif. 311 - Awst 1841 Urddiad adalwyd 23 Ionawr 2020
  4. Seren Gomer Cyf. XXIX - Rhif. 374 - Tachwedd 1846 Symudiad Gweinidogion adalwyd 23 Ionawr 2020
  5. Evans, Benjamin; Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price; Aberdâr 1891; tud:109-111 adalwyd 23 Ionawr 2020
  6. 6.0 6.1 6.2 Prifysgol Brigham Young - Welsh Mormon History[dolen marw] adalwyd 23 Ionawr 2020
  7. Udgorn Seion Cyf. VII rhif. 28 - Gorffennaf 29 1854 adalwyd 23 Ionawr 2020
  8. Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad Aberdâr 1851 HO107/ 2460; Ffolio: 293; Tudalen: 38
  9. "Geni, Marw, Priodi - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-08-28. Cyrchwyd 2020-01-23.