Udgorn Seion

Oddi ar Wicipedia
Udgorn Seion
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1849 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1849 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Roedd Udgorn Seion[1] yn gylchgrawn crefyddol Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu Eglwys Iesu Grist Sant y Dyddiau Diwethaf. Roedd y cylchgrawn yn bennaf yn cynnwys erthyglau crefyddol a oedd yn amddiffyn credoau'r Mormoniaid, erthyglau yn annog ymfudo i Salt Lake City ac adroddiadau ar weithgareddau'r Mormoniaid yng Nghymru. Cyhoeddwyd y cylchgrawn rhwng 1849 a 1861, a rhai o'r golygyddion oedd John Davis, y cenhadwr Mormonaidd Daniel Jones[2] (1811-1861), George Quayle Cannon (1827-1901) a William Ajax (1832-1899).

Roedd y cylchgrawn Prophwyd y Jubili a gyhoeddwyd rhwng y blynyddoedd 1846 a 1848 yn ragflaenydd i Udgorn Seion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Udgorn Seion ar wefan Cylchgronau Cymru". Cyrchwyd 26 Medi 2017.
  2. "Daniel Jones (1811-1861) yn y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Medi 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.