Daniel Scott

Oddi ar Wicipedia
Daniel Scott
Ganwyd20 g Edit this on Wikidata
Bu farwMai 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actor Awstralaidd oedd Daniel Scott (bu farw Mai 2014) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei berfformiad yn y cynhyrchiad llwyfan o Priscilla Queen of the Desert - the Musical.

Cafodd ei eni a'i fagu ym maesdrefi gorllewin Sydney ac erbyn ei fod yn 14 oed, roedd y bianydd medrus ac wedi ymddangos mewn cynyrchiadau niferus, gan gynnwys Oliver!, The Wizard of Oz, The Sound of Music, You're A Good Man Charlie Brown, Dick Whittington and His Cat a Desperado.[1]

Astudiodd yng Ngholeg McDonald y Celfyddydau Creadigol a Theatr Ieuenctid Awstralia. Derbyniodd le hefyd yn y Theatr Gerddorol Americanaidd yn San Francisco. Enillodd amryw ysgoloriaethau wrth bobl fel Syr Cameron Mackintosh a Nicole Kidman mewn cydweithrediad â ATYP a LendLease Australia.

Cyn iddo ddechrau gyda Priscilla, cawsai ei andabod yn bennaf o "Dusty: The Original Pop Diva" a oedd yn seiliedig ar fywyd Dusty Springfield, lle crëodd cymeriadau'r "Eidalwr gwallgof" San Remo yn ogystal â Neil Tennant, Al Saxon ac Eden Kane. Yng nghynhyrchiad Adelaide o Shout! – The Musical, chwaraeodd rhan Johnny O'Keefe. Bu ar daith gyda'r Really Useful Group yn 2003–4 gyda thaith cynhyrchiad De Corea o Cats lle chwaraeodd rôl Rum Tum Tugger, rôl y dychwelodd iddo yn Athen yn 2005.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Proffil o Scott Archifwyd 2009-08-26 yn y Peiriant Wayback. National Institute of Dramatic Art. Adalwyd 20-06-2009