Dusty Springfield

Oddi ar Wicipedia
Dusty Springfield
FfugenwDusty Springfield Edit this on Wikidata
GanwydMary Isobel Catherine Bernadette O'Brien Edit this on Wikidata
16 Ebrill 1939 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mawrth 1999 Edit this on Wikidata
Henley-on-Thames Edit this on Wikidata
Label recordioUnited Artists Records, Atlantic Records, ABC Records, Philips Records, Mercury Records, Phonogram Records, Parlophone Records, 20th Century Fox Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cerddor, artist recordio, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth yr enaid, rhythm a blŵs, cerddoriaeth boblogaidd, blue-eyed soul Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
TadGerard Anthony Joseph O'Brien Edit this on Wikidata
MamKay Ryle Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://dustyspringfieldofficial.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Mary Isabel Catherine Bernadette O'Brien OBE (16 Ebrill 19392 Mawrth 1999), a oedd yn cael ei hadnabod yn broffesiynol fel Dusty Springfield yn gantores bop o Loegr. O'r holl gantorion benywaidd a lwyddodd yn siartiau'r Unol Daleithiau, Springfield gafodd y dylanwad fwyaf ar y farchnad Americanaidd. Rhwng 1963 a 1970, llwyddodd 18 o'i senglau i gyrraedd y Billboard Hot 100. Cafodd ei phleidleisio'n Artist Benywaidd Prydeinig Gorau gan ddarllenwyr NME ym 1964, 1965 a 1968. Hefyd cafodd ei henwi ymysg y 25 perfformwraig roc benywaidd gorau erioed gan ddarllenwyr cylchgrawn Mojo, golygyddion cylchgrawn Q (2002) a chan banel o artistiaid ar y sianel deledu VH1 (2007).

Fel ffan o gerddoriaeth soul Americanaidd, crëodd Dusty Springfield sain soul unigryw. Disgrifiwyd ei llais unigryw gan Burt Bacharach fel: "...three notes and you knew it was Dusty." Atgyfnerthwyd ei delwedd gan ei gwallt peroxide ar siap y 'beehive', ei cholur llygaid trwchus a'i ffrogiau min nos. Arweiniodd y ffaith nad oedd Springfield erioed mewn perthynas yn gyhoeddus at bobl yn cwestiynu ei rhywioldeb trwy gydol ei bywyd.