Priscilla Queen of the Desert - the Musical

Oddi ar Wicipedia

Am y ffilm o'r un enw, gweler The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert (ffilm 1994)

Priscilla Queen of the Desert - the Musical
200
Clawr yr albwm o'r cast yn perfformio
Cerddoriaeth Amrywiol
Geiriau Amrywiol
Llyfr Stephan Elliott ac Allan Scott
Seiliedig ar Ffilm 1994 The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert
Cynhyrchiad 2006 Sydney
2007 Melbourne
2008 Auckland
2008 Dychwelyd i Sydney
2009 West End Llundain

Sioe gerdd yw Priscilla: Queen of the Desert the Musical, ar sail ffilm 1994 gan y sgriptiwr a'r cyfarwyddwr ffilm Awstralaidd Stephan Elliott, The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert. Addaswyd gan Elliott ac Allan Scott, gan ddefnyddio caneuon pop poblogaidd fel y sgôr.

Hanes y cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Agorodd "Priscilla Queen of the Desert: The Musical" ar 7 Hydref 2006 yn Theatr y Lyric, Casino Star City, Sydney, Awstralia a rheodd tan 2 Medi 2007. Cyfarwyddwyd y sioe gan y cyfarwyddwr creadigol Simon Phillips a serennodd Tony Sheldon, Jeremy Stanford a Daniel Scott gyda Michael Caton. Dychwelodd y sioe i Westy a Chasino Star City, Sydney ar 7 Hydref 2008 gan gau ar 21 Ragfyr 2008. Roedd y sioe yn serennu aelodau o'r cast gwreiddiol fel Sheldon a Scott, yn ogystal ag aelodau newydd fel Todd McKenney fel Tick a Bill Hunter fel Bob.

Cynhyrchiadau eraill[golygu | golygu cod]

Awstralia 2007-08[golygu | golygu cod]

Symudwyd y cynhyrchiad o Sydney i Theatr y Regent ym Melbourne, gyda'r noson agoriadol i'r cyhoedd ar y 6ed o Hydref, 2007. Daeth y cynhyrchiad i ben ar 27 Ebrill 2008 er mwyn galluogi'r cynhyrchiad Awstralaidd o'r sioe gerdd Wicked i gymryd ei lle. Yna symudwyd y cynhyrchiad i Auckland, Seland Newydd am gyfnod cyfyngedig, lle agorodd ar 27 Mai 2008 a daeth i ben ar 6 Gorffennaf 2008.

Llundain 2009[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y cynhyrchiad yn West End Llundain ar 10 Mawrth 2009 yn Theatr y Palas. Cynhyrchwyd y sioe ar y cyd â chriw Really Useful Group Andrew Lloyd Webber. Cyfarwyddwyd y sioe gan Simon Phillips gyda'r drefniadaeth gerddorol gan Stephen 'Spud' Murphy a'r coreograffeg gan Ross Coleman. Mae'r cast yn cynnwys Jason Donovan fel "Tick", Tony Sheldon fel Bernadette ac Oliver Thornton fel Adam Whiteley/Felicia.

Cynhyrchiadau arfaethedig eraill[golygu | golygu cod]

Bwriedir cynnal cynyrchiadau yn Toronto yn nhymor yr Hydref 2009 yn theatr David Mirvish, yn yr Almaen (hefyd yn 2009 ac yn Sweden (yn yr iaith Swedaidd) ar ddechrau 2010.

Cast[golygu | golygu cod]

Cast gwreiddiol
  • Tick (Mitzi) - Jeremy Stanford
  • Bernadette - Tony Sheldon
  • Adam (Felicia) - Daniel Scott
  • Marion - Marney McQueen
  • Bob - Michael Caton
  • Shirley - Genevieve Lemon
  • Cynthia - Lena Cruz
  • Miss Understanding - Trevor Ashley
  • Jimmy - Kirk Page
  • Frank - Ben Lewis
  • Bernadette ifanc - Damien Ross
  • Y Divas -Danielle Barnes, Sophie Carter, Amelia Cormack
  • Benjamin -Joshua Arkey, Alec Epsimos, Rowan Scott, Joel Slater
Newidiadau nodedig

Caneuon Gwreiddiol[golygu | golygu cod]

Act Un[golygu | golygu cod]

Rhif yr olygfa Cân Perfformiwr(wyr) Lleoliad
- Overture Y Band -
1 Downtown Y Divas a'r Cwmni Sydney
2 I've Never Been to Me Tick a'r Divas Sydney
2 What's Love Got To Do With It Miss Understanding Sydney
3 Don't Leave Me This Way Bernadette, Tick a'r Cwmni Sydney
4 Venus Felicia a'r Bechgyn Sydney
5 Go West Bernadette, Tick, Adam a'r Cwmni Sydney
6 I Say a Little Prayer Tick a'r Divas The Black Stump
7 I Love The Nightlife Shirley, Bernadette, Mitzi, Felicia a'r Cwmni Broken Hill
8 Both Sides Now Bernadette, Tick ac Adam Brioken Hill
9 Follie! Delirio vano è questo! Sempre libera (o La Traviata) Felicia a'r Divas The Road to Nowhere
10 Colour My World Adam, Tick, Bernadette a'r Cwmni The Middle of Nowhere
10 I Will Survive Bernadette, Adam, Tick, Jimmy a'r Cwmni The Middle of Nowhere

Act Dau[golygu | golygu cod]

Rhif yr olygfa cân Performiwr(wyr) Lleoliad
11 Thank God I'm a Country Boy Y Cwmni Woop Woop
12 A Fine Romance Young Bernadette a Les Girls Woop Woop
13 Shake Your Groove Thing Mitzi, Bernadette, Felicia a'r Divas Woop Woop
13 Pop Muzik Cynthia a'r Cwmni Woop Woop
13 A Fine Romance (reprise) Bob Woop Woop
14 Girls Just Wanna Have Fun Y Divas ac Adam The Back of Beyond
15 Hot Stuff Felicia, y Divas a Bernadette Coober Pedy
16 MacArthur Park Bernadette, Tick, Adam a'r Cwmni Coober Pedy
17 Boogie Wonderland Marion a'r Cwmni Alice Springs
18 The Morning After Mitzi, Bernadette, Felicia a'r Divas Alice Springs
18 Go West (reprise) Adam Alice Springs
19 Always on My Mind Tick a Benji Alice Springs
20 Confide in Me Felicia Uluru
20 We Belong Felicia, Mitzi a Bernadette Uluru
20 Finally/Shake Your Groove Thing/Hot Stuff/I Love the Nightlife/I Will Survive Y Cwmni Finale

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]