Wicked (sioe gerdd)
Wicked | |
Poster y sioe wreiddiol | |
---|---|
Cerddoriaeth | Stephen Schwartz |
Geiriau | Stephen Schwartz |
Llyfr | Winnie Holzman |
Seiliedig ar | Yn seiliedig ar nofel Gregory Maguire Wicked |
Cynhyrchiad | 2003 San Francisco peilot 2003 Broadway |
Gwobrau | Gwobr Drama Desk am Sioe Gerdd Eithriadol Gwobr Drama Desk Award am Lyfr Eithriadol o Sioe Gerdd Gwobr Drama Desk am Eiriau Eithriadol Gwobr Drama Desk am Gerddorfeydd Eithriadol |
Sioe gerdd yw Wicked, sy'n seiliedig ar y nofel boblogaidd Wicked: The Life and Times of the Wicked Witch of the West gan Gregory Maguire, sy'n debyg i nofel glasurol L. Frank Baum, The Wonderful Wizard of Oz ond o safbwynt gwrachod Gwlad Oz. Ysgrifennwyd y caneuon a'r geiriau gan Stephen Schwartz a'r llyfr gan Winnie Holzman.
Mae'n adrodd hanes Elphaba, Gwrach Greulon y Gorllewin a'i pherthynas gyda Glinda, Gwrach Dda y Gogledd. (Yn nodiadau'r albwm, esbonia Gregory Maguire ei fod wedi creu'r enw "Elphaba" o lythrennau cychwynnol enw L. Frank Baum.) Mae'r ddwy'n brwydro i ddatblygu eu perthynas er gwaethaf eu gwahaniaethau o ran personoliaethau a safbwyntiau, y ffaith eu bod yn cystadlu am yr un cariad, eu hymatebion i lywodraeth anonest Oz ac yn y pen draw cwymp cyhoeddus Elphaba o'i huchelfan. Mae'r rhan fwyaf o'r plat wedi ei osod cyn i Dorothy gyrraedd o Kansas, a cheir nifer o gyfeiriadau i olygfeydd a deialog enwog o'r ffilm The Wizard of Oz.
Agorodd y sioe ar Broadway, Dinas Efrog Newydd ar 30 Hydref 2003. Cafodd ei gynhyrchu gan Universal Pictures a'i chyfarwyddo gan Joe Mantello, gyda'r llwyfannu cerddorol gan Wayne Cilento.