Daniel O'Connell
Daniel O'Connell | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | the Liberator, the Emancipator ![]() |
Ganwyd | 6 Awst 1775 ![]() Cathair Saidhbhín ![]() |
Bu farw | 15 Mai 1847 ![]() Genova ![]() |
Man preswyl | Douai, Dulyn ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr, llenor ![]() |
Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Radicals ![]() |
Tad | Morgan O'connell ![]() |
Mam | Catherine O'mullane ![]() |
Priod | Mary O'Connell ![]() |
Plant | Morgan O'connell, Daniel O'connell, Maurice O'connell, John O'connell, Ellen Fitzsimon, Catherine O'connell, Edward O'connell, Elizabeth Mary O'connell, Daniel Stephen O'connell, Mary O'connell, Rickarda O'connell ![]() |
Perthnasau | Máire Ní Dhonnchadha Dhuibh, Eibhlín Dhubh Ní Chonaill ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gwleidydd o Iwerddon a ymgyrchodd dros ryddid crefyddol i Gatholigion Iwerddon oedd Daniel O'Connell (Gwyddeleg: Dónal Ó Conaill) (6 Awst 1775 – 15 Mai 1847). Roedd y brydyddes Wyddeleg Eibhlín Dhubh Ní Chonaill yn fodryb iddo.
Yn ystod y 1820au gwethiai'n ddyfal dros ennill yr hawl i eistedd yn Senedd Prydain gan Gatholigion, "braint" oedd yn gyfyngedig i Brostestanniaid yn unig yr adeg honno. Roedd yn Gatholig ei hun a phan enillodd sedd fel Aelod Seneddol Swydd Clare yn 1828 bu rhaid i lywodraeth Prydain Fawr ildio. Ar ôl hynny cafodd ei lysenwi 'Y Rhyddhawr'.
Ei uchelgais nesaf oedd ceisio gwrthddeddfu Undeb Iwerddon â Phrydain Fawr, ond methiant fu hynny, yn rhannol am iddo golli cefnogaeth y mudiad mwy chwyldroadol Iwerddon Ifanc (Young Ireland).