Eibhlín Dhubh Ní Chonaill

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd o Wyddeles a gyfansoddodd un o'r cerddi diweddar enwocaf yn yr iaith Wyddeleg oedd Eibhlín Dhubh Ní Chonaill (fl. 1770au). 'Elen Ddu ferch Conal' fyddai ei henw yn Gymraeg.

Roedd Eibhlín yn ferch fonheddig ac yn aelod o deulu'r O'Conneliaid, un o'r olaf o'r teuluoedd uchelwrol Gwyddelig a lwyddasai i ddal eu tir yn Iwerddon. Roedd hi'n enedigol o Dhoire Fhíonáin (Derrynane) yn Swydd Ciarraí (Kerry) ac yn fodryb i Daniel O'Connell, 'Y Rhyddhawr'.

Merch annibynnol iawn oedd hi a briododd â Art Ó Laoghaire (Art O'Leary), marchog o gapten ifanc yn yr Hussars Hwngariaidd. Ar ôl priodi bu'r pâr ifanc yn byw ar dir yr Ó Laoghaire ger Magh Chromtha (Macroom), Swydd Corcaí (Cork). Ond ar ôl ffrae gyda'r Uchel Siriff lleol, Abraham Morris, bu rhaid i Art droi'n herwr. I ddial ei gam cychwynodd allan i ladd Morris ar 4 Mai, 1773, ond roedd rhywun wedi ei fradychu i'r siriff a chafodd Art ei saethu'n farw cyn cyrraedd y llys.

Credir mai ei wraig Eibhlín yw awdures y chaoineadh (keen: galargerdd) wreiddiol i Art a drosglwyddid ar lafar gan y werin ac sydd ar gael mewn sawl fersiwn erbyn heddiw. Mae'n un o'r cerddi grymusaf a dwysaf yn yr iaith Wyddeleg ac mae'n rhan o lên gwerin y wlad.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir detholiad o destun Gwyddeleg Chaoineadh Art Ó Laoghaire gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog) yn:

  • Seán Ó Tuama a Thomas Kinsella (gol.), An Duanaire 1600-1900: Poems of the Dispossessed (Gwasg Dolmen, Portlaoise, 1981; argraffiad newydd 1990)