Daniel James (Gwyrosydd)
| Daniel James | |
|---|---|
| Ffugenw | Gwyrosydd |
| Ganwyd | 23 Ionawr 1848 Treboeth |
| Bu farw | 16 Mawrth 1920 Treforys |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, pwdler haearn |
Bardd Cymraeg oedd Daniel James (23 Ionawr 1848 – 11 Mawrth 1920),[1] a gyhoeddai dan ei enw barddol "Gwyrosydd". Ef biau'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' a gennir gan amlaf ar yr emyn-don 'Calon Lân'.[2]
Brodor o bentref Treboeth, Abertawe oedd Gwyrosydd, cyn troi ei drem tua gwaith tunplat Glandŵr. Bu'n gweithio fel torrwr beddau yn Aberpennar am ugain mlynedd, yng ngwaith haearn Treforys, Blaengarw ac yng Ngwaith Haearn Dowlais. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Mynydd Bach, Abertawe.[3]
Cyfansoddodd nifer o gerddi poblogaidd a gyhoeddwyd mewn cylchgronau fel darnau adrodd. Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi, sef Caneuon Gwyrosydd, Caniadau Gwyrosydd, ac Aeron Awen Gwyrosydd. Nid oes gwerth llenyddol parhaol i'r cerddi hyn, sy'n nodweddiadol o ganu poblogaidd y cyfnod, ond mae ei gerdd sy'n dechrau gyda'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' (cyhoeddwyd yn 1892) yn gyfarwydd o hyd fel geiriau'r emyn-don 'Calon Lân'.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Caneuon Gwyrosydd (1885)
- Caniadau Gwyrosydd (1892)
- Aeron Awen Gwyrosydd (1898)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein. Adalwyd 25 Ebrill 2014
- 1 2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- ↑ nation.cymru; adalwyd 24 Ionawr 2025.