Dadl Antiqua–Fraktur
Y Ddadl Antiqua–Fraktur oedd y term ar ymrafael teipograffegol bu am sawl cenhedlaeth o fewn y byd Almaeneg ar sut i ysgrifennu ac argraffu'r iaith. Parhaodd o'r cyfnod Rhamantiaeth Almaenig wedi rhyfeloedd Napoleon hyd at ddileu y sgript gan y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd y Ddadl yn un a aeth at wraidd beth oedd syniad pobl o genedligrwydd Almaenig yn ogystal â'r ffordd fwyaf effeithiol o gyfathrebu a dysgu plant i ysgrifennu.
Yn hyn o beth mae'n ymdebygu at y drafodaeth ar ddadleuon o ddefnyddiau sgriptiau 'cenedlaethol' mewn ieithoedd eraill megis yn yr Iwerddon a Gwlad y Basg. Dylid cofio bod y sgript Gothig/Fraktur, yn wahanol i'r sgript Geltaidd yng Nghymru neu Basgeg yn y Basgtir, nid yn addurn yn unig. Fel y sgript Wyddeleg / Geltiadd yn Iwerddon, roedd plant yn cael ei dysgu i ysgrifennu'r iaith gan ddefnyddio'r arddull yma. Mewn Fraktur felly byddai pobl yn ysgrifennu llythyrau, cofnodion a chyhoeddi gwaith print.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ysfrifennwyd yr iaith Almaeneg mewn sgript Gothig (a adnabir hefyd fel Blackletter a Fraktur - Blackletter oherwydd defnydd o ddu trwm yn y llythrennau, Fraktur oherwydd nad oedd modd ysgrifennu'r llythrennau mewn un llif cyson).
Gothig oedd y sgript a ddefnyddiwyd yn helaeth ar draws Ewrop gyda dyfodiad y wasg argraffu, gan gynnwys mewn llyfrau cynnar yn y Gymraeg, fel gwelir yn y llyfr cyntaf i'w hargraffu yn y Gymraeg, Yn y lhyvyr Hwnn (1547). Yn hwyrach datblygwyd strip 'Lladin' neu Antiqua fel gelwir. Sgript yw hon sy'n fwy crwn ac yn llifo mewn un symudiad a lledoedd o fewn yr ieithoedd Romans ac ymlaen at ieithoedd fel y Saesneg a'r Gymraeg.
Erbyn y 19g roedd Fraktur (ffurf ar Gothig) yn cael ei ffafrio gan y gymuned Almaeneg a rhai ieithoedd eraill megis Tsieceg hyd at ail hanner yr 19g a'r Daneg a Norwyeg hyd at 1875 (roedd Norwy yn rhan o Ddenmarc hyd at 1904). Roedd ieithoedd eraill Ewrop yn ffafrio Antiqua - y ffurf rydym ni'n fwy cyfarwydd â hi.
Yn ystod y cyfnod yma roedd yn gyffredin i lyfrau argraffu'r iaith Almaeneg mewn Fraktur. Byddai geiriadur Saesneg-Almaeneg felly yn argraffu'r Almaeneg mewn Fraktur a'r Saesneg mewn Antiqua ar yr un dudalen.
Twf cenedligrwydd Almaenig yn y 19eg ganrif
[golygu | golygu cod]Dechreuodd y ddadl dros y ddau sgript yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac felly ran helaeth o'r tiroedd Almaeneg i Napoleon yn 1806. Arweiniodd y sioc yma i'r Almaenwyr ystyried yn ddwys beth oedd ei cenedligrwydd a phwysigrwydd ei hiaith. Yn rhan o'r adwaith ac adfywiad Rhamantaidd yma dyrchafwyd llên gwerin Almaeneg a gwaith y Brodyr Grimm, chwynnwyd yr Almaeneg o dermau tramor Ffrengig neu Ladin.
Daeth y sgriptiau felly i gynrychioli gwahanol agweddau ac eidiolegau. Gwelwyd Antiqua fel teip 'an-Almaenig' ag iddi gysyniadau o fod yn "ysgafn", "bâs" a "ffwrdd â hi". Roedd y teip Fraktur, ar y llaw arall, yn ôl ei chefnogwyr yn cynrychioli gwerthoedd Almaenig honedig megis dyfnder a syberwydd.
Yn ystod yr Oes Rhamantaidd hefyd, fe ddyrchafwyd yr Oesoedd Canol ac felly, fe roeddwyd i'r Fraktur (yn gamarweiniol) ddadansoddiad ei bod yn cynrychioli aestheteg Gothig Almaenig.
Gwrthwynebiad poblogaidd i Antiqua
[golygu | golygu cod]Dwrdrwyd yr awdur Goethe gan ei fam am iddo ddechrau arddel y sgript Antiqua. Meddai hi wrtho i barhau i fod yn Almaenwr "er mwyn Duw" hyd yn oed yn ei lythrennau.
Gwrthododd, Bismark, Canghellor yr Almaen, â derbyn llyfrau wedi'u hargraffu mewn teip Lladin gan fynnu derbyn llyfrau wedi'u hargraffu mewn print Fraktur Almaeneig: "Deutsche Bücher in lateinischen Buchstaben lese ich nicht!" (llyfrau Almaeneg mewn llythrennau Lladin ddarllennaf i fyth!).[1]
Yr 20fed ganrif
[golygu | golygu cod]Parhaodd y Ddadl rhwng Antiqua a Fraktur i mewn i'r 20g. Dadleuwyd bod rhinweddau Fraktur nid yn unig yn rai cenedlaethol ond hefyd fod Fraktur yn fwy addas at argraffu yr iaith Almaeneg ac ieithoedd Almaenaidd eraill nag Antiqua.
Yn ei gyhoeddiad o 1910 honna Adolf Reinecke, Die deutsche Buchstabenschrift, y manteision isod o blaid Fraktur i barhau i fod y ffont Almaenaidd:
- Mae'r sgript Almaenaidd yn haws i'w ddarllen h.y. mae'r delweddau o'r geiriau yn gliriach na sgrip Lladin (Antiqua).[2]
- Mae'r sgript Almaenaidd yn fwy compact wrth argraffu, sydd yn fantais ar gyfer adnabod delweddau gair yn sydyn wrth ddarllen.
- Mae'r sgript Almaenaidd yn fwy addas ar gyfer mynegu'r iaith Almaeneg gan ei fod wedi ei haddasu i nodweddion yr iaith Almaeneg yn fwy na'r sgript Lladin.
- Dydy'r sgript Almaenaidd ddim yn achosi myopia ac mae'n iachach i'r llygaid na'r sgript Lladin.[3]
- Mae'r sgript Almaenaidd yn dal yn agored i'w haddasu; mae'r sgript Lladin wedi ei naddu mewn carreg.
- Mae'r sgript Almaenaidd yn cael ei darllen a'i hadnabod ar draws y byd ac fe'i defnyddir yn aml fel sgript addurniadol.
- Mae'r sgript Almaenaidd yn ei gwneud yn haws i dramorwyr ddeall yr iaith Almaeneg.[4]
- Bydd y sgript Lladin, maes o law, yn colli ei safle fel y sgript ryngwladol oherwydd datblygiad a llwyddiant y byd Eingl-Sacsoneg (wrth 'Eingl-Sacsoneg' golyga'r awdur fod y DU, UDA ac Awstralia dal yn ddigon "Almaenig" i ddifa'r freuddwyd o'r ysgrifenwyr Lladinaidd fel sgrpt byd-eang.[5]
- Bydd defnyddio'r sgript Lladin ar gyfer yr iaith Almaeneg yn halogi'r iaith Almaeneg gyda geiriau tramor.
- Dydy'r sgript Almaenaidd ddim yn lyffethair ar esblygiad a lledaeniaid yr iaith Almaeneg a'r diwylliant Almaenig mewn gwledydd eraill.
Ar 4 Mai 1911, daeth y ddadl i'w penllanw gyda phleidlais yn Reichstag yr Ymerodraeth Almaenig yn Berlin. Fe roddodd y Verein für Altschrift ("cymdeithas yr hen sgript", a oedd, yn gamarweiniol, yn cefnogi'r sgript Lladin, Antiqua) gynnig i wneud Antiqua yn sgript swyddogol yr Ymwerodraeth Almaenig (Fraktur oedd y sgript swyddogol ers sefydlu'r Ymerodraeth) ac i beidio dysgu sgript Kurrent (steil blackletter, crwn) yn yr ysgolion. Wedi dadl hir ac emosiynol, gwrthodwyd y cynnig o 85-82 pleidlais.
Yn dilyn hyn, gofynnwyd gan Weinidogaeth Gwyddoniaeth, Celf a Diwylliant Prwsia ar i'r dylunydd graffig, Ludwig Sütterlin, ddatblygu ffont Kurrent newydd addas ar gyfer ysgolion y dalaith. Gwnaethpwyd hynny, a mabwysiadwyr Sütterlinschrift gan Brwsia yn 1915 gan yna lledaenu ar draws yr Almaen.
Cyfnod y Natsïaid
[golygu | golygu cod]Gwnaethpwyd defnydd trwm ffontiau Fraktur yn ystod cyfnod y Natsïaid lle hyrwyddwyd hwy fel gwir sgript Almaenig a dwrdiwyd y wasg am ddefnyddio "llythrennau Rhufeinig" o dan "ddylanwad Iddewig" a pwyswyd ar Almaenwyr tramor i ddefnyddio'r "sgript Almaenaidd".[6]
Ond, ar 1 Ionawr 1941 rhoddwyd ban ar ddefnydd o'r Fraktur yn y Schrifterlass ('Gorchymyn ar Sgript') a arwyddwyd gan Martin Bormann oherwydd ei bod (yn eironig!) yn Schwabacher Judenlettern ("Schwabacher llythrennau Iddewig, ffurf arall ar sgript Fraktur yw Schwabacher").[7]
Mae'r Gorchymyn yn sôn am gyhoeddiadau oedd i fynd i diroedd tramor a orestyngwyd gan y Natsïaid. Gellir tybio mae'r un o'r rhesymau dros y newid polisi oddi ar Fraktur oedd y byddai Antiqua yn haws i'r trigolion di-Almaeneg i'w ddeall. Daeth y sbardun am y tro ar fyd sydyn gan Joseph Goebbels a'i Weindyddiaeth dros Ymolead Cyhoeddus a Phropaganda.[8] Yn wir, roedd darllenwyr y tu hwnt i'r tiroedd Almaeneg yn anghyfarwydd gyda teipiau Fraktur. Roedd y Natsïaid wedi bod yn argraffu llyfrau, papurau newydd a deunydd ar gyfer cynulleidfa dramor mewn Antiqua ers peth amser. Byddai wedi bod yn bosib felly newid i gyhoeddi popeth ar gyfer y tiroedd gorchyfiedig mewn Antiqua heb yr angen i newid teipwynebau yn y tiroedd Almaeneg eu hiaith.
Mae'n fwy tebygol mai'r rheswm am y newid barn oedd diffyg hoffter Adolf Hitler tuag at Fraktur fel y nododd mewn araith yn y Reichstag.Meddai Hitler mewn datganiad yn y Reichstag ar 7 Medi 1934,
"Dydy'ch mewnblygrwydd Gothig honedig ddim yn cydfynd gyda'r oes yma o ddur ac haearn, gwydr a choncrit, pryderthwch benywaidd a chryfder gwrol, o ben wedi ei chodi'n uchel â bwriad di-ildio ... Mewn can mlynedd, ein hiaith bydd iaith Ewrop. Bydd y cenhedloedd i'r dwyrain, i'r gogledd ac i'r gorllewin yn cyfathrebu gyda ni, dysgu ein hiaith. Yn cynsail i hyn: Dislodi y sgript a elwir yn Gothig gan y sgript a alwn yn Lladin hyd yma ..."
Ar 1 Medi 1941 cyhoeddodd Bormann Orchymyn arall yn baniwyd pob sgrip Fraktur, gan gynnwys Sütterlin, fel modd o ddysgu plant i ysgrifennu yn yr ysgolion. Mabwysiadwyd beth a elwyd yn deutsche Normalschrift y ffont Lladin, Antiqua. Gydag hynny, daeth cefnogaeth swyddogol i'r sgript Kurrent i ben.
Wedi'r Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Parhwyd i ddysgu Sütterlinschrift mewn rhai ysgolion Almaeneg hyd at yr 1970au ond dydy bellach ddim yn sgript boblogaidd. Cymaint felly, fel nad yw cenhedlaethau a addysgwyd wedi'r Ail Ryfel Byd yn gallu darllen y llawysgrifen yn hawdd.
Gwneir peth defnydd o ffontiau Kurrent mewn enwau busnesau er mwyn rhoi arlliw o hirhoedledd a hanes ond ni gwneir defnydd ymarferol ohoni. Lle caiff y ffontiau Kurrent eu defnyddio fe addasir hi er mwyn ei symleiddio i'r darllenydd cyfoes; defnyddir 's crwn' yn hytrach na'r 's hir' (ſ) ar ddechrau sillafiad, ni ddefnyddir y clymlythrennau (ar gyfer ch, ck, sch, sz (ß), st ) a'r defnydd o lythrennau sy'n mwy tebyg i rai Antiqua yn hytrach na rhai anodd i'w darllen Fraktur, megis 'k'.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Adolf Reinecke, Die deutsche Buchstabenschrift: ihre Entstehung und Entwicklung, ihre Zweckmäßigkeit und völkische Bedeutung, Leipzig, Hasert, 1910, t. 79.
- ↑ Reinecke, pp. 42, 44.
- ↑ Reinecke, pp. 42, 49.
- ↑ Reinecke, pp. 58–59.
- ↑ Reinecke, p. 62.
- ↑ Eric Michaud, The Cult of Art in Nazi Germany, tr. Janet Lloyd, Stanford, California: Stanford University Press, 2004, ISBN 9780804743266, pp. 215–16 and Plate 110.
- ↑ Facsimile o Femorandwm Bormann (mewn Almaeneg)
Mae'r Memorandum ei hun wedi ei deipio mewn Antiqua, ond mae'r pennawd NSDAP wedi ei hargraffu mewn Fraktur.
"For general attention, on behalf of the Führer, I make the following announcement:
It is wrong to regard or to describe the so-called Gothic script as a German script. In reality, the so-called Gothic script consists of Schwabach Jew letters. Just as they later took control of the newspapers, upon the introduction of printing the Jews residing in Germany took control of the printing presses and thus in Germany the Schwabach Jew letters were forcefully introduced.
Today the Führer, talking with Herr Reichsleiter Amann and Herr Book Publisher Adolf Müller, has decided that in the future the Antiqua script is to be described as normal script. All printed materials are to be gradually converted to this normal script. As soon as is feasible in terms of textbooks, only the normal script will be taught in village and state schools.
The use of the Schwabach Jew letters by officials will in future cease; appointment certifications for functionaries, street signs, and so forth will in future be produced only in normal script.
On behalf of the Führer, Herr Reichsleiter Amann will in future convert those newspapers and periodicals that already have foreign distribution, or whose foreign distribution is desired, to normal script." - ↑ Michaud, tt.216–17.