Kurrent

Oddi ar Wicipedia
Kurrent
Enghraifft o'r canlynolYsgrifen redeg, bicameral script, sgript naturiol, handwriting style Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Daeth i benIonawr 1941 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y wyddor mewn sgript Kurrent o tua 1865. Dangos'r linell olaf ond un yr umlautiaid ä, ö, ü, a'r llythrennau bras cyfatebol Ae, Oe, ac Ue; yn y linell olaf ceir y clymlythrennau ch, ck, th, sch, sz (ß), ac, st.
Y sgript Kurrent Daneg (»gotisk skrift«) o tua 1800 gyda'r Æ ac Ø ar ddiwedd y wyddor
Enghraifft o'r Vereinfachte Ausgangs‌schrift, y 'Ffont Allbwn Symlach' a gyflwynwyd o 1953 ymlaen, gyda diweddariadau, yn ysgolion yr Almaen wedi'r Normanlschrift yn sgil diflaniad Fraktur a Kurrent

Ffont, neu sgript, llawysgrifen ac argraffu yw Kurrent a ddaeth i'w hadnabod fel y ffurf Almaenig o ysgrifennu.

Ffurf o ysgrifen redeg yw Kurrent. Daw'r enw o'r Lladin currere ("redeg"). Adnebir y ffont weithiau fel Kurrentschrift neu Alte Deutsche Schrift ("hen sgript Almaeneg"). Defnyddiwyd addasiadau o'r Kurrent o'r Oesoedd Canol hyd at 1941 pan penderfynwyd y Natsiaid cael gwared arni a defnyddio'r sgript Ladin, neu Sans-serif, o'i roi enw arall arni. Lladin neu Antiqua yw'r sgript a ddefnyddwyd ar draws y rhan fwyaf o Ewrop gan gynnwys Gwledydd Prydain.

Yr addasiad, neu esblygiad olaf ar y ffont Kurrent oedd ffont Sütterlin, neu'r Sütterlinschrift yn Almaeneg.

Hanes[golygu | golygu cod]

Addasiad ar sgript Gothig (a elwir hefyd yn Fraktur neu Blackletter) yw Kurrent. Dyma oedd prif ffont argraffu yn yr Oesoedd Canol fel gwelir o hen argraffiadau o lyfrau Cymraeg a Saesneg y cyfnod. Datblygwyd Kurrent yn yr 16g allan o'r ffont 'Bastard'. Defnyddir y term 'Fraktur' i ddisgrifio natur yr broses o ysgrifennu, hynny yw, rhaid torri llif y llawysgrifen wrth ysgrifennu llythyren yn hytrach na gwneud un llif parhaus fel ceir mewn ffontiau a ddaeth i'w adnabod fel Lladin neu Antiqua a ddefnyddiwyd mewn ieithoedd eraill megis rhai Romans, Cymraeg a Saesneg.

Kurrent daeth i fod yn brif ysgrifen cyfathrebu mewn llythyrau personol a swyddogol yn y byd Almaeneg.

Er i ieithoedd eraill, megis Ffrangeg, Saesneg neu Eidaleg fabwysiadu ffurfiau ar ffont 'Antiqua' neu 'Lladin, yn ystod yr 17g a'r 18g daliodd yr Almaeneg i ddefnyddio Gothig. Defnyddiwyd hi hefyd yn Norwy a Denmarc nes 1875.

Serch hynny, byddai ysgrifenwyr yn defnyddio Kurrent wrth ysgrifennu yn Almaeneg ond ffont crwn (cursive) Lladin, Antiqua wrth ysgrifennu mewn iaith arall. Byddai geiriadur Saesneg-Almaeneg, er enghraifft yn cynnwys geiriau Saesneg mewn ffont Lladin ond geiriau Almaeneg mewn Kurrent.

Yr Ugeinfed Ganrif[golygu | golygu cod]

Yn 1911 penodwyd dylunydd graffig o'r enw Ludwig Sütterlin i ddatblygu ffont i'w ddefnyddio yn ysgolion talaith Prwsia. Y bwriad oedd i greu ffont symlach na'r Kurrent blaenorol. Mabwysiadwyd y Sütterlinschrift (ffont Sütterlin) yn 1915 a lledodd yn ystod yr 1920 ar draws yr Almaen. Dyma oedd y ffurf swyddogol a ddysgwyd i blant sut oedd ysgrifennu yn yr Almaeneg. Gydag hyn daeth y defnydd o'r term 'Kurrent' allan o ddefnydd wrth i bobl arddel Sütterlinschrift, neu Sütterlin, fel y modd o ysgrifennu. Ni fabwysiadwyd Sütterlin yn Awstria, parhawyd i ddefnyddio'r Kurrent blaenorol.

Am amryw resymau, anhoffter Hitler o'r sgript Fraktur, anhwylustod argraffu, anallu trigolion gwledydd wedi eu goresgyn gan y Reich Natsiaid i ddarllen y sgript, cafwyd gwared ar Sütterlin a'r sgrip Kurrent yn ystod y Ail Ryfel Byd. Cyhoeddodd yr arweinydd Natsiaidd, Martin Bormann, ddeddf ar 3 Ionawr 1941 yn dileu defnydd o Sütterlin neu Kurrent mewn deunydd print ac yna ar 1 Medi 1941 cafwyd gwared arni fel modd o ddysgu plant i ysgrifennu. Mabwysiadwyd beth a elwyd yn 'deutsche Normalschrift' y ffont Lladin, Antiqua.

Gydag hyn daethpwyd i ben ar yr hyn a elwyd yn Dadl Antiqua-Fraktur, dadl tanbaid dros sut oedd ysgrifennu'r iaith Almaeneg, a dadl a barhaodd trwy gydol yr 19g a dechrau'r 20g.

Arddull[golygu | golygu cod]

Mae'r Kurrentschrift yn gwyro i'r dde gyda bwâu ar y llythrennau dyrchafol (mynd uwchben llinell anweledig ganolig y ffont mewn teipograffeg). Rhoir coesau hir disgynedig i'r llythrennau 'f' ac 's' megis mewn ffontiau hŷn. Mae'r llythrennau 'h' a 'z' yn cynnwys lŵp wrth droed y lythyren. Mae'r 'e fach' yn anghyfarwydd a dryslyd i'r darllenydd cyfoes, Lladin Antiqua gan ei fod mor debyg i'r 'n'. O'r hen ffurf yma o'r 'e' y daw ffurf yr umlaut a roi'r uwchben llythrennau Almaeneg. Os na fydd y gallu gan argraffydd i ddefnyddio umlaut, y confensiwn hyd heddiw yw roi e ar ôl y llefariad e.e. ae, oe, ue ar gyfer ä, ö, ü.

Ceir hefyd glymlythrennau ar gyfer ch, sch, tz (gw. delwedd uchod dde). A gwelir yr Eszet, yr ß, llythyren unigryw yr Almaeneg.

Gan fod y llythrennau 'n' ac 'u' hefyd yn edrych mor debyg, rhoi'r bwa dros yr u i'w amlygu. Rhoir hefyd llinell syth uwchben 'm' ac 'n' er mwyn dynodi dyblu'r llythrennau.

Esiamplau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deipograffeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.