Cynllun Morgenthau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tiriogaeth a gollwyd gan yr Almaen (Saarland i Ffrainc, Silesia Uchaf i Wlad Pwyl, Dwyrain Prwsia, rhannu rhwng Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd

Roedd Cynllun Morgenthau ("The Morgenthau Plan") yn gynllun arfaethiedig ar gyfer dyfodol yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd a ddatblygwyd gan Henry Morgenthau, Ysgrifennydd Trysorlys Unol Daleithiau America.

Cyflwynwyd cynllun Morgenthau ar 9 Medi 1944 yn ystod ail gynhadledd Prydain-America yn Ail Gynhadledd Québec (11-16 Medi 1944) ac fe’i cefnogwyd gan Franklin D. Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau a Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Fe'i cynigwyr gyntaf gan Morgenthau mewn memorandwm o'r enw, Suggested Post-Surrender Program for Germany. Fe'i beirniadwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol UDA, Cordell Hull, a Gweinidog Tramor Prydain, Anthony Eden. Cafodd dderbyniad gwael yn f arn gyhoeddus a chylchoedd busnes America hefyd. Ar ddiwedd ym mis Tachwedd 1944 cafodd ei wrthod gan Roosevelt.

Argymhellion Cynllun[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. rhaniad yr Almaen yn dair rhan - De, Gogledd, a Pharth Ryngwladol
  2. roedd rhan ogleddol Dwyrain Prwsia i gael ei chysylltu â'r Undeb Sofietaidd, y rhan ddeheuol, Silesia Uchaf a rhan o Silesia Isaf i Wlad Pwyl, a'r ardal dros afon Rhein a Moselle i Ffrainc
  3. dadfilwro yn llwyr,
  4. datgymalu y diwydiannau trwm
  5. creu gwladwriaeth amaethyddol a bugeiliol
  6. meddiannaeth y gwledydd sy'n dod i'r amlwg gan luoedd y Cynghreiriaid

Beirniadwyd y cynllun hwn yn eang, yn enwedig gan gabinet Prydain, o ystyried effeithiau trychinebus niwtraleiddio'r Almaen gan Gytundeb Versailles yn 1919.

Yn raddol, adolygodd Roosevelt ei farn ar y cynllun hwn, a ddaeth i ben ym mis Medi 1946 [1][2] a'i ddiystyru'n ffurfiol ym mis Gorffennaf 1947 wedi Cytundeb Paris ac wrth i linellau y Rhyfel Oer rhwng y gorllewin (UDA, Prydain, Ffrainc) a'r Undeb Sofietaidd.[3]

Dadleuol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1947, ysgrifennodd Herbert Hoover: "There is the illusion that the New Germany left after the annexations can be reduced to a 'pastoral state'. It cannot be done unless we exterminate or move 25,000,000 people out of it." [4]

Pan gyhoeddwyd Cynllun Morgenthau gan wasg yr UD ym mis Medi 1944, atafaelwyd arno ar unwaith gan lywodraeth Almaeneg Natsïaidd, a'i ddefnyddio fel rhan o ymdrechion propaganda yn saith mis olaf y rhyfel yn Ewrop a anelodd i argyhoeddi Almaenwyr i ymladd ymlaen.

Ym 1951, rhoddwyd y gorau i ddatgymalu ffatrïoedd a therfynau cynhyrchu llym.[5] O'r flwyddyn 1947, strategaeth polisïau'r UDA oedd ailgodi "(a) stable and productive Germany" a dilynwyd hyn yn fuan gyda Chynllun Marshall.[6][7]

Cynadleddau Pwysig Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nodyn:Article
  2. James Francis Byrnes and U.S. Policy towards Germany 1945-1947 Deutsch-Amerikanische Zentrum / James-F.-Byrnes-Institute.V
  3. Nodyn:Article
  4. quoted by John Dietrich, The Morgenthau Plan: Soviet Influence on Amer Postwar Policy, Algora Publishing , 2007, p. 117
  5. Nodyn:Article.
  6. Beschloss, tt. 169–170.
  7. Greiner 1995, tt. 327–328.