Cyngen ap Cadell
| Cyngen ap Cadell | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 778 |
| Bu farw | c. 854 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
| Tad | Cadell Powys |
| Priod | Tutglud ach Brychan |
| Plant | Elisedd ap Cyngen, Gruffydd ap Cyngen |
| Llinach | Teyrnas Powys |
Roedd Cyngen ap Cadell (bu farw 855) yn frenin Powys.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Cyngen o linach Brochwel Ysgithrog ac ar ôl teyrnasiad maith fel brenin Powys aeth ar bererindod i Rufain a bu farw yno yn 855. Credir mai ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Cymru i ymweld â Rhufain ers i'r rhan Gymreig o'r Eglwys Geltaidd gytuno i gydymffurfio ag Eglwys Rhufain a'r Pab ynglŷn â dyddiad y Pasg.
Cododd Cyngen golofn er côf am ei daid Elisedd ap Gwylog sydd i'w gweld yn agos at abaty diweddarach Glyn y Groes. Adnabyddir y golofn fel 'Croes Eliseg' (yn hytrach nag Elisedd) oherwydd camgymeriad gan y sawl oedd yn cerfio'r arysgrif.
Cyngen oedd yr olaf o linach brenhinoedd gwreiddiol Powys. Roedd ganddo dri mab, on pan fu farw cipiwyd Powys gan Rhodri Mawr, brenin Gwynedd oedd yn ei hawlio gan ei fod yn fab i Nest, chwaer Cyngen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- John Edward Lloyd, A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Llundain, 1911)