Cymdeithas Bêl-droed Cymru
UEFA | |
---|---|
Sefydlwyd | 1876 |
Aelod cywllt o FIFA | 1910 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Aelod cywllt o IFAB | 1886 |
Llywydd | Trefor Lloyd-Hughes |
Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC, Saesneg: Football Association of Wales, FAW) yw corff llywodraethol pêl-droed yng Nghymru. Mae CPDC yn aelod o FIFA, UEFA a'r IFAB.
Fe'i sefydlwyd yn 1876 sy'n golygu mai'r gymdeithas yw'r drydedd hynaf yn y byd ar ôl Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a Chymdeithas Bêl-droed yr Alban.[1] Mae hefyd yn un o bedair cymdeithas sy'n ffurfio Bwrdd y Gymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol, sy'n gyfrifol am Reolau'r Gêm, ar y cyd gyda Chymdeithas bêl-droed yr Alban, Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon a FIFA.[2] Mae Cymdeithas Cymru, ynghyd â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (yr IFA, olynydd uniongyrchol y gymdeithas cyn i'r ynys ymrannu) yn aelodau o'r Fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol yr IFAB sy'n rheoli rheolau'r gêm.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yng Ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam ar 2 Chwefror 1876 y cynhaliwyd y cyfarfod cynat a'r enw gwreiddiol oedd "Cymdeithas Bêl-droed Cambria". Y bwriad oedd ffurfioli'r cynlluniau ar gyfer gêm a oedd i'w chwarae rhwng Cymru a'r Alban.[3]
Galwyd cyfarfod arall ym Mai 1876, a hynny mewn gwesty o'r un enw ychydig o filltiroedd o Wrecsam - ym mhentref Rhiwabon ac yno y bedyddiwyd y gymdeithas gyda'r enw Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yno hefyd yr ysgrifennwyd cyfansoddiad y gymdeithas.[4] Aeth y trafodaethau ymlaen tan orian mân y bore, pan gerddodd heddwas i mewn i weld beth oedd yn digwydd, a dywedir iddo ddweud rhybeth fel, "Hyd yn oed os ydych chi'n ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'r gloch wedi'i chanu ac mae'n hen bryd i chi fynd i'w ffurfio yn rhywle arall!"[5]
Chwaraeodd Cymru ei gêm gystaleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn Yr Alban yn Glasgow gan wneud Cymru y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm i'w dychwelwyd y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1882.
Cyfaru'r pedair gwlad gwledydd Prydain ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd y Bwrdd Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru yn bencampwyr 12 gwaith.
Strwythur Cynghreiriau
[golygu | golygu cod]Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gyfrifol am weinyddu cynghreiriau o fewn Cymru. Drysir sefyllfa Cymru rhywfaint gan y ffaith fod y timau mwyaf yn chwarae y tu allan i Gymru yng nghynghreiriau Lloegr.
Ceir system byramid i bêl-droed Cymru. Ar y brig mae Uwch Gynghrair Cymru sef yr unig gynghrair genedlaethol. Bwydir yr Uwch gynghrair gan Cynghrair Cymru (Y De) ar gyfer timau o dde Cymru a Cynghrair Cymru ar gyfer timau'r gogledd. Ceir cynghreiriau yn bwydo i'r cynghreiriau De a Gogledd yma hefyd. Bydd y timau sydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru yn cystadlu i chwarae yng nghystadlaethau UEFA yn Ewrop.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn gyfrifol am strwythur pêl-droed merched yng Nghymru gan gynnwys cynghreiriau pêl-droed merched. Cyhoeddwyd ar gyfer tymor 2021-22 na fyddai'r Gymdeithas yn arddel y gair 'merched' yn nheitl y brif gynghrair er mwyn hyrwyddo statws a normalrwydd pel-droed merched. Galwyd y gynghrair ar ei newydd wedd yn, Cynghreiriau Adran Genero (gan hefyd arddel y gair Cymraeg 'Adran' yn y fersiwn Saesneg o'r twrnament).[6] Prif gynghrair y merched, sydd, fel yr un dynion, yr unig adran sy'n cynnwys timau o dde a gogledd Cymru, yw Adran Premier.
Y Gymdeithas sy'n gyfrifol am dîm cenedlaethol Cymru a'r holl dimau cenedlaethol eraill Cymreig.
Prif Weithredwyr
[golygu | golygu cod]Ym mis Awst 2021, penodwyd Noel Mooney yn Brif Weitredwr y Gymdeithas Bêl-droed.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llewellyn-Jones, Robert (15 Mawrth 2012). "Football must be run by business people, claims FAW chief executive". Wales Online. Cyrchwyd 3 Ebrill 2012.
- ↑ "About FAW - Football Association of Wales". Football Association of Wales. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "1876 Kenrick's Challenge". The Story of Welsh Football. Wrexham County Borough Council. Cyrchwyd 23 Mawrth 2010. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help); Italic or bold markup not allowed in:|publisher=
(help) - ↑ "Who was the inspiration behind Wales' first football team?". The Story of Welsh Football. Cyngor Sir Wrecsam. Cyrchwyd 23 Marwrth 2010. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help); Check date values in:|accessdate=
(help) - ↑ 100 Years of Welsh Soccer - The Official History of The Football Association of Wales. Peter Corrigan, 1976.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58209277?at_medium=custom7&at_custom1=%5Bpost+type%5D&at_custom4=BB2F7E76-FE7A-11EB-A247-38460EDC252D&at_custom3=%40BBCCymruFyw&at_custom2=twitter&at_campaign=64
- ↑ https://www.faw.cymru/en/news/noel-mooney-announced-faw-chief-executive/?back=/en/news/&pos=7&category=18