Cwiltio yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Un o'r dulliau mwyaf poblogaidd o wnïadwaith yng Nghymru yw cwiltio. Enillodd cwiltiau le pwysig yn y cartref yn sgil dyfodiad y gwely gortho a'r gwely pabell yn y 17g.[1] Prif ganolfan cwiltio yng Nghymru ydy Llanbedr Pont Steffan, lle ceir canolfan gwiltio.[2]

Modd hawdd a rhad o greu cwilt oedd clytwaith, gan greu gorchudd gwely o nifer o ddarnau o frethyn oedd yn aml efo gwerth personol, er enghraifft clwt o gŵn priodas neu ŵn bedydd. Weithiau cafodd cwiltiau eu haddurno ag appliqué o ddyluniadau blodau a dail. Roedd dyluniadau poblogaidd yng Nghymru yn cynnwys deilen y dderwen, y lili, a'r rhosyn.[3]

Mae tystiolaeth gryf i ddangos bod traddodiad cwiltio'r Amisch yn tarddu o gwiltiau'r Cymry a ymsefydlodd ym Mhensylfania.[4]

Y diwydiant gwlân[golygu | golygu cod]

Prif: Gwlân

Hyd at yr 20g, y diwydiant gwlân oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.[5] Yn yr Oesoedd Canol, roedd yy diwydiant yn hynod o bwysig yn Sir Benfro, lle roedd y trigolion yn nyddu edafedd ac yn gweu brethynnau yn eu cartrefi, iddynt hwy eu hunain, gan werthu unrhyw gynnyrch oedd ganddynt dros ben mewn ffair. Weithiau arferid allforio'r cynnyrch i Fryste. Yno, roedd y diwydianwyr yn ei ail-allforio i Wasgwyn, Llydaw, Portiwgal a Gwlad yr Iâ, a gwnaed elw mawr. Defnyddid y brethyn ar gyfer (a oedd o ansawdd eithaf gwael) ar gyfer gwaith pob dydd yn hytrach nag i edrych yn dda.

Yn y 16g symudodd canolbwynt y diwydiant o Sir Benfro i Sir Feirionnydd, Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Mary Eirwen. Welsh Crafts (Llundain, B. T. Batsford, 1978), t. 43.
  2. Gwefan Canolfan Gwiltio Jen Jones, Llanbedr Pont Steffan; adalwyd 6 Hydref 2012
  3. Jones (1978), t. 47.
  4. Jenkins, Mary a Claridge, Clare. Making Welsh Quilts (Iola, Wisconsin, KP Books, 2005), t. 7.
  5. [Gwyddoniadur Cymru; Gwag Prifysgol Cymru; tud 409; cyhoeddwyd 2008; adalwyd 06 Hydref 2012.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]