Cors Bodwrog

Oddi ar Wicipedia
Cors Bodwrog
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd87.28 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.27°N 4.39°W, 53.267406°N 4.390071°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Mae "Llyn Hendref" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon.

Mae Cors Bodwrog, a leolir yn ardal Bodwrog ger Gwalchmai ar Ynys Môn, wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1961 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 87.28 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Llyn Hendref[golygu | golygu cod]

Hyd at ganol y 1970au pan gafodd y tir ei "wella", safai Llyn Hendref[2] yng nghanol y gors. Roedd hwn yn llyn o 30 erw 190 troedfedd uwch lefel y môr. Roedd pysgod y llyn yn cynnwys brithyll, draenogiad a gwrachen ac roedd y pysgota am ddim. Yn ôl y gyfrol The Lakes of Wales (1931), roedd y gwrachenod yn fawr, y llyn yn tueddu i fod yn frwynog ond y pysgota "yn dda ar adegau".[3]

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  3. Frank Ward, The Lakes of Wales (Llundain: Herbert Jenkins, 1931).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]