Connagh Howard
Connagh Howard | |
---|---|
Ganwyd | 1992 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, personal trainer |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Model, actor a hyfforddwr personol yw Connagh Howard (ganwyd 1992)[1] a ymddangosodd ar gyfres teledu realiti Love Island (ITV) yn 2020.
Bywyd
Magwyd Connagh yng Nghaerdydd yn fab i Wayne a Lynda. Mae ganddo chwaer, Elinor. Mae'n disgrifio ei deulu fel "tipyn o melting pot, mae pobl o pob man". Mae ei daid ar ochr ei dad yn dod o Jamaica gyda mam ei daid o India a'i dad o Cuba. Mae teulu ei fam o'r Iwerddon. Mynychodd Connagh Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.[2]
Cychwynodd ei dad Wayne ddysgu Cymraeg yn 1994. Yn 2002 collodd ei swydd gyda Allied Steel and Wire pan aeth y cwmni i'r wal. Ennillodd wobr Niace Dysgu Cymru - Dysgwr y Flwyddyn yn 2003.[3] Ail-hyfforddodd fel athro gan raddio o UWIC yn 2004. Aeth i ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Uwchradd y Ddihalog Fair, Gwenfo.[4]
Gyrfa
Daeth i enwogrwydd ar draws Prydain wrth ymddangos ar gyfer realaeth boblogaidd, Love Island ar ITV2 [5] ar 16 Ionawr 2020. Disgrifia ei hun fel person sy'n hoff o chwarae rygbi ac yn dilyn bocsio a phêl-droed Americanaidd.[6] Mae'n dilyn y bosciwr Anthony Joshua ac yn falch o'i gwrdd.[7]
Mae'n gweithio fel model i gwmni W Model Management. Ymddangosodd fel hyfforddwr bocsio yn y ffilm Hunky Dory (2011) ac yn y gyfres ddrama Un Bore Mercher ar S4C.[8] [9]
Yn 2018 ymddangosodd ar sianel ar-lein S4C, Hansh gan wneud eitem am ei hun a'i deulu yng Nghaerdydd fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon ar Hansh.[10] Yn yr eitem mae ei dad, Wayne, sydd wedi dysgu Cymraeg yn ymddangos. Nododd Connagh nad oedd "pobl yn disgwyl" ei fod yn siarad Cymraeg, ac er nad yw wedi profi hiliaeth mawr, nododd bod wedi derbyn synau hiliol wrth chwarae rygbi y tu allan i Gaerdydd. Nododd ei fod yn credu bod yn "cŵl gweld chwaewyr croen ddu fel Colin Charvis" yn chwarae i Gymru. Cyn hynny, yn 2017, hefyd iddo adolygu ei 5 Uchaf hoff gemau teledu ar Hansh.[11]
Dolenni Allanol
- Connagh Howard ar Instagram
Cyfeiriadau
- ↑ https://inews.co.uk/culture/television/connaugh-howard-love-island-2020-new-contestant-model-1366325
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/51150251?ns_mchannel=social&ns_campaign=bbc_cymru&ns_linkname=wales&ns_source=twitter
- ↑ Wayne's steely resolve gets him a degree , WalesOnline, 29 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 23 Ionawr 2020.
- ↑ Y frwydr drwy'r cyfnod tywyll , BBC Cymru, 27 Ebrill 2004. Cyrchwyd ar 23 Ionawr 2020.
- ↑ https://www.radiotimes.com/news/tv/2020-01-16/love-island-winter-cast/
- ↑ https://inews.co.uk/culture/television/connaugh-howard-love-island-2020-new-contestant-model-1366325
- ↑ https://metro.co.uk/2020/01/16/how-old-is-love-island-new-boy-connagh-howard-and-what-is-his-job-12067945/
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/tv/connagh-howard-cardiff-love-island-17575261
- ↑ https://www.facebook.com/watch/?v=272121196648645
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=CrEP2uNwNzs
- ↑ https://www.facebook.com/watch/?v=272121196648645