Connagh Howard

Oddi ar Wicipedia
Connagh Howard
Ganwyd1992 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmodel, personal trainer Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Model, actor a hyfforddwr personol yw Connagh Howard (ganwyd 1992)[1] a ymddangosodd ar gyfres teledu realiti Love Island (ITV) yn 2020.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Magwyd Connagh yng Nghaerdydd yn fab i Wayne a Lynda. Mae ganddo chwaer, Elinor. Mae'n disgrifio ei deulu fel "tipyn o melting pot, mae pobl o pob man". Mae ei daid ar ochr ei dad yn dod o Jamaica gyda mam ei daid o India a'i dad o Cuba. Mae teulu ei fam o'r Iwerddon. Mynychodd Connagh Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.[2]

Cychwynnodd ei dad Wayne ddysgu Cymraeg yn 1994. Yn 2002 collodd ei swydd gyda Allied Steel and Wire pan aeth y cwmni i'r wal. Enillodd wobr Niace Dysgu Cymru - Dysgwr y Flwyddyn yn 2003.[3] Ail-hyfforddodd fel athro gan raddio o UWIC yn 2004. Aeth i ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Uwchradd y Ddihalog Fair, Gwenfo.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Daeth i enwogrwydd ar draws Prydain wrth ymddangos ar gyfer realaeth boblogaidd, Love Island ar ITV2 [5] ar 16 Ionawr 2020. Disgrifia ei hun fel person sy'n hoff o chwarae rygbi ac yn dilyn bocsio a phêl-droed Americanaidd.[6] Mae'n dilyn y bosciwr Anthony Joshua ac yn falch o'i gwrdd.[7]

Mae'n gweithio fel model i gwmni W Model Management. Ymddangosodd fel hyfforddwr bocsio yn y ffilm Hunky Dory (2011) ac yn y gyfres ddrama Un Bore Mercher ar S4C.[8] [9]

Yn 2018 ymddangosodd ar sianel ar-lein S4C, Hansh gan wneud eitem am ei hun a'i deulu yng Nghaerdydd fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon ar Hansh.[10] Yn yr eitem mae ei dad, Wayne, sydd wedi dysgu Cymraeg yn ymddangos. Nododd Connagh nad oedd "pobl yn disgwyl" ei fod yn siarad Cymraeg, ac er nad yw wedi profi hiliaeth mawr, nododd bod wedi derbyn synau hiliol wrth chwarae rygbi y tu allan i Gaerdydd. Nododd ei fod yn credu bod yn "cŵl gweld chwaraewyr croen ddu fel Colin Charvis" yn chwarae i Gymru. Cyn hynny, yn 2017, hefyd iddo adolygu ei 5 Uchaf hoff gemau teledu ar Hansh.[11]

Teulu Dad a Fi[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 2023 darlledwyd cyfres Teulu Dad a Fi ar S4C oedd yn olrhain hanes teulu tâd Connagh, ** yng Nghaerdydd, Iwerddon a Jamaica. Roedd y gyfres yn archwilio hanes y teulu yn Nociau Caerdydd a maestref Tredelerch gyda'r berthnasau oedd yn hannu o'r Iwerddon a Jamaica. Cafodd y gyfres ymateb dda yn y wasg wrth iddo ddangos yr hiliaeth a'r tlodi a wynebodd cyndeidiau Connagh. Hannau'r ochr Wyddelig o ardal Inchigeelagh yng ngorllewin Swydd Corc.[12] Roedd Neville, taid Connagh, yn hannu o Jamaica a bu fu farw fis Mawrth 2022 yn 94 oed. Roedd yn un o 31 a ddarganfuwyd yn byw ar fwrdd y llong ochr yn ochr â 600 o deithwyr oedd yn talu pan dociodd yr SS Almanzora yn Southampton ym mis Rhagfyr 1947 a threuliodd 28 diwrnod, gan gynnwys y Nadolig, yn y carchar am deithio heb docyn cyn teithio am Gaerdydd.[13]

Ffit Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 2023 ymddangosodd Connagh fel un o 'ysgogwr' yn y gyfres cadw'n heini ac iaith ar S4C, Ffit Cymru. Ymunodd gyda'r gyfres boblogaidd sy'n dilyn unigolion dros bwysau i golli pwysau a byw yn iachach, i geisio annog yr unigolion i ddyfalbarhau a chwblhau'r heriau.[14] Cyflwynydd y gyfres i Lisa Gwilym a'r gweddill y tîm hyfforddi yw'r; Hyfforddwraig Bersonol Rae Carpenter, y Seicolegydd Dr Ioan Rees, y Dietegydd Beca Lyne-Pirkis[15]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://inews.co.uk/culture/television/connaugh-howard-love-island-2020-new-contestant-model-1366325
  2. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/51150251?ns_mchannel=social&ns_campaign=bbc_cymru&ns_linkname=wales&ns_source=twitter
  3. Wayne's steely resolve gets him a degree , WalesOnline, 29 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 23 Ionawr 2020.
  4. Y frwydr drwy'r cyfnod tywyll , BBC Cymru, 27 Ebrill 2004. Cyrchwyd ar 23 Ionawr 2020.
  5. https://www.radiotimes.com/news/tv/2020-01-16/love-island-winter-cast/
  6. https://inews.co.uk/culture/television/connaugh-howard-love-island-2020-new-contestant-model-1366325
  7. https://metro.co.uk/2020/01/16/how-old-is-love-island-new-boy-connagh-howard-and-what-is-his-job-12067945/
  8. https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/tv/connagh-howard-cardiff-love-island-17575261
  9. https://www.facebook.com/watch/?v=272121196648645
  10. https://www.youtube.com/watch?v=CrEP2uNwNzs
  11. https://www.facebook.com/watch/?v=272121196648645
  12. Dafydd, Cadi (2023). "Iwerddon, Affrica, Cymru a Jamaica". Golwg360.
  13. "Welsh Love Island star discovers his ancestors were shipped to Jamaica as slaves". Nation.Cymru. 23 Chwefror 2023.
  14. "Y Tîm". Gwefan S4C. 2023.
  15. "FFIT Cymru – mae'r gyfres sy'n trawsnewid bywydau yn ôl". Gwefan S4C. 27 Mawrth 2023.