Crëwyd swyddi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, gydag etholiadau yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ar 15 Tachwedd2012. Cynrychiolydd wedi ei ethol yw'r comisiynydd, sydd â chyfrifoldeb dros gadarnhau bod yr heddlu yn gweithredu yn effeithlon ac effeithiol mewn ardal blismona; maent yn disodli'r awdurdodau heddlu. Nid yw hyn yn effeithio ar Lundain sydd â threfniadau ar wahân, na'r Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r plismona wedi cael ei ddatganoli, a'r cyfrifoldeb gyda Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon mewn swydd debyg.
Ni ddylid cymysgu swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gyda'r rheng heddwas "Comisiynydd", a ddelir gan y prif swyddog heddlu yn yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Dinas Llundain (sy'n gwasanaethu'r ddwy ardal blismona yn Llundain).
Yn ymgyrch etholiad cyffredinol 2010, roedd y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnwys cynlluniau yn eu maniffesto, er mwyn disodli ac aildrefnu'r awdurdodau heddlu, gyda'r ddwy blaid yn codi eu pryderon ynglŷn â'r diffyg atebolrwydd a oedd i'w weld gyda'r awdurdodau i'r cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu. Yn dilyn yr etholiad, yn ôl Cytundeb clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol:
“
We will introduce measures to make the police more accountable through oversight by a directly elected individual, who will be subject to strict checks and balances by locally elected representatives.[1]